Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cydgadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Comisiynwyr

  • Miguela Gonzalez
  • Lauren McEvatt
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Panel yr Arbenigwyr

  • Gareth Williams

Eitem 1

  • Syr David Lidington

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd
  • Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Ymddiheuriadau

  • Michael Marmot
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj

Eitem 1: Syr David Lidington

1. Croesawodd y cyd-Gadeiryddion y Comisiynwyr ac estynnwyd eu diolch i Syr David Lidington am gytuno i gwrdd â'r Comisiwn yn ystod ei ymweliad â Chaerdydd.

2. Gwnaeth Syr David yr achos dros gysylltiadau rhynglywodraethol cryf, roedd wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth pan yn arwain ar gysylltiadau â'r llywodraethau datganoledig.

3. Dywedodd Syr David fod parchu confensiynau a llywodraethu priodol yn hanfodol, ac roedd yn difaru'r diffyg cyswllt rhwng y Prif Weinidog ar y pryd, Liz Truss a'r Prif Weinidogion datganoledig.

4. Pwysleisiodd bwysigrwydd arweinyddiaeth wrth sicrhau bod y gwasanaeth sifil yn deall datganoli ac yn ei gymryd o ddifrif. Roedd yn deall y dadleuon dros ddatganoli cyfiawnder ond tynnodd sylw at yr achos gweithredol dros reoli'r gwasanaeth carchardai fel system Cymru a Lloegr.