Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy ddiolch i'r aelodau am eu presenoldeb a chroesawu cynrychiolwyr o lywodraeth leol – Derek James (RhCT), Paul Relf (Abertawe) a Sioned Williams (Gwynedd) – i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) nawr bod Llywodraeth y DU wedi rhyddhau'r dyraniadau ariannol i awdurdodau lleol ar gyfer 2022/23 ym mis Ionawr 2023.

Anogodd y Cadeirydd aelodau o sectorau eraill i rannu eu profiad o ddefnyddio'r Gronfa a nododd y byddai trafodaeth agored ar ôl y diweddariad am lywodraeth leol.

Croesawodd y Cadeirydd hefyd Maria-Varinia Michalun (MVM) o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i'r cyfarfod i gyflwyno a chyflwyno cam presennol gwaith yr OECD gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd rhanbarthol.

Ar wahoddiad y Cadeirydd, cymeradwywyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol ar 8 Rhagfyr heb wneud sylw pellach.

2. Diweddariad gan OECD

Cyflwynodd MVM brosiect cyfredol yr OECD a nododd ei nod i fwrw ymlaen â rhai o'r argymhellion yng ngham cynharach y gwaith rhwng yr OECD a Llywodraeth Cymru a gynhyrchodd adroddiad a gyhoeddwyd yn 2020 Dyfodol Datblygu Rhanbarthol a Buddsoddi Cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y cam gwaith presennol yn canolbwyntio ar atgyfnerthu dulliau traws-sector o ymdrin â pholisi rhanbarthol. Bydd hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru, cyrff rhanbarthol ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gynllunio'n strategol mewn modd mwy integredig ar gyfer datblygu rhanbarthol.

Yn ogystal â chwblhau ymarfer mapio o strategaethau Llywodraeth Cymru, cynhaliodd yr OECD arolwg dinasyddion y llynedd i ofyn am adborth ar flaenoriaethau ar gyfer gwahanol lefelau o lywodraeth a dyheadau yn y dyfodol. Cafwyd tua 1,500 o ymatebion i'r arolwg.

Dywedodd MVM y bydd cam nesaf y gwaith yn cynnwys gosod gweledigaethau, cynllunio a datblygu dull hirdymor o ddatblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru.

Dros y misoedd nesaf, bydd yr OECD yn ymweld â Chymru i gynnal ystod o weithdai ar gyfer nifer o grwpiau o randdeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni rhanbarthol.

Mewn ymateb i'r diweddariad gan OECD, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

  • Mae ymyrraeth Llywodraeth y DU mewn buddsoddiad rhanbarthol datganoledig yn amharu ar ddulliau datblygu rhanbarthol yng Nghymru.
  • Dywed Llywodraeth y DU ei bod yn agored i fodelau newydd ond mae profiad wedi dangos nad yw ffrydiau ariannu newydd wedi bod yn sensitif i bolisi datganoledig na ffyrdd rhanbarthol o weithio sydd wedi hen ennill eu plwyf.
  • Mae'r cronfeydd Ffyniant Gyffredin a Ffyniant Bro yn rhaglenni tymor byr sy'n cyd-fynd â chylch yr Adolygiad o Wariant sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2024/25. Mae'n hanfodol bod y rhai fydd yn dod yn eu lle yn gweithio'n well ac yn cael eu cydgysylltu'n well â phartneriaid yng Nghymru.

Yn dilyn y sylwadau hyn, cyflwynodd MVM y canfyddiadau o arolwg y dinasyddion a'r gweithdai gyda rhanddeiliaid a gynhaliwyd y llynedd.

Mewn ymateb i'r cyflwyniad, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

  • Mae twristiaeth, cysylltedd, yr agenda werdd a sgiliau'r gweithlu i gyd yn rhannau allweddol o bolisïau yng Nghymru.
  • Gwaith hynod amserol o safbwynt llywodraeth leol. Yn awyddus i alinio ym mhob rhanbarth yn hytrach na chael ffrydiau gwaith ar gyfer awdurdodau lleol unigol.
  • Mae'n bwysig bod y gwaith yn ystyried cysylltiadau trawsffiniol a'r integreiddio economaidd gyda rhanbarthau Lloegr.
  • Mae Comisiwn ar gyfer addysg ôl-16 yn cael ei sefydlu. O 2024 ymlaen, y Comisiwn hwn fydd yn ymateb i rai o'r heriau a nodwyd yn arolwg y dinasyddion.
  • Prosiect strategol hirdymor yw hwn sy'n bwysig i Weinidogion. Mae'n bwysig bod rhwydweithiau rhanddeiliaid yn ymgysylltu'n llawn - mae'n ddarn o waith ar gyfer 'Cymru', yn hytrach na darn o waith gan Lywodraeth Cymru yn unig.

