Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth y Comisiynwyr adolygu gyfarfodydd ymgysylltu diweddar a thrafod pa randdeiliaid y dylid cysylltu â nhw i drafod y dystiolaeth ymhellach neu i ymdrin â materion nad ydynt wedi derbyn sylw.

Ni fyddai amser yn caniatáu trafodaethau dilynol heblaw i ystyried tystiolaeth a fyddai'n ychwanegu gwerth neu i brofi neu egluro tystiolaeth, yn hytrach nag ymchwilio i themâu newydd.

Trafododd y Comisiwn rai themâu allweddol a nodi rhai materion a oedd yn gyffredin yn y dystiolaeth drwyddi draw, a materion a oedd yn benodol i sector.

Trafodwyd cynigion maniffesto'r Prif Weinidog newydd mewn perthynas â gwaith teg. Gwnaeth y Comisiynwyr ystyried sut y gallent gael eu hadlewyrchu yn eu hadroddiad sydd ar y gweill.

Nododd y comisiynwyr y cyd-destun ehangach sy'n llywio eu gwaith, gan gynnwys:

  • y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd
  • cyfeiriad polisi Llywodraeth y DU ar gyfer cyfraith ac ymarfer cyflogaeth
  • datblygiadau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer datganoli
  • ystyriaethau/heriau/dylanwadau rhyngwladol

Trafododd y Comisiynwyr fanylion yr hyn y byddent yn ei gynnwys yn eu hadroddiad, ei fformat a natur yr argymhellion. Cynhaliwyd trafodaeth am ddull graddol ar gyfer blaenoriaethu yn y tymor byr a'r tymor hwy.

Ystyriwyd y rhanddeiliaid yn y rhwydwaith gwaith teg y byddai angen gweithio gyda nhw i weithredu gwaith teg, a'r strwythurau a allai fod o gymorth wrth gyflawni hyn.

Gwnaeth y Comisiwn gydnabod nad oedd yn gallu cynnwys popeth o fewn ei amserlen gyfyngedig. Byddai angen gwneud rhagor o waith ar rai argymhellion i gwmpasu ac adeiladu'r sail dystiolaeth ar gyfer ffordd benodol o weithredu.