Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cyd-gadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Aelodau'r Comisiwn

  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Shavanah Taj
  • Leanne Wood
  • Panel Arbenigol
  • Gareth Williams

Eitem 2

  • Gwir Anrhydeddus Gordon Brown
  • Yr Athro Jim Gallagher
  • Scott Dickson

Eitem 3

  • Darren Millar AS, Prif Chwip a Llefarydd yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, Ceidwadwyr Cymreig

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Ysgrifenyddiaeth
  • Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd y Comisiwn
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
  • Rod Hough, Rheolwr Swyddfa

Ymddiheuriadau

  • Michael Marmot
  • Philip Rycroft
  • Kirsty Williams

Eitem 1: Croeso gan y cyd-gadeiryddion

1. Croesawodd y cyd-gadeiryddion y Comisiynwyr a thrafodwyd yr agenda.

Eitem 2: Y Gwir Anrhydeddus Gordon Brown a'r Athro Jim Gallagher

2. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion Gordon Brown, yr Athro Jim Gallagher a Scott Dickson.

3. Amlinellodd Gordon Brown gefndir ei adroddiad, a'i rôl ym mhroses llunio polisi'r Blaid Lafur.  Neges graidd oedd diwygio cyfansoddiadol fel mecanwaith ar gyfer sicrhau twf economaidd cryfach a mwy teg ar draws y DU.

4. O ran y setliad Cymreig, nododd yr adroddiad, mewn egwyddor, y gallai unrhyw faterion sydd wedi'u datganoli i'r Alban gael eu datganoli i Gymru.  Roedd yn nodi gwaith y Comisiwn Annibynnol mewn perthynas â chyfiawnder a phlismona.

Eitem 3: Darren Millar MS, Ceidwadwyr Cymreig

5. Croesawodd y cyd-gadeiryddion Darren Millar MS, Prif Chwip a Llefarydd yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, Ceidwadwyr Cymreig gan ei wahodd i amlinellu sylwadau ei blaid ar adroddiad interim y Comisiwn.

6. Teimlai Darren Millar fod yr adroddiad interim yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau ledled Cymru. Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn undeb cryf ac yn gwrthwynebu annibyniaeth, ond roeddent yn cydnabod bod sgwrs i'w chael, a dyna pam roedd ei blaid yn ymgysylltu â'r comisiwn.

Eitem 4: UFA

7. Diolchodd y cyd-gadeiryddion i'r aelodau am eu cyfraniadau.