3. Diweddariad gan Lywodraeth Cymru

Dywedodd Peter Ryland (PR) fod y gymuned Ymchwil a Datblygu wedi'i siomi gan y sylw a roddwyd yr wythnos diwethaf i'r £1.6bn a oedd wedi'i glustnodi ar gyfer Horizon Europe yn cael ei dynnu'n ôl gan y Trysorlys.

Dywedodd fod Gweinidogion yn gofyn am eglurhad gan Lywodraeth y DU a nododd hefyd fod Gweinidog yr Economi yn lansio Strategaeth Arloesi newydd gan Lywodraeth Cymru heddiw.

Dywedodd David Heath (DH) fod Adran Addysg Llywodraeth y DU (DfE) yn caffael ar gyfer y platfform digidol gwerth £100m ar gyfer rhaglen Lluosi sy'n cael ei gweld fel yr "allwedd" ar gyfer dysgu sgiliau rhifedd. Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU yn gobeithio y bydd y platfform yn weithredol erbyn dechrau 2024.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a CLlLC i gyflwyno ei chynnig o ran cyflogadwyedd a sgiliau er mwyn sicrhau nad yw'n dyblygu rhaglen Lluosi lle bo modd.

Ychwanegodd DH fod prosiectau sgiliau'r SPF yn tueddu i fod yn lleol yn hytrach na rhanbarthol ac mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bartneriaid ystyried y darlun rhanbarthol ar ôl i'r holl brosiectau gael eu cymeradwyo.

Mewn ymateb i'r diweddariad gan Lywodraeth Cymru, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

  • Mae cyfnod byr yr SPF yn creu risg o ran beth fydd yn digwydd i'r carfanau sy'n cymryd rhan pan ddaw'r cyllid i ben.
  • Mae'n bwysig bod data'n cael ei ddefnyddio ar gyfer monitro a gwerthuso i gefnogi cynllunio tymor hwy o gwmpas y ddarpariaeth.
  • Mae tanwariant mewn perthynas â rhaglen Lluosi yn risg. Mae pwysau ar yr Adran Codi'r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) i fod yn hyblyg fel bod modd rhyddhau arian sydd heb ei ddyrannu i'w ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau eraill yr SPF, fel Pobl a Sgiliau.

4. Local government update

Cyflwynwyd Paul Relf (PRe), Sioned Williams (SW) a Derek James (DJ) gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr SPF ym mhob un o ranbarthau Cymru. Nododd nad oedd Carwyn Jones-Evans (CJE) yn gallu bod yn bresennol ar ran Canolbarth Cymru ond ei fod wedi darparu diweddariad ysgrifenedig a anfonwyd i'r Fforwm cyn y cyfarfod.

Wrth sôn am dde-orllewin Cymru, dywedodd PRe fod rhannau o raglen y Gronfa yn seiliedig ar brosiectau "angor" sy'n gysylltiedig ag ymrwymiadau maniffesto lleol a'r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol.

Nododd fod galwad agored wedi'i chlustnodi ar gyfer prosiectau, sy'n seiliedig ar sgiliau sy'n cyfeirio at Gynlluniau Sgiliau Rhanbarthol, i fod i agor cyn bo hir. Ychwanegodd fod disgwyliadau'n cael eu rheoli oherwydd y pwysau o ran cyllid wrth i raglenni'r UE ddod i ben.

Dywedodd SW fod partneriaid yng ngogledd Cymru wedi cael gwahoddiad i gyflwyno cynigion ym mis Ionawr. Bu ymateb enfawr yn y rhanbarth ac roedd awdurdodau lleol bellach wrthi'n asesu ac yn blaenoriaethu'r ceisiadau.

Bydd y prosiectau a flaenoriaethir yn cael eu gwahodd wedi hynny i ail gam y broses ymgeisio ac roedd grŵp partneriaeth traws-sector wedi'i sefydlu i helpu gyda'r broses flaenoriaethu.

