Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy ddiolch i'r aelodau am eu presenoldeb a chroesawu cynrychiolwyr o lywodraeth leol – Dylan Griffiths (Gogledd Cymru), Carwyn Jones-Evans (Canolbarth Cymru), Paul Relf (De-orllewin Cymru) a Simon Gale (De-ddwyrain Cymru) – i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).

Aeth y Cadeirydd drwy'r agenda gan nodi y byddai'r cyfarfod hefyd yn cynnwys cyfle i glywed am gynnydd prosiect yr OECD ar lywodraethu rhanbarthol, y diweddaraf ar raglen Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru a Horizon Ewrop, yn ogystal â chynlluniau i adnewyddu'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol y bu llawer o aelodau yn helpu i'w gydgynhyrchu.

Ar wahoddiad y Cadeirydd, pasiwyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror heb unrhyw sylw pellach.

2. Diweddariad Llywodraeth Leol

Gwahoddodd y Cadeirydd Dylan Griffiths (DG), Carwyn Jones-Evans (CJE), Simon Gale (SG) a Paul Relf (PR) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) ym mhob un o ranbarthau Cymru. 

Y Gogledd

  • Dywedodd DG mai dyraniad SPF Gogledd Cymru yw £126 miliwn, a bod £15 miliwn ohono wedi ei ddyrannu i'r rhaglen rhifedd oedolion, Lluosi, er bod rhywfaint o hwnnw'n cael ei symud i flaenoriaethau buddsoddi eraill oherwydd tanwariant a ragwelir. Y prif lwybr ar gyfer cyflwyno prosiectau fydd grantiau cystadleuol drwy broses dau gam.
  • Ychwanegodd DG fod 307 o geisiadau wedi eu cael yn ystod Cam 1 o'r broses gwerth £263 miliwn o gyllid SPF, gyda 29% ohonynt yn geisiadau aml-awdurdod lleol. Yng Ngham 2 y broses, cafwyd 151 o geisiadau gwerth £150 miliwn, a 15%  ohonynt yn geisiadau aml-awdurdod lleol. Ar hyn o bryd mae tri chais Lluosi gwerth 41% o'r dyraniad Lluosi
  • Dywedodd DG bod disgwyl penderfyniadau ar geisiadau erbyn diwedd mis Gorffennaf. Ychwanegodd bod perchnogaeth leol a phroses gwneud penderfyniadau'r SPF i'w groesawu, ond bod anawsterau ymarferol gyda'r amserlen ar gyfer cyflawni. Mae Lluosi yn debygol o fod yn her sylweddol hyd yn oed gyda hyblygrwydd.

Y Canolbarth

  • Nododd CJE mai £42 miliwn oedd eu dyraniad nhw, a bod lefel dda o ymrwymiadau'n cael eu gwneud. Disgwylir i lythyron grant gael eu hanfon i ymgeiswyr allanol llwyddiannus ddiwedd mis Gorffennaf.
  • Dywedodd CJE y bydd rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled, gan y gwnaethpwyd ceisiadau am fwy o gyllid nag sydd ar gael, tra bod darparu Lluosi yn debygol o fod yn her, o ran gwariant ac o ran osgoi dyblygu gyda'r ddarpariaeth bresennol.
  • Adleisiodd bwynt DG, sef bod lleoleiddio’n beth cadarnhaol ond nododd gyfyngiadau'r SPF o ran prosiectau strategol a rhanbarthol a bod y ffordd mae'r Gronfa wedi ei strwythuro yn rhoi cymorth busnes, ymchwil ac arloesi o dan anfantais.

Y De-orllewin

  • Dywedodd PR fod y dull a ddefnyddir o ganlyniad i gyfeiriad strategol a luniwyd yn y blynyddoedd blaenorol a'i fod yn cyd-fynd â strategaethau rhanbarthol presennol.
  • Dywedodd y byddai £130 miliwn yn cefnogi 'prosiectau angori' ar draws yr awdurdodau lleol yn y rhanbarth, tra bod rowndiau grant ar agor ar gyfer sectorau allanol. Roeddynt yn agosáu at fod wedi ymrwymo'r holl gyllid yn y De-orllewin.
  • Ychwanegodd PR fod prosesau monitro wedi'u hintegreiddio felly byddai data ar gynnydd yr SPF yn y De-orllewin ar gael yn fuan. Ychwanegodd y byddai'r rhanbarth hefyd yn symud cyllid Lluosi i flaenoriaeth Pobl a Sgiliau'r SPF.

