Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cydgadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Comisiynwyr

  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Ymddiheuriadau

  • Philip Rycroft

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Heulwen Mai Vaughan, Ysgrifennydd 
  • Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa

Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion

1. Croesawodd y Cydgadeiryddion y Comisiynwyr i’r cyfarfod a nodwyd ymddiheuriadau Philip Rycroft.

Eitem 2: Rhaglen Waith

2. Trafododd y Comisiwn lansiad Dweud eich Dweud a nododd y nifer calonogol o ymatebion a dderbyniwyd hyd yma. Trafodwyd beth arall y gellid ei wneud i godi proffil a chyrhaeddiad yr ymgynghoriad.

3. Cytunodd y Comisiwn ar restr o dystiolaeth ffeithiol y gofynnir amdani gan Lywodraeth Cymru.

4. Edrychodd y Comisiwn ymlaen at y sesiwn dystiolaeth nesaf.

Eitem 3: Unrhyw fater arall

5. Trafododd y Comisiwn yn fyr yr agenda ar gyfer y cyfarfod wyneb yn wyneb a rhaglen digwyddiadau’r Comisiwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru