Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol - Iechyd
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr COVID-19 Ailgychwyn
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio, Cyfansoddiad a Chyfiawnder Ewropeaidd
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfiawnder
  • Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 31 Ionawr.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi’i amserlennu am 6:40pm ddydd Mawrth a thua 6:35pm ddydd Mercher. Byddai’r Cyfarfod Llawn yn cwrdd mewn fformat hybrid gyda hyd at 30 o Aelodau yn y Siambr.

Eitem 3: Adolygiad 21 diwrnod o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 10 Chwefror

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur yn crynhoi’r sefyllfa a oedd yn gwella o ran iechyd y cyhoedd a nododd yr ystyriaethau ar gyfer yr adolygiad tair wythnos o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5), a oedd i’w gynnal erbyn 10 Chwefror 2022.

3.2 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd cyhoeddus i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gan y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.

3.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol a Phrif Weithredwr y GIG yng Nghymru i roi trosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd.

3.4 Roedd lefel uchel o drosglwyddiad yn y gymuned o hyd, ond er nad oedd modd osgoi rhywfaint o niwed parhaus gan y feirws, roedd y rhaglen frechu a difrifoldeb is Omicron yn peri bod y niwed hwn yn llawer llai na’r hyn yr oedd y modelu gwreiddiol wedi’i awgrymu.

3.5 Roedd optimistiaeth ofalus fod y sefyllfa’n gwella ac argymhellwyd lleddfu’r mesurau diogelu yn raddol. Roedd yn bwysig parhau i weithio ar draws y pedair gwlad i ddatblygu gwyliadwriaeth ddomestig a rhyngwladol effeithiol ar gyfer amrywiolion COVID-19 a bod yn ymwybodol o’r risg o dymor ffliw hwyr.

3.6 Roedd pwysau COVID-19 yn y GIG yn llai nag yn achos tonnau blaenorol, gyda 1,140 o gleifion mewn gwelyau ysbyty ar hyn o bryd. O’r rhain, roedd 531 o achosion wedi’u cadarnhau. Roedd nifer yr achosion cysylltiedig yn cynyddu, gyda’r data’n awgrymu mai ar 30% o gleifion yn unig yr oedd angen triniaeth oherwydd y feirws. Roedd nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 mewn gofal dwys wedi gostwng i 13, ond roedd Unedau yn gyffredinol yn brysur iawn gyda 170 o welyau’n cael eu defnyddio. At hynny, roedd 750 yn fwy o bobl yn yr ysbyty nag yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

3.7 O ystyried y sefyllfa a oedd yn gwella o ran iechyd y cyhoedd, ystyriodd y Cabinet a oedd yn gymesur cadw unrhyw rai neu’r cyfan o’r cyfyngiadau a oedd yn weddill yn y gyfraith, yn hytrach nag ar ffurf canllawiau, ac a ddylid ymestyn y dyddiad presennol y byddai’r Rheoliadau’n dod i ben, sef 25 Chwefror.

3.8 Trafododd y Gweinidogion a ddylid dileu’r gofyniad am orchuddion wyneb a daethant i’r casgliad y dylid dileu’r rhwymedigaeth hon yn achos mannau cyhoeddus o dan do o 28 Chwefror. Fodd bynnag, o ystyried yr angen i barhau i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed, dylai’r angen am orchuddion wyneb mewn lleoliadau manwerthu, trafnidiaeth gyhoeddus ac iechyd, lle’r oedd presenoldeb pobl yn llai dewisol, aros yn ei le tan 28 Mawrth.

3.9 Nododd y Cabinet fod natur orfodol y pàs Covid wedi bod yn rhan bwysig o ymateb y Llywodraeth i’r coronafeirws, ond cytunodd nad oedd bellach yn gymesur yn y cyfnod hwn o’r pandemig. Felly, dylid dileu’r gofyniad i leoliadau ganiatáu mynediad i’r rhai â phasys o’r fath yn unig, a hynny o 18 Chwefror. Byddai rhoi rhybudd o’r newid yn rhoi amser i drefnwyr roi adnoddau, prosesau ac isadeiledd o’r neilltu.

3.10 Cytunodd y Gweinidogion ei bod yn annhebyg y byddai ei gwneud yn ofynnol i fesurau rhesymol ac asesiadau risg penodol gael eu cwblhau, a chadw’r pwerau cyfarwyddo cysylltiedig ar gyfer Awdurdodau Lleol yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, yn parhau’n gymesur yn nhrywydd presennol y coronafeirws, yn enwedig o ystyried dyletswyddau a phwerau cyfreithiol parhaol eraill.

3.11 O ganlyniad, dylid dileu’r gofynion am asesiadau risg a mesurau rhesymol ar gyfer safleoedd rheoleiddiedig o 28 Mawrth.

3.12 Yn ogystal, dylid dileu’r gofynion cyfreithiol ar ymgyrchwyr etholiadol o 28 Mawrth.

3.13 Fodd bynnag, cytunodd y Gweinidogion y dylai’r gofynion o ran hunanynysu aros yn eu lle am y tro.

3.14 O ystyried y sefyllfa gyffredinol o ran cyfraddau achosion a chyfnodau yn yr ysbyty, ynghyd â’r broses o symud yn raddol tuag at godi mesurau diogelu, cytunwyd y dylai ysgolion gynllunio i ddychwelyd i weithredu yn unol â’r Fframwaith Rheoli Heintiau Lleol yn syth ar ôl hanner tymor.

3.15 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fwrw ymlaen yn unol â’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion, gan sicrhau ar yr un pryd fod y cyhoeddiadau am leddfu mesurau diogelu yn y dyfodol yn cynnwys y cafeatau arferol o ran parhad amodau ffafriol o ran iechyd y cyhoedd bryd hynny.

Eitem 4: Yr Ail Gyllideb Atodol 2021-22

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2021-22.

4.2 Roedd yr Ail Gyllideb Atodol yn unioni’r addasiadau terfynol i ddyraniadau’r gyllideb cyn diwedd y flwyddyn ariannol ac yn pennu’r terfynau y byddai sefyllfaoedd alldro yn cael eu mesur yn eu herbyn.

4.3 Roedd dros 150 o ddyraniadau unigol, sef cyfanswm o bron £2 biliwn, wedi’u cymeradwyo o’r gronfa wrth gefn er mwyn cynorthwyo portffolios a sicrhau’r gwariant mwyaf yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

4.4 Felly, bu nifer o benderfyniadau i ddefnyddio’r cyllid hwn, gan gynnwys darparu cymorth ychwanegol i Lywodraeth Leol a nifer o gynigion a fyddai’n cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus.

4.5 Ymhellach, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ddiweddar i Awdurdodau Lleol yn Lloegr i’w galluogi i ddarparu ad-daliad o £150, nad yw i’w dalu’n ôl, ym miliau’r Dreth Gyngor i bob aelwyd ym Mandiau A-D, er mwyn helpu gyda chostau ynni cynyddol. Roedd y cyhoeddiad hwn wedi arwain at gyllid ychwanegol o £175 miliwn i Gymru.

4.6 Byddai rhywfaint o ystyriaeth ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio’r arian ychwanegol i gynorthwyo pobl yng Nghymru, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn agored i dalu’r Dreth Gyngor, a byddai angen gwneud penderfyniadau yr wythnos honno.

4.7 Y nod oedd cyhoeddi’r gyllideb ar 15 Chwefror a’i chynnig yn y Senedd ar 15 Mawrth.

4.8 Croesawodd y Cabinet y papur, yn enwedig y dyraniadau ychwanegol ar gyfer y portffolios Addysg a Newid Hinsawdd.

4.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a chofnododd ei ddiolchiadau i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o gwblhau’r Gyllideb Atodol gymhleth.

Eitem 5: Pwyso a mesur y Rhaglen Trawsnewid Cyfiawnder

5.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, i gyflwyno’r papur a luniwyd ar y cyd, a oedd wedi’i ystyried gan Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder yr wythnos flaenorol.

5.2 Nodwyd bod y cydweithio rhwng portffolios ar gyfiawnder a materion cyfiawnder cymdeithasol ehangach, a oedd â chysylltiad anorfod â’i gilydd, yn un o gryfderau allweddol y dull o ymdrin â’r agenda hon. Ymhlith y meysydd allweddol o ddiddordeb roedd y newyddion cadarnhaol am ddatblygu Canolfan Breswyl i Fenywod a’r gwaith ar ddadgyfuno data cyfiawnder, a fyddai’n helpu i ddatblygu’r achos o blaid datganoli cyfiawnder yng Nghymru.

5.3 Yn ogystal, roedd cynnydd da ar raglen beilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol.

5.4 Cydnabu’r Cabinet werth datblygu gwaith Comisiwn Thomas ar draws y Llywodraeth. Cytunodd y Cabinet i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gan yr Is-bwyllgor yn rheolaidd.