Cyfarfod y Cabinet: 8 Rhagfyr 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 8 Rhagfyr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Julie James AS
- Dawn Bowden AS
- Vikki Howells AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa'r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
- Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid
- Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol (eitem 4)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 24 Tachwedd 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi
2.1 Soniodd y Prif Weinidog am yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol, a diolchodd i bawb a oedd wedi helpu i gynllunio, trefnu, a chynnal digwyddiad llwyddiannus. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Confensiwn Ryngwladol Cymru, wedi tynnu ynghyd tua 300 o arweinwyr busnes o 27 o wledydd i weld meysydd lle mae arloesedd Cymru yn arwain ar lefel fyd-eang, gan archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer partneriaethau a buddsoddiad
Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
2.2 Hefyd, diolchodd y Prif Weinidog i bawb a fu'n rhan o gyflwyno cyfarfod rhif 44 o'r Cyngor Prydeinig Gwyddelig yng Nghastell Hensol y dydd Iau a'r dydd Gwener blaenorol. Y Diwydiannau Creadigol oedd ffocws y cyfarfod hwnnw. Mae’r sector, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, yn cynnwys 3,500 o fusnesau, yn cyflogi 35,000 o bobl, ac mae ganddo drosiant blynyddol o £1.5bn.
Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth y DU
2.3 Ddydd Gwener, aeth y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU ar ymweliad â Chanolfan Plant Trelái a Chaerau i lansio Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth y DU. Yn y digwyddiad, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu bron i £2m i wella cyfleusterau yn y ganolfan ac i gynyddu'r ddarpariaeth gofal plant ar gyfer teuluoedd lleol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7pm ddydd Mawrth a thua 5:55pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Diweddariad Llafar – Cyllid: Hynt y Gyllideb Derfynol a Chyllideb y DU
4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ddiweddariad i'r Cabinet ar y sefyllfa ariannol a oedd yn cynnwys hynt y Gyllideb Derfynol, a goblygiadau Cyllideb y DU.
4.2 Roedd trafodaethau'n parhau gyda'r gwrthbleidiau, gyda'r nod o sicrhau bod y Gyllideb Derfynol yn cael ei phasio'n ddiogel drwy'r Senedd yn ystod y ddadl ar 27 Ionawr.
4.3 Darparodd Cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU £508m ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, gan gynnwys £200m ychwanegol ar gyfer 2026-27.
4.4 Nododd y Cabinet y diweddariad.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2025