Ychwanegodd SW fod y gallu i gyflawni yn allweddol o ystyried bod angen cwblhau pob prosiect erbyn diwedd 2024 a'i bod yn gobeithio y byddai pob prosiect llwyddiannus yn derbyn llythyrau cynnig erbyn mis Mai.

Dywedodd DJ fod y profiad yn ne-ddwyrain Cymru yn debyg i lawer o'r hyn yr oedd PRe a SW wedi'i drafod. Dywedodd bod cytundebau cyfreithiol gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael eu sefydlu.

Mae awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru wedi datblygu cynlluniau unigol a bydd cyflymder cyflwyno'r cynllun yn amrywio, ond mae cronfeydd grant cymunedol i gyd ar agor erbyn hyn. Cyn bo hir, bydd Rhondda Cynon Taf yn cyhoeddi rownd ariannu gystadleuol ar gyfer busnesau a bydd awdurdodau lleol eraill yn cyflwyno cynlluniau tebyg dros y misoedd nesaf.

Ychwanegodd DJ bod Busnes Cymru wedi bod o gymorth mawr o ran osgoi dyblygu darpariaeth, ond bod angen eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch hyblygrwydd gyda chynllun Lluosi cyn gynted â phosib.

Mewn ymateb i'r diweddariad gan lywodraeth leol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

  • Mae profiad y trydydd sector yn amrywio o fewn rhanbarthau o ran sut mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r sector a'r sianeli cyfathrebu sy'n cael eu defnyddio.
  • Byddai'n ddefnyddiol cael proses gydlynu fel bod arferion da a drwg yn cael eu rhannu a gwersi'n cael eu dysgu.
  • Mae'r ffaith bod awdurdodau lleol i gyd ar wahanol gamau gweithredu yn peri rhwystredigaeth ymhlith sefydliadau sy'n ceisio cyllid.

5. Unrhyw fater arall

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu sylwadau ar Gylch Gorchwyl newydd y Fforwm. Caiff hwn ei gyflwyno nawr i Weinidogion i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ni chodwyd unrhyw fater arall a dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn ystod yr haf.

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Huw Irranca-Davies AS

Aelodau

Eirlys Lloyd (Cadeirydd, Rhwydwaith Gwledig Cymru)

Grahame Guilford (Grahame Guilford and Company Ltd)

Nisreen Mansour - Swyddog Polisi, TUC Cymru (Undeb Llafur)

Amanda Wilkinson - Cyfarwyddwr, Prifysgolion Cymru (Addysg Uwch)

Ashley Rogers, , Cyfarwyddwr – Gill and Shaw (Ffederasiwn Pobl Hunangyflogedig a Busnesau Bach Cymru)

Y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd, Cyngor Sir Powys (Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru)

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)

Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm -  Ewrop ac Adfywio (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)

Rhianne Jones, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Ymadael â'r UE a Rheoli Tir (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas (Y Trydydd Sector - Menter Gymdeithasol)

Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CBI Cymru (CBI - Busnes)

Matt Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Partneriaeth y Trydydd Sector)

Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth (Banc Datblygu Cymru)

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Partneriaeth Gogledd Cymru)

Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol)

Derek James, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Llywodraeth Leol)

Paul Relf, Cyngor Abertawe (Llywodraeth Leol)

Sioned Williams, Cyngor Gwynedd (Llywodraeth Leol)

Maria Varinia Michalun, , Pennaeth Llywodraethu a Chynllunio ar gyfer Datblygu Rhanbarthol (OECD)

Alexis Durand, Is-adran Polisi Rheoleiddio (OECD)

 

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Peter Ryland - WEFO – Prif Swyddog Gweithredol

Geraint Green - WEFO – Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chydweithredu Tiriogaethol Ewrop)

Alison Sandford - WEFO – Pennaeth Polisi a Gweithio mewn Partneriaeth

Mike Richards - WEFO – Rheolwr Cyfathrebu

Thomas Mallam-Brown - WEFO – Uwch Swyddog Polisi (Polisi Rhanbarthol)

Sarah Govier - Trysorlys Cymru – Pennaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol

David Rosser - Busnes a Rhanbarthau – Prif Swyddog Rhanbarthol (Y De)