Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cydgadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Comisiynwyr

  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Eitem 3 yn unig

  • Y Gwir Anrh Athro Carwyn Jones
  • Y Gwir Anrh Arglwydd Paul Murphy

Eitem 4 yn unig

  • Y Gwir Anrh Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Neil O'Brien AS, y Gweinidog Ffyniant Bro, yr Undeb a'r Cyfansoddiad

Eitem 6 yn unig

  • Yr Arglwydd Dunlop

Sylwedydd

  • Gareth Williams, Panel yr Arbenigwyr

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Heulwen Mai Vaughan, Ysgrifennydd 
  • Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa

Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion

1. Croesawodd y Cydgadeiryddion y Comisiynwyr i'r cyfarfod.

2. Nododd y Comisiynwyr y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf, a chytunwyd y dylid cyhoeddi cofnodion lefel uchel ar wefan y Comisiwn.

Eitem 2: Rhaglen Waith

3. Trafododd y Comisiynwyr y flaenraglen waith a'r strategaeth ymgysylltu.

Eitem 3: Comisiwn Cyfansoddiad y Blaid Lafur

4. Croesawodd y Cydgadeiryddion y Gwir Anrh Athro Carwyn Jones a'r Gwir Anrh Arglwydd Paul Murphy. Trafodwyd cwmpas a ffocws Comisiwn Cyfansoddiad y Blaid Lafur a nodwyd meysydd cyffredin posibl.

Eitem 4: Llywodraeth y DU

5. Croesawodd y Cydgadeiryddion Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Neil O'Brien AS, y Gweinidog Ffyniant Bro, yr Undeb a'r Cyfansoddiad.  Cynhaliwyd trafodaeth eang ar nifer o bynciau gan gynnwys: Papur Gwyn Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cysylltiadau Rhynglywodraethol a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Eitem 5: Dull yn Seiliedig ar Werthoedd

6. Trafododd y Comisiwn ddull sy'n seiliedig ar werthoedd i gyflawni amcanion y Comisiwn.

Eitem 6: yr Arglwydd Dunlop

7. Croesawodd y Cydgadeiryddion yr Arglwydd Dunlop. Trafodwyd adroddiad yr Arglwydd Dunlop, Review of UK Government Union Capability, a chodwyd ystod o bynciau, gan gynnwys Confensiwn Sewel, diwygiadau rhynglywodraethol diweddar, a Deddf y Farchnad Fewnol.

Eitem 7: Unrhyw fater arall

8. Diolchodd y Cydgadeiryddion i'r aelodau am eu cyfraniadau yn ystod y cyfarfod.  Roeddent yn cytuno bod llawer iawn i'w ystyried a'i roi ar waith.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru