Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd) 
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig 
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion) 
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet 
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol 
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol   
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad 

Eitem 1: cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 23 a 26 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cyfarfod â Llysgennad Palesteina

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi cael cyfarfod adeiladol gyda'i Ardderchogrwydd Dr Husam Zomlot, Pennaeth Cenhadaeth Palesteina i'r DU, y dydd Gwener blaenorol. 

Tata Steel 

2.2 Gwahoddodd y Prif Weinidog Weinidog yr Economi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y newyddion diweddar am weithfeydd Cwmni Dur Tata ym Mhort Talbot.  Roedd y Cwmni wedi briffio'r Undebau Llafur a'r rheolwyr yr wythnos flaenorol bod penderfyniad ar fin cael ei wneud ynghylch dod â gweithrediadau ffwrnais chwyth i ben ar y safle cyn diwedd y flwyddyn ariannol, a fyddai wedi arwain at tua 3,000 o ddiswyddiadau a mwy o swyddi yn cael eu colli yn y cadwyni cyflenwi. 

2.3 Fodd bynnag, daeth cyfarfod y bwrdd, lle'r oedd y penderfyniad i fod i gael ei wneud, i ben heb unrhyw gadarnhad swyddogol gan y grŵp, a oedd bellach wedi creu cryn ansicrwydd i'r gweithlu.

2.4 Nodwyd y byddai'r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi yn cyfarfod â Tata Steel y bore canlynol, a bod y Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi fod amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 5.50pm ddydd Mawrth yfory, a thua 6.25pm ddydd Mercher. 

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2023