Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cyd-gadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Aelodau'r Comisiwn

  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Lauren McEvatt
  • Michael Marmot
  • Philip Rycroft
  • Leanne Wood
  • Kirsty Williams

Panel Arbenigol

  • Gareth Williams
  • Ysgrifenyddiaeth
  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Victoria Martin, Arweinydd Polisi
  • Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa

Ymddiheuriadau

  • Albert Owen
  • Shavanah Taj

Eitem 1: Croeso gan y cyd-gadeiryddion

1. Croesawodd y cyd-gadeiryddion bawb i'r cyfarfod.

Eitem 2: Fframwaith Dadansoddi Opsiynau Cyfansoddiadol

2. Trafodwyd y Fframwaith Dadansoddi yr Opsiynau Cyfansoddiadol gan y Comisiynwr, a chytunwyd i'w gyhoeddi.

Eitem 3: Canolfan Llywodraethiant Cymru / Cynnig ymchwil Prifysgol Caeredin

3. Fel aelod staff Canolfan Llywodraethiant Cymru (WGC), nododd Laura McAllister wrth y Comisiynwyr nad oedd wedi bod yn rhan o ddatblygiad y cynnig, ac na fyddai'n cymryd unrhyw ran yn y penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen, gan ofyn i hyn gael ei gofnodi yn y cofnodion.

4. Croesawyd y cynnig mewn egwyddor gan y comisiwn, yn amodol ar waith pellach ar gyllid a chaffael.

Eitem 4: Diweddariad is-grwpiau'r Comisiwn

5. Fe drafodwyd y dull arfaethedig o sefydlu is-grwpiau gan y comisiynwyr.

Eitem 5: Cronfa Ymgysylltu â'r Gymuned

6. Roedd cytundeb bod y negeseuon gwerthusiad o’r Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned yn bwysig, yn enwedig canfyddiadau bod llawer yn gweld llywodraethau fel darparwyr gwasanaethau, a safbwyntiau ar y prosesau gwleidyddol. Trafododd y Comisiynwyr sut i ymgysylltu â grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Eitem 6: Blaengynllunydd

7. Trafododd y Comisiwn ei flaengynllunydd.