Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Jeremy Miles AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Julia David, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 2 Mehefin 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cyflogau Athrawon

2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i roi diweddariad ar gyflogau athrawon. Byddai adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) yn cael ei gyhoeddi'r diwrnod canlynol, a byddai'n argymell y dylid cynyddu holl gyflogau a lwfansau athrawon 4.8% o fis Medi 2025 ymlaen.

2.2 Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa ariannol, byddai'r Llywodraeth yn ymgynghori ar godiad cyflog a ariennir o 4%. Roedd hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gallu gweithredu dyfarniad cyflog o 5.5% y flwyddyn flaenorol, yn sylweddol uwch nag argymhelliad yr IWPRB o 4.3%.

2.3 Nododd y Cabinet fod nyrsys y GIG wedi dechrau cynnal pleidlais ar gyflogau yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod y datganiad llafar ar atal salwch wedi'i dynnu'n ôl oherwydd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi dioddef profedigaeth deuluol. Diolchodd y Prif Weinidog i'r Cabinet am gynorthwyo yn ystod ei absenoldeb. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6pm ddydd Mawrth a thua 7:25pm ddydd Mercher.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2025