Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Mick Antoniw AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Stuart Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Rae Cornish, Pennaeth Polisi Anabledd a Rhywedd, a Chyllid

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 12 Rhagfyr.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi nad oedd unrhyw ddadleuon wedi eu trefnu ar gyfer dydd Mawrth, ac y byddai amser pleidleisio tua 6:30pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Cymru sy’n Falch o’r Mislif CAB(22-23)34

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno’r camau a nodir yn Cymru sy’n Falch o’r Mislif, sef cynllun y Llywodraeth i drechu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif yng Nghymru.

3.2 Roedd y cynllun yn cefnogi ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i ehangu’r ddarpariaeth fislif sydd ar gael am ddim mewn cymunedau a’r sector preifat, ac ar yr un pryd ymwreiddio urddas mislif mewn ysgolion. Roedd cyfle i weithio mewn modd cydweithredol â phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod Cymru’n wlad sy’n ‘falch o’r mislif’ heb fod angen deddfwriaeth.

3.3 Roedd y Llywodraeth wedi bod yn darparu cyllid i Awdurdodau Lleol ers 2018 er mwyn galluogi ysgolion, sefydliadau addysg bellach, a lleoliadau cymunedol i sicrhau mynediad am ddim at nwyddau mislif i ddysgwyr a’r rheini sydd ar incwm isel. Ar y dechrau roedd hyn yn ymgyrch i gael gwared ar dlodi mislif, ond wedyn roedd wedi datblygu’n amcan ehangach i sicrhau urddas mislif ar draws Cymru.

3.4 Cafodd cyfarfodydd bord gron eu sefydlu yn 2019 i drafod urddas mislif ac i ddatblygu dealltwriaeth o anghenion y rheini sy’n manteisio ar y cyfle i gael nwyddau mislif, yn ogystal â’r anghenion addysgol a chyfathrebu ehangach sy’n gysylltiedig â’r mislif. Y nod oedd cael gwared ar unrhyw stigma a sicrhau bod gwell ddealltwriaeth o’r mislif gan bawb, er mwyn annog mwy o bobl i fanteisio ar y cyfle i gael y nwyddau hyn.

3.5 Roedd y cynllun drafft wedi sbarduno 250 o ymatebion unigol i’r ymarfer ymgynghori, ac roeddent yn cynnwys amrywiaeth o themâu. O ganlyniad i hynny, gwnaed nifer o newidiadau i’r cynllun. Roedd y themâu wedi cael eu diwygio i adlewyrchu’r rhai a godwyd yn yr ymarfer ymgynghori, ac roedd y camau gweithredu a oedd yn ymwneud ag addysg wedi cael eu datblygu a’u diwygio. Byddai’r gwaith o ddatblygu lefel y gofyn am adnoddau addysgol mewn perthynas â llesiant mislif yn digwydd yn gynnar yn y broses weithredu, er mwyn sicrhau bod y deunyddiau’n adlewyrchu anghenion dysgwyr amrywiol ledled Cymru.

3.6 Byddai angen sicrhau bod adnoddau addysgol yn cael eu hintegreiddio fel rhan o ddeunyddiau cyfathrebu ehangach, a fyddai’n cynnwys ymgyrch genedlaethol ar urddas mislif a fyddai’n ymdrin ag addysg ac ymwybyddiaeth gyhoeddus. Ar ben hynny, byddai’r cynllun yn cyfeirio at fenywod, merched a phobl sy’n cael mislif.

3.7 Croesawodd y Cabinet y cynllun, gan gytuno ei bod yn bwysig mynd i’r afael â stigma a chynnal sgyrsiau ehangach ynghylch y mislif, gan fanteisio ar y potensial i dargedu gwahanol gynulleidfaoedd.

3.8 Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r cynllun, ystyriwyd profiadau sy’n gysylltiedig â’r mislif a’r posibiliadau o ran ehangu trafod y mislif i sôn am faterion iechyd eraill, megis y menopos ac endometriosis. Roedd y Cynllun Iechyd Menywod a oedd ar fin cael ei gyhoeddi, ac a fyddai o dan berchnogaeth y GIG, yn cynnwys adran am y mislif y byddai angen ei hystyried ochr yn ochr â’r cynllun.

3.9 Nodwyd bod y cynigion i ymwreiddio urddas mislif mewn ysgolion, ochr yn ochr â chymorth llesiant mislif, yn cael eu cynnwys yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fel rhan o’r cwricwlwm newydd.

3.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2023