Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cydgadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Comisiynwyr

  • Miguela Gonzalez
  • Lauren McEvatt
  • Michael Marmot
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams

Panel yr Arbenigwyr

  • Gareth Williams

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
  • Ruth Leggett, Pennaeth y Gangen Cyfathrebu ac Ymgysylltu
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa

Ymddiheuriadau

  • Anwen Elias
  • Leanne Wood

Eitem 1: Croeso gan y cydgadeiryddion

1. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion yr aelodau i'r cyfarfod, a nodwyd ymddiheuriadau gan Leanne Wood ac Anwen Elias.

Eitem 2: Yr Adroddiad Interim

2. Ystyriodd y Comisiynwyr y drafft terfynol o’r adroddiad interim a chymeradwyodd bob pennod i'w cyfieithu.

3. Trafododd y Comisiynwyr a chytunwyd ar gynlluniau lansio ar gyfer yr adroddiad interim. Byddai'n cynnwys lansiad o dan embargo yn y Siop Siarad ym Merthyr Tudful, ac yna digwyddiad gyda derbynwyr y Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned a chyfarfod gyda'r Prif Weinidog, y Cwnsler Cyffredinol, ac Arweinydd Plaid Cymru i gyflwyno'r adroddiad yn ffurfiol.

Eitem 3: Blaen-gynllunio

4. Adolygodd y Comisiynwyr y rhestr o dystion ar gyfer y flwyddyn nesaf a chytunwyd i barhau â'r patrymau presennol o gyfarfodydd.

5. Nododd y Cyd-gadeiryddion y byddai sesiwn benodol ar 6 Rhagfyr ar gyfer myfyrdodau ehangach ac i edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, a chyfarfod cynllunio llawn ym mis Ionawr.

Eitem 4: UFA

6. Cytunodd y Comisiynwyr na fyddai angen y cyfarfod arfaethedig ar 23 Tachwedd mwyach.

7. Nododd y Cyd-gadeiryddion y byddai'r Ysgrifenyddiaeth mewn cysylltiad i gadarnhau dyddiadau cyfarfod ar gyfer y flwyddyn newydd.

8. Hysbyswyd y Comisiwn fod y contract ymgysylltu wedi'i ddyfarnu i Beaufort Research. Datganodd Laura McAllister ddiddordeb yn y ffaith mai Cyfarwyddwr Beaufort Research oedd ei chwaer, a chadarnhaodd nad oedd wedi cael golwg ar amodau’r contract cyn ei gyhoeddi, nad oedd ganddi unrhyw rhan yn yr asesiad o'r ceisiadau, ac na fyddai'n chwarae unrhyw ran mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol am y contract ymgysylltu a allai fod o fudd sylweddol i Beaufort Research.  Gofynnodd Laura i'r ysgrifenyddiaeth gofnodi ei datganiad o ddiddordeb yn ffurfiol ym munudau'r cyfarfod.