Neidio i'r prif gynnwy

Bu'r Comisiynwyr yn trafod hynt y gwaith ar y Cais am Dystiolaeth a fyddai'n agored tan 19 Tachwedd.

Rhoddodd y comisiynwyr a'r Cynghorydd Arbenigol Annibynnol yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a oedd wedi digwydd yn eu meysydd gweithgarwch.

Bu'r grŵp yn siarad am y gwaith ymgysylltu, o ran digwyddiadau ar gyfer busnesau ac ymgysylltu â'r sector cyhoeddus, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ac sydd wedi cael ei drefnu, ac am yr ymgysylltu a fydd yn digwydd yn y dyfodol ac y mae angen ei drefnu.

Roedd y gwaith ymgysylltu yr oedd y Comisiwn yn ei wneud gydag amryfal sefydliadau sy'n cynrychioli'r sector preifat a chyda sefydliadau sy'n cynrychioli'r sector cyhoeddus yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn codi ymwybyddiaeth am ddigwyddiadau ac am y Cais am Dystiolaeth.

Cynhaliwyd trafodaeth am waith teg, gan edrych arno o safbwynt y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Roedd y drafodaeth honno o gymorth i gadarnhau yr hyn a olygir wrth waith teg yn y ddau gyd-destun hynny ac i roi amcan cynnar o’r materion sy’n effeithio'n benodol ar y sectorau hynny.     

Bu'r Comisiwn yn ystyried sut y gallai ymateb i'r Cais am Dystiolaeth drwy:

  • gynnal cyfarfodydd dilynol gyda rai o'r rhanddeiliaid ym mis Rhagfyr ac ym mis Ionawr;
  • datblygu ffordd o fynd ati i gasglu, i ddadansoddi ac i gyflwyno'r dystiolaeth.