Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cyd-gadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams (ymuno yn hwyr)

Aelodau'r Comisiwn

  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Panel arbenigol

  • Jess Blair
  • Yr Athro Emyr Lewis
  • Auriol Miller
  • Akash Paun
  • Dr Hugh Rawlings
  • Yr Athro Mairi Spowage
  • Yr Athro Diana Stirbu

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
  • Victoria Martin, Arweinydd Polisi
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa

Ymddiheuriadau

  • Gareth Williams
  • Michael Marmot

Eitem 1: Croeso gan y cyd-gadeiryddion

1. Croesawodd Laura McAllister aelodau'r omisiynwyr a'r Panel Arbenigol i'r cyfarfod. Dywedodd wrth y grŵp y byddai Rowan Williams yn ymuno â'r cyfarfod yn hwyr oherwydd ymrwymiad blaenorol. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Michael Marmot a Gareth Williams.

Eitem 2: Adroddiad terfynol

2. Eglurodd Laura McAllister bod drafftiau o'r holl benodau wedi eu dosbarthu i Gomisiynwyr cyn y cyfarfod, ar wahân i Bennod 2, ar y Sgwrs Genedlaethol. Pennod 2 fyddai'r ffocws yng nghyfarfod y Comisiwn ar 28 Medi.

3. Trafodwyd a chytunwyd ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi gan y Comisiynwyr.

4. Trafododd y Comisiynwyr y penodau yn eu tro a chytunwyd mai'r camau nesaf oedd i'r Ysgrifenyddiaeth gynhyrchu drafft diwygiedig sy'n adlewyrchu sylwadau a dderbyniwyd, cyn y cyfarfod busnes nesaf ar 19 Hydref.

Eitem 3: Ymgysylltu rhyngwladol

5. Trafododd y Comisiynwyr ddau bapur ar ymgysylltu rhyngwladol. Y cyntaf gan y Panel Arbenigol, a'r ail gan y Prif Weinidog.

Eitem 4: Papurau ychwanegol

6. Bu'r Comisiwn yn ystyried papur gan y Panel Arbenigol yn ymateb i bapur yr Athro John Doyle ar gyllid Cymru annibynnol.

7. Adolygodd y Comisiwn y blaengynllunydd.

Eitem 5: UFA

8. Cytunodd y Comisiynwyr ar 18 Ionawr fel dyddiad cyhoeddi'r adroddiad terfynol.

9. Cytunodd y Comisiynwyr ar nodiadau o gyfarfodydd blaenorol.