Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS  

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
  • Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O’Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol   
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 2 Rhagfyr 2024.  

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Toriad y Nadolig

2.1 Gwnaeth y Prif Weinidog ddymuno Nadolig Llawen i’r Cabinet ac awgrymodd y dylai Ysgrifenyddion y Cabinet a’r Gweinidogion ddefnyddio’r toriad fel cyfle i gymryd seibiant ar ôl blwyddyn brysur ac i baratoi ar gyfer y tymor dwys o’u blaenau.

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

2.2 Soniodd y Prif Weinidog yn fras am gyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig – cyfarfod yr oedd hi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi bod yn bresennol ynddo – yng Nghaeredin yr wythnos flaenorol.

Storm Darragh 

2.3 Gwahoddwyd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig gan y Prif Weinidog i roi diweddariad ar Storm Darragh, a gafodd effaith sylweddol ar Gymru dros y penwythnos.

2.4 Yn dilyn y gwyntoedd cryfion a’r llifogydd, adfer cyflenwadau ynni a chymorth i gymunedau a’r rhai sy’n agored i niwed oedd prif bwyslais yr ymateb yn awr. Dechreuodd y gwaith i gyflawni hyn fore Sul.

2.5 O 9am y bore hwnnw ymlaen, roedd tua 40,000 eiddo yng Nghymru yn dal heb ynni, a bu tua 2,400 o gartrefi heb gyflenwad ynni am 48 awr. Roedd y ffigur cyffredinol yn cynnwys 15,000 o gwsmeriaid a oedd wedi eu cofrestru ar y gofrestr gwasanaeth â blaenoriaeth. Roedd ynni eisoes wedi cael ei adfer ar gyfer dros 500,000 o gwsmeriaid yng Nghymru ac roedd yn amlwg bod pob ymdrech yn cael ei wneud i adfer cyflenwadau. Er hynny, roedd nifer sylweddol yn dal i fod heb ynni dros gyfnod estynedig, ac roedd hyn yn destun pryder.

2.6 Roedd y trydydd sector a’r awdurdodau lleol yn cynnig cymorth yn y cymunedau a gofynnwyd iddynt gynyddu eu hymdrechion ymhellach i sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi drwy’r cyfnod anodd hwn.

2.7 Roedd cyfarfodydd y Ganolfan Gydgysylltu Strategol wedi cael eu cynnal gan Fforymau Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys a Gwent y bore hwnnw, ac roedd Grŵp Cydgysylltu Tactegol wedi cael ei gynnal gan Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd. Roedd Fforymau y Gogledd a Dyfed Powys yn bwriadu cyfarfod eto y diwrnod hwnnw. Byddai’r strwythurau ymateb hyn yn parhau ar waith o ganlyniad i faterion mewn perthynas â’r cyflenwad ynni a’r effaith yr oeddent yn eu cael ar gymunedau ac unigolion, gydag effeithiau eraill yn symud ymlaen i adferiad neu fusnes fel arfer.

2.8 Roedd y rhwydweithiau trafnidiaeth yn dechrau gweithredu yn ôl yr arfer eto i raddau helaeth. Er hynny, roedd porthladd Caergybi wedi bod ar gau ddydd Sadwrn a dydd Sul oherwydd y gwyntoedd cryfion eithafol ac roedd gwasanaethau fferi rhwng Dulyn a Chaergybi wedi eu canslo o hyd o ganlyniad i ddifrod yn sgil y storm. Roedd Stena Line yn gobeithio y byddai Terfynfa 5 yn dod yn weithredol cyn gynted â phosibl.

2.9 Nid oedd y Swyddfa Dywydd yn cynghori ar Storm Darragh yn benodol mwyach ac roeddent wedi nodi y byddai cyfnod o dywydd llawer mwynach ar gyfer yr wythnos. Roedd risg llifogydd yr afonydd yn isel ar hyn o bryd, a disgwyliwyd y byddai mân effeithiau ar yr afon yn achos afon Dyfrdwy y diwrnod hwnnw, afon Gwy ddydd Llun a dydd Mawrth, ac afon Hafren tan ddydd Mercher.

2.10 Nodwyd y byddai’r Prif Weinidog yn ysgrifennu gyda hyn at yr Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol a CLlLC i roi diweddariad ar y sefyllfa a byddai Datganiad Ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi hefyd. Byddai’r cyfathrebu hwn yn ailadrodd y negeseuon allweddol o ddiolch i’r ymatebwyr a byddai’n gofyn i gymunedau gadw golwg ar bobl agored i niwed yn y gymdogaeth. Roedd dau Gwestiwn Brys wedi cael eu cyflwyno hefyd ac roedd yn debygol y byddai Datganiad Llafar i’r Senedd y diwrnod canlynol.

2.11 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:15pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher. Fodd bynnag, roedd disgwyl i faterion eraill gael eu hychwanegu at yr agenda, gan olygu y byddai’r cyfarfod yn gorffen yn hwyrach ddydd Mawrth.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2024