Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Vaughan Gething AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio
  • Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd
  • Andy Fraser, Dirprwy Gyfarwyddwr Dŵr a Llifogydd
  • Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 25 Ebrill / Cabinet approved the minutes of 25 April.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi’i amserlennu ar gyfer 5pm dydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Cyhoeddiad Cyfiawnder

3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y papur, a oedd yn cyflwyno’r fersiwn derfynol agos o’r dogfen cyfiawnder i’w hystyried gan y Cabinet, gyda’r nod o ddangos pam fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymryd mwy o reolaeth dros y system gyfiawnder yng Nghymru.

3.2 Pwysleisiodd y berthynas gydgysylltiedig rhwng dulliau ataliol, adsefydlu, iechyd y cyhoedd ac addysgiadol y Llywodraeth o ran cyflawni canlyniadau cyfiawnder mwy ffafriol yn effeithiol yng Nghymru. Ei nod oedd dangos y gwahaniaeth rhwng dull mwy cosbol Llywodraeth y DU â’r hyn yr oedd Gweinidogion Cymru yn credu oedd yn gonsensws clir ynghylch canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol er mwyn sicrhau Cymru fwy diogel.

3.3 Roedd y cyhoeddiad hefyd yn nodi rhaglen waith helaeth o wasanaethau datganoledig, a oedd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni cyfiawnder, y cafodd llawer ohonynt eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac a oedd wedi’u datblygu a’u teilwra i anghenion pobl Cymru. Roedd nod i ddangos, drwy amlygu enghreifftiau o fentrau a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn awr ac yn y dyfodol, er bod cyfiawnder wedi’i gadw yn ôl ar hyn o bryd, mai dim ond yng Nghymru y gellir ac y dylid datblygu a chyflawni’r rhagolygon hirdymor ar gyfer ei wella yng Nghymru.

3.4 Roedd y gwaith gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sefydlu’r Peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol a’r camau i ddiwygio tribiwnlysoedd datganoledig yn arbennig o bwysig. Byddai angen i waith barhau gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i adeiladu cymunedau mwy diogel yng Nghymru.

3.5 Pwysleisiodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol natur drawslywodraethol y ddogfen, yn enwedig i faterion Cyfiawnder Ieuenctid a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i gyflawni glasbrintiau Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Chyfiawnder Ieuenctid a’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Roedd y cyhoeddiad yn adlewyrchu dull blaengar o ymdrin â materion cyfiawnder, gyda’r nod o rymuso a chefnogi pobl i gael gwell canlyniadau.

3.6 Croesawodd y Cabinet y cyhoeddiad a chefnogodd y Gweinidogion yn benodol y dull graddol o geisio datganoli cyfiawnder i Gymru ynghyd â’r gwaith ar wella materion cyfiawnder teuluol. Yr oedd yn bwysig peidio â cholli golwg ar ddatganoli’r system garchardai.

3.7 Nodwyd bod y Prif Weinidog wedi cynnal cyfarfod gyda Llywydd yr Is-adran Teuluoedd a Mr Ustus Francis, Barnwr Cyswllt Is-adran Teuluoedd Cymru, a'i fod wedi cytuno i gyfarfod pellach maes o law.

3.8 Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhellion yn y papur.