Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod gan ddiolch i’r aelodau am fod yn bresennol a chroesawu’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sydd wedi ymuno â’r Fforwm yn gynrychiolydd newydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.

Ers y cyfarfod diwethaf (25 Ebrill), nododd y Cadeirydd fod awdurdodau lleol wedi bod yn datblygu cynlluniau buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn gyntaf o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF). Disgwylir i’r cynlluniau gael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst. Bydd Tim Peppin (TP) o CLlLC yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn ystod y cyfarfod.

Anogodd y Cadeirydd aelodau o sectorau eraill i rannu eu profiadau hefyd o ran ymwneud â’r Gronfa ac esboniodd y byddai trafodaeth agored yn dilyn diweddariad TP.

Ar wahoddiad y Cadeirydd, pasiwyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol dyddiedig 25 Ebrill heb unrhyw sylw pellach.

2. Diweddariad Llywodraeth Cymru

Gwahoddodd y Cadeirydd Peter Ryland (PR) i roi diweddariad ar ran Llywodraeth Cymru.

Rhannodd PR fod yr amgylchedd gwleidyddol yn parhau i fod yn anodd iawn i Lywodraeth Cymru gan nodi safbwynt Llywodraeth y DU, a rannwyd ym Mhwyllgor Cyllid diweddar y Senedd, ynghylch y trefniadau cyllido ar ôl ymadael â’r UE. Ailadroddodd fod Llywodraeth Cymru yn llwyr ymwybodol o’r effaith y mae hyn yn ei chael ar randdeiliaid sy’n ceisio llywio sefyllfa gyllido ansefydlog.

Ychwanegodd PR y bydd Llywodraeth Cymru yn fodlon trafod ymyriadau penodol a gynigir gan awdurdodau lleol yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth y DU o gynlluniau buddsoddi rhanbarthol y Gronfa.

Nododd Alison Sandford (AS) fod Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Michael Gove, ym mis Mehefin i gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y Gronfa. Ni all Gweinidogion Cymru gefnogi’r dull y mae Llywodraeth y DU wedi’i gymryd ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn chwarae unrhyw ran swyddogol yn y broses o gefnogi gweithredu’r Gronfa fel y mae pethau ar hyn o bryd. Mae’r safbwynt hwn wedi’i amlinellu hefyd mewn Datganiad Ysgrifenedig diweddar.

Dywedodd AS fod Gweinidogion Cymru yn agored i drafod gyda Llywodraeth y DU os ydynt yn barod i fynd i’r afael â phryderon ynghylch y modd y caiff cyllid ei ddyrannu a’r setliad datganoli.

Ychwanegodd AS fod Gweinidog yr Economi hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr llywodraeth leol fis diwethaf i gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ac i gynnig cefnogaeth o ran datblygu cynlluniau buddsoddi, datblygu cydweithio ar froceru a datblygu partneriaethau ar draws sectorau er mwyn osgoi dyblygu gweithgarwch a sicrhau bod y gwaith yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae’r llythyr yn nodi’r meysydd y gallai Llywodraeth Cymru eu cefnogi ee mewn sgiliau a chefnogi busnesau, ond byddai pob ymyriad yn cael ei asesu ar sail fesul achos unigol.

Yn dilyn cais gan CLlLC, cytunodd PR y byddai cyfarfod nesaf y Fforwm hefyd yn cynnwys diweddariad ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i ardaloedd gwledig ar ôl ymadael â’r UE.

3. Diweddariad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Gwahoddodd y Cadeirydd TP i roi diweddariad ar ddatblygiadau ar lefel llywodraeth leol gan gynnwys cynnydd ar gynlluniau buddsoddi’r Gronfa.

Dywedodd TP fod awdurdodau lleol arweiniol yn cyd-lynu gweithgareddau ymgysylltu a’u bod yn llunio darlun rhanbarthol wrth iddynt ddatblygu cynlluniau buddsoddi. Mae’r amserlenni yn anodd gan eