Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 2)
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol (eitem 2)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 2)
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg (eitem 4)
  • Sam Huckle, Pennaeth Cyflenwi a Gweithrediadau Cyflogadwyedd (eitem 4)
  • Gareth Woodhead, Pennaeth Gwarant i Bobl Ifanc (eitem 4)
  • Rachel Garside-Jones, Pennaeth Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 20 a 24 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

2.1 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i'r Cabinet ei fod wedi dal COVID-19 dros y penwythnos ac y byddai'n gweithio’n rhithwir yr wythnos honno. Gallai fod rai digwyddiadau ble byddai angen iddo ofyn i Weinidogion weithredu ar ei ran. Yn ogystal, roedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cael ei gynnal yn Blackpool yn ddiweddarach yr wythnos honno. Roedd yn gobeithio ymuno â'r cyfarfodydd yn rhithwir, ond os na fyddai hynny'n bosibl, efallai y byddai’n gofyn i Weinidog arall gynrychioli'r Llywodraeth.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn a nodwyd bod yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 5:45pm ddydd Mawrth a thua 6:55pm ddydd Mercher. Hyd yma, roedd un Cwestiwn Amserol wedi'i gyflwyno yn gofyn a fyddai'r Llywodraeth yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddelio â'r llifogydd diweddar yn ardal Melyn.

Eitem 4: Gwarant i Bobl Ifanc – Adolygiad blwyddyn yn ddiweddarach

4.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi'r papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gadarnhau a ddylai cwmpas y Warant i Bobl Ifanc barhau ar gyfer pob rhaglen addysg, hyfforddiant, cyflogadwyedd a hunangyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed. Gofynnwyd i Weinidogion gytuno i ganolbwyntio ar roi adnoddau ychwanegol Gwarant i Bobl Ifanc i'r rhai hynny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

4.2 Roedd nifer o fesurau wedi'u datblygu i reoli effaith bosib COVID-19 ar bobl ifanc, fodd bynnag, yn dilyn y pandemig, ni chafwyd y lefel ddisgwyliedig o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc. Serch hynny, bu cynnydd yn nifer y rhai nad oedd mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ynghyd ag achosion o greithio difrifol, lle'r oedd un o bob tri pherson ifanc yn credu na fyddai eu rhagolygon gwaith byth yn dod dros effaith y pandemig.

4.3 Bu Sgwrs Genedlaethol â phobl ifanc dros y misoedd diwethaf, a phrif thema’r trafodaethau oedd adroddiadau am faterion difrifol o ran iechyd meddwl a hyder, ochr yn ochr â materion mwy traddodiadol, megis cael mynediad at drafnidiaeth a darpariaeth gofal. Cafwyd adborth tebyg gan Gyrfa Cymru, gweithwyr arweiniol Awdurdodau Lleol a darparwyr gwasanaethau eraill.

4.4 Gwnaed gwelliannau er mwyn helpu i nodi'r bobl ifanc hynny a allai fod angen cymorth ychwanegol. Byddai'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid adnewyddedig yn chwarae rhan allweddol yn y broses o nodi unigolion posibl mewn ysgolion ac unigolion hyd at 18 oed yn gynnar.

4.5 Byddai'r Warant yn fwy gweladwy drwy ddefnyddio'r brand ynghyd â chyllid presennol a pharamedrau cytundebol, gan ddechrau gyda'r Rhaglenni Cyflogadwyedd. Drwy'r ymgyrchoedd hyn, byddai digwyddiadau sgiliau a gyrfaoedd yn cael eu hyrwyddo, ynghyd â chyfleoedd ail gyfle mewn addysg bellach ac addysg uwch a phrentisiaethau. 

4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Unrhyw fater arall

Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Cydweithio 2021-22 CAB(22-23)18

5.1 Nododd y Cabinet Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Cydweithio ar gyfer 2021-22, a fyddai'n cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, tua blwyddyn ers arwyddo'r cytundeb gwreiddiol.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2022