Y De-ddwyrain 

  • Dywedodd SG fod cyllid yn cefnogi 10 cynllun buddsoddi lleol yn ogystal â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i gefnogi datblygu clwstwr a thwristiaeth.
  • Nododd SG fod £14 miliwn wedi'i wario yn y flwyddyn gyntaf, sef 39% o ddyraniad blwyddyn 1 ac mae gan bob cyngor yn y De-ddwyrain grantiau agored ar gyfer sectorau allanol. Er enghraifft, mae RhCT wedi ymrwymo £4.5 miliwn i grwpiau cymunedol lleol. 
  • Ychwanegodd bod cynnydd Lluosi wedi bod yn fwy heriol, gydag ansicrwydd yn parhau o ran dyraniadau terfynol a hyblygrwydd, ond roedd 80% o gyllid craidd blwyddyn 1 y Gronfa, cyfanswm o dros £60 miliwn, wedi'i ddyrannu yn ogystal â 76% o gronfeydd Lluosi (£16 miliwn).
  • Ar gyfer blwyddyn 2 yr SPF, dywedodd SG y byddai £101 miliwn i'w wario ar draws y rhanbarth yn amodol ar gais i gario cyllid ymlaen, ac y byddai awdurdodau lleol yn arddangos cyfleoedd ariannu i'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector ar draws y rhanbarth.
  • Ychwanegodd SG bod heriau'n parhau wrth gyflwyno'r SPF oherwydd oedi wrth dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer y cais cario cyllid ymlaen, a llythyrau penderfynu grant blwyddyn 2. Roedd y ffactorau hyn yn gosod lefel o risg ariannol ar awdurdodau lleol.

3. Trafodaeth Agored

Mewn ymateb i'r diweddariad am lywodraeth leol, gwnaeth yr aelodau y sylwadau canlynol:

  • Roedd prifysgolion ledled Cymru bellach ar wahanol gamau o rowndiau diswyddo a thynnu gwasanaethau a rhaglenni yn ôl oherwydd eu bod yn colli cyllid yr UE ac nad oedd cyllid hygyrch yn ei le.
  • Roedd prifysgolion yn canolbwyntio ar gyfleoedd cyllido UK Innovation. Bydd colli cyllid yr UE oedd yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yn cael yr effaith hirdymor o symud y sector hwn i ofod Llywodraeth y DU, sy'n debygol o fod yn fwy heriol.
  • Mae profiad y trydydd sector yn amrywio. Disgwylir penderfyniadau cyllido yn fuan, felly mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn cyfathrebu’n dda â sefydliadau aflwyddiannus.
  • Mae'n hanfodol bod rhywfaint o werthuso ar lefel rhaglen ar gael yn fuan fel y gellir nodi arferion da a drwg.
  • A ellir darparu data ar gyllid a ddosberthir i sectorau allanol, er mwyn gwneud cymhariaeth glir ar faint y mae pob sector wedi cael mynediad ato?
  • Byddai'n helpu pe gellid ymestyn y ddarpariaeth i 2025, neu dim ond tua blwyddyn o ddarpariaeth fydd ar gael ar gyfer prosiectau allanol.

Gwnaeth cynrychiolwyr llywodraeth leol y sylwadau canlynol mewn ymateb i'r pwyntiau a godwyd:

  • Nid yw'r SPF o'r un raddfa na chwmpas â Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Nid yw'n mynd i weithio ar gyfer prosiectau strategol ar raddfa fawr sydd o dan arweiniad Addysg Uwch.
  • Mae rhestrau prosiect Blwyddyn 1 yn cael eu cyhoeddi. Gellir sicrhau bod dadansoddiad sectoraidd ar gael.
  • Mae gwersi yn cael eu dysgu drwy gydol y broses. Er nad yw'r SPF wedi bod heb ei anawsterau, mae rhanddeiliaid wedi ymrwymo i wneud y gorau ohono.

4. Prosiect OECD

Ar wahoddiad y Cadeirydd rhoddodd Alison Sandford (AS) yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect parhaus yr OECD gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol.

Nododd AS fod yr OECD wedi ymweld â Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ac wedi cynnal grwpiau ffocws yn Ne-ddwyrain a Chanolbarth Cymru fel rhan o'u gwaith casglu gwybodaeth.

Mae adborth da wedi'i ddarparu gan randdeiliaid a bydd sesiynau pellach gyda Gogledd a De-orllewin Cymru yn cael eu cynnal ym mis Medi, cyn cyfres derfynol o weithdai ar draws y rhanbarthau a digwyddiad aml-randdeiliaid ddiwedd mis Hydref.

5. Cymru Ystwyth

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Geraint Green (GG) a Baudewijn Morgan (BM) roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru a'r datblygiadau diweddaraf o ran cyfranogiad y DU yn rhaglen Horizon Ewrop  yr UE.

Dywedodd GG fod Cymru Ystwyth yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o Gymru allblyg drwy gefnogi sefydliadau Cymru i ddatblygu cysylltiadau economaidd gyda rhanbarthau rhyngwladol wedi'u targedu.

Nododd fod y dull gweithredu wedi'i nodi yn y Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol, ond gyda Llywodraeth y DU yn gwadu mynediad Llywodraeth Cymru at gyllid newydd, ar hyn o bryd roedd Cymru Ystwyth yn gweithredu ar raddfa lai na'r hyn a ragwelwyd yn flaenorol.

Ychwanegodd GG fod Cymru Ystwyth yn sicrhau bod cyllid sbarduno ar gael i sefydliadau yng Nghymru ddatblygu cydweithrediad economaidd yng Ngofod Môr Iwerddon yn ogystal â rhanbarthau pwysig yr UE ac Oita yn Japan. Nododd fod Fframwaith Môr Iwerddon wedi'i gyhoeddi eleni i arwain cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid yn y gofod hwn a bod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Iwerddon ynghylch opsiynau tymor hwy.

Dywedodd GG hefyd fod y posibilrwydd o ehangu cyfleoedd Cymru Ystwyth i ranbarthau byd-eang ychwanegol yn cael ei archwilio gydag adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd BM fod y DU a'r UE wedi cytuno ar fargen mewn egwyddor i'r DU gysylltu'n ffurfiol â Horizon Ewrop, ond nid yn ymarferol eto, felly roedd trafodaethau'n parhau.

Ar hyn o bryd mae'r DU mewn statws cyn-gysylltiad, felly yn talu am fynediad i'r rhaglen yn yr un modd, er enghraifft, ag y mae Seland Newydd yn gwneud hynny.

Dywedodd BM fod Llywodraeth y DU wedi clustnodi £14.6 biliwn i'w wario ar Horizon Ewrop neu ddewis domestig arall erbyn mis Mawrth 2028, felly dylai sefydliadau Cymru barhau i ddatblygu syniadau ac ymgysylltu â phrosiectau Horizon.

Ychwanegodd bod cefnogaeth i sefydliadau Cymreig sydd â diddordeb mewn ymgysylltu â Horizon Ewrop ar gael drwy Lywodraeth Cymru.

6. Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Alison Sandford (AS) drafod adfywio'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol i gefnogi gwaith cynllunio ar gyfer cam nesaf y buddsoddiad rhanbarthol.

Nododd AS ei bod wedi bod yn dair blynedd ers cyhoeddi'r Fframwaith a bu llawer o newidiadau economaidd ers hynny y mae angen eu hystyried megis effaith y pandemig, materion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a'r darlun cyflogaeth ledled Cymru.

Gyda'r SPF yn dirwyn i ben ar ddiwedd 2024 ac Etholiad Cyffredinol yn y flwyddyn nesaf, mae angen i ni adnewyddu'r Fframwaith i sicrhau ei fod yn adlewyrchu heriau, anghenion a chyfleoedd cyfredol.

Dywedodd AS y byddai'r gwaith o adnewyddu gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol yn dechrau'n fuan, a gwahoddodd aelodau'r Fforwm i gynnig unrhyw sylwadau cynnar fel y gellid eu hystyried.

Ychwanegodd AS y byddai ymgysylltu mwy strwythuredig yn digwydd dros y misoedd nesaf. Croesawyd hyn gan fynychwyr.

7. Unrhyw fater arall

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau parhaus.

Ni chodwyd unrhyw fusnes pellach a dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn ystod yr Hydref.

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Huw Irranca-Davies AS

Aelodau

Eirlys Lloyd (Cadeirydd, Rhwydwaith Gwledig Cymru)

Amanda Wilkinson - Cyfarwyddwr, Prifysgolion Cymru (Addysg Uwch) 

Claire Miles, Rheolwr Ymgysylltu Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion (Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru)

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)

Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)

Rhianne Jones, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Ymadael â'r UE a Rheoli Tir (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas (Y Trydydd Sector - Menter Gymdeithasol)

Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Partneriaeth y Trydydd Sector)

Paul Butterworth, Prif Swyddog Gweithredol (Siambrau Cymru)

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Partneriaeth Gogledd Cymru)

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru (Partneriaeth Gogledd Cymru)

Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol)

Simon Gale, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Llywodraeth Leol)

Carwyn Jones-Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Llywodraeth Leol)

Paul Relf, Cyngor Abertawe (Llywodraeth Leol)

Dylan Rhys Griffiths, Cyngor Gwynedd (Llywodraeth Leol)

 

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Peter Ryland - WEFO – Prif Swyddog Gweithredol

Geraint Green - WEFO – Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chydweithredu Tiriogaethol Ewrop)

Alison Sandford - WEFO – Pennaeth Polisi a Gweithio mewn Partneriaeth

Mike Richards - WEFO – Rheolwr Cyfathrebu

Baudewijn Morgan, WEFO - Pennaeth Ynni ac Effeithlonrwydd Ynni/Cangen Horizon Ewrop

Sarah Govier - Trysorlys Cymru – Pennaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Claire McDonald, Busnes a Rhanbarthau – Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd

Sam Huckle, Pennaeth Cyflenwi a Gweithrediadau – Cyflogadwyedd a Sgiliau