Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Lynne Neagle AS
  • Sarah Murphy AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Phil Elkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Alex Slade, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Gofal Sylfaenol a'r Blynyddoedd Cynnar
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
  • Tom Nicholls, Prif Economegydd (eitem 4)
  • Alyson Francis, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio (eitem 5)
  • Katy Hossack, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Uned Ymchwiliadau Cyhoeddus (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 2 Mawrth 2026.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at ddwysâd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar Gymry yn y rhanbarth ac ar gostau byw gartref. Byddai angen i'r Llywodraeth ystyried pa gymorth a oedd ar gael i ymateb i unrhyw heriau uniongyrchol, megis ar gyfer y rhai nad oeddent ar y grid ac yn dibynnu ar olew gwresogi.

Ymchwiliad yr Heddlu Gwrthderfysgaeth

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig y dydd Iau blaenorol mewn perthynas â'r tri arestiad a wnaed ddydd Mercher, fel rhan o ymchwiliad gan yr Heddlu Gwrthderfysgaeth.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod disgwyl i'r cyfnod pleidleisio ddigwydd oddeutu 4:40pm. Byddai Cyfnod 3 Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) yn dilyn, gyda phleidleisio'n digwydd drwy gydol y sesiwn. Roedd y cyfnod pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 7:10pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Diweddariad Llafar – Datganiad y Gwanwyn

4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ddiweddariad i'r Cabinet ar Ddatganiad Gwanwyn Canghellor y Trysorlys, a oedd wedi'i gyflwyno i Senedd y DU yr wythnos flaenorol. Ochr yn ochr â'r Datganiad, roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi darparu rhagolwg economaidd a chyllidol newydd.

4.2 Fodd bynnag, roedd yr adroddiad gan yr OBR wedi'i baratoi cyn dechrau'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ac nid oedd yn ystyried goblygiadau costau uwch olew. Ar ben hynny, nid oedd y Datganiad yn cynnwys unrhyw ymrwymiadau newydd o ran gwariant na threthiant, ond roedd yn cynnwys cyllid ychwanegol yn ymwneud â chyhoeddiadau diweddar yn Lloegr, sy'n gyfanswm o £555m dros y tair blynedd nesaf.

4.3 O hyn, roedd £12m yn gyfalaf, wedi'i broffilio dros dair blynedd, o ganlyniad i gyllid trafnidiaeth. Roedd cyllid adnoddau mewn perthynas â dileu dyled Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (AAAA) yn Lloegr, a oedd yn gyfystyr â dyraniad untro o £332m yn 2026-2027, gyda buddsoddiad ychwanegol o £197m yn 2028-2029 i gefnogi'r gwaith o ddiwygio AAAA.

4.4 Roedd yna hefyd gyllid adnoddau ychwanegol yn ymwneud â chymorth Ardrethi Annomestig, a oedd eisoes wedi'i ystyried yng nghynlluniau gwariant y Llywodraeth.

4.5 Croesawodd y Cabinet y diweddariad, gan gydnabod y byddai'n rhaid i'r Llywodraeth newydd wneud penderfyniadau am gyllid nad yw'n cael ei ddyrannu eto.

Eitem 5: Ymateb i Fodiwl 2 Adroddiad Ymchwiliad COVID-19 CAB(25-26)47

5.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i Adroddiad Ymchwiliad COVID-19 Modiwlau 2, 2A, 2B a 2C, a elwir yn Gwneud Penderfyniadau Craidd a Llywodraethu Gwleidyddol.

5.2 Roedd yr adroddiad yn cynnwys 19 o argymhellion, yn cwmpasu cyngor gwyddonol a thechnegol, gan nodi'r rhai sydd mewn perygl mewn argyfwng, prosesau gwneud penderfyniadau'r llywodraeth, deddfwriaeth, cysylltiadau rhynglywodraethol, a chyfathrebu â'r cyhoedd. Roedd ymateb y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r 14 argymhelliad hynny sy'n berthnasol i Gymru.

5.3 Roedd swyddogion wedi gweithio'n agos gyda swyddogion cyfatebol o fewn Llywodraethau eraill y DU ac roedd y pedair llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi eu hymatebion y mis hwnnw, cyn dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol.

5.4 Roedd ymateb Llywodraeth Cymru wedi'i rannu'n themâu fel y nodir yn y papur.

5.5 Yn seiliedig ar adborth y Gweinidogion, roedd swyddogion wedi cryfhau'r ymateb i argymhelliad 10 i wneud yn glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â materion datganoledig o'r cychwyn cyntaf, ac nid gan COBR. Yn ogystal, roedd yr ymateb cyffredinol yn pwysleisio pwysigrwydd parchu datganoli, ac atebolrwydd Gweinidogion Cymru i'r Senedd. Roedd yna hefyd argymhellion yn ymwneud â Llywodraethau Datganoledig sy'n mynychu'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, sydd wedi’u croesawu.

5.6 Y bwriad oedd cyhoeddi ymateb y Llywodraeth y dydd Llun canlynol cyn y Datganiad i'r Senedd drannoeth. Byddai dadl yn y Senedd ddydd Mercher yr wythnos honno ar archwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus o ymateb y Llywodraeth i Fodiwl 1.

5.7 Nodwyd y byddai'r Ymchwiliad yn cyhoeddi'r adroddiad gofal iechyd Modiwl 3 ar 19 Mawrth, a fyddai'n cael ei ystyried gan y Cabinet ar 23 Mawrth.

5.8 Croesawodd y Cabinet ymateb y Llywodraeth a phwysleisio pwysigrwydd yr Ymchwiliad yn cydnabod y setliad datganoli, yn enwedig o gofio bod pwerau sy'n ymwneud ag argyfyngau iechyd cyhoeddus yn fater i'r Senedd. Roedd hefyd yn bwysig sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru rôl gryf mewn perthynas ag argyfyngau sifil yn y DU.

5.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2026