Neidio i'r prif gynnwy

Bu'r Comisiwn yn edrych ar yr hyn a oedd wedi’i gyflawni ers y cyfarfod diwethaf.

Nodwyd bod y Cais am Dystiolaeth wedi cau bellach a bod nifer o gyfarfodydd ymgysylltu wedi cael eu cynnal. Cytunwyd y dylid rhoi rhestr ar y wefan o'r rheini yr oedd y Comisiwn wedi cyfarfod â nhw.

Bu'r Comisiynwyr yn sôn am eu hargraffiadau a'u syniadau cychwynnol am y cyfarfodydd hynny ac aethant ati i nodi'r prif bwyntiau a oedd wedi codi.

Cafodd y Comisiwn drafodaeth gychwynnol am yr ymatebion a gyflwynwyd mewn ymateb i'r Cais am Dystiolaeth, gan nodi bod ystod ac amrywiaeth o gyfraniadau wedi dod i law. Aethant ati i nodi rhai o'r themâu a'r materion a oedd yn dod i'r amlwg. Roedd trigain o ymatebion wedi dod i law. Roedd yr ymatebwyr hefyd wedi darparu rhyw ddeugain o adroddiadau ac erthyglau, ac wedi cyfeirio at lawer o rai eraill. Nododd y Comisiwn ei fod wedi'i fodloni gan nifer yr atebion a chan yr amrywiaeth ohonynt.

Bu'r Comisiwn yn trafod cymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn meysydd sy'n berthnasol i waith teg. 

Trafodwyd pa fath o waith y dylid ei wneud yn y dyfodol, a hefyd yr amserlen ar ei gyfer. Cytunwyd ar raglen weithgarwch dros dro ar gyfer y cyfnod hyd at y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad y Comisiwn ym mis Mawrth 2019.