Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso a chyflwyniadau

Cytunwyd ar gofnodion a chamau gweithredu y cyfarfod blaenorol. Soniodd y Cadeirydd am rôl werthfawr y Fforwm o ran hwyluso'r broses o rannu gwybodaeth, gwybodaeth a safbwyntiau.

2. Diweddariad gan TUC Cymru ar eu canfyddiadau o ran Iechyd a Diogelwch

Cyflwynwyd y canfyddiadau ac ystyriwyd sut y gallai'r data fod o gymorth i waith yr aelodau.

3. Crynodeb o waith ymchwil y Resolution Foundation

Trafododd aelodau’r Fforwm ganfyddiadau adroddiad y Resolution Foundation 'Failed safe? Enforcing workplace health and safety in the age of Covid-19'.

4. Ffyrdd o Weithio yn y Dyfodol o ran Rhannu Gwybodaeth yn y Fforwm Iechyd a Diogelwch

Trafododd y Fforwm bapur yn amlinellu opsiynau ar gyfer ei ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Cafwyd trafodaeth am gwmpas ac amcanion y fforwm Iechyd a Diogelwch. Cytunwyd i gynnal cyfarfodydd yn llai aml yn y dyfodol, ond gan ddilyn dull mwy strategol.

5. Ffocws y cyfarfod nesaf a chloi’r cyfarfod

Cytunodd y Fforwm i gyfarfod eto ym mis Ionawr. Awgrymwyd y byddai dull Llywodraeth Cymru o flaenoriaethu yn y rhaglen frechlynnau a safbwynt Llywodraeth Cymru ar brofion preifat gan gyflogwyr yn syniadau ar gyfer cyfarfod y Fforwm ym mis Ionawr.