Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliodd y Comisiwn Gwaith Teg ei ail gyfarfod ar 2 Hydref 2018.

Gwnaeth yr Aelodau drafod gwahanol faterion ymarferol er mwyn paratoi am y Cais am Dystiolaeth a fyddai'n cael ei gyhoeddi'n fuan, gan gynnwys:

  • Diweddariad ar y wefan a chyfeiriad e-bost er mwyn cefnogi'r Cais am Dystiolaeth a rhaglen waith y Comisiwn.
  • Byddai sefydliadau'n cael eu hysbysu'n uniongyrchol ynghylch y cais am dystiolaeth.
  • Yr amserlen debygol ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu.
  • Y mathau o sefydliadau y mae'r Comisiwn yn dymuno ymgysylltu â nhw.

Gwnaeth y Comisiynwyr gytuno ar y dull yma a gwnaethant gymeradwyo cynnwys y cais am dystiolaeth. Cafodd y cwestiynau terfynol, y diwyg a'r amserlen eu cymeradwyo.

Cafwyd adborth gan aelodau'r Comisiwn ynghylch rhai cyfarfodydd ymgysylltu cynnar. Cafodd diben, natur a threfn cyfarfodydd yn y dyfodol eu trafod. Y nod yw cyrraedd grŵp amrywiol a chynrychioliadol o randdeiliaid o bob rhan o Gymru.

Cafodd dau bapur gan y Cynghorydd Arbenigol Annibynnol eu hystyried. Roedd y papur cyntaf yn amlinellu'r ffynonellau data presennol sy'n berthnasol i'r agenda gwaith teg, gan bennu bylchau a materion. Roedd yr ail bapur yn trafod rhai mentrau presennol gan y Llywodraeth sy'n berthnasol i waith teg. Nodwyd pwysigrwydd cydnabod ysgogiadau presennol a chafodd camau gweithredu eu nodi. Trafodwyd sut y gallai'r rhain gael eu cyfuno o dan faner gwaith teg.

Gwnaeth y Comisiynwyr drafod nifer o faterion pwysig gan gynnwys:

  • Ystod eang y ffactorau sy'n gysylltiedig â thâl a'r ffactorau eraill a all fod yn berthnasol i 'waith teg'
  • Sut y gall gweithwyr elwa ar well llesiant yn y gwaith.
  • Pwysigrwydd pennu sut y gall sefydliadau sy'n cyflogi elwa ar bolisïau ac arferion gwaith teg ee drwy enillion o ran cynhyrchiant.
  • Gwaith teg yng nghyd-destun hunangyflogaeth
  • Ystyried amrywiadau o fewn y sector ac amrywiadau eraill
  • Y gwahanol gamau posibl y gallai'r Llywodraeth eu cymryd er mwyn annog gwaith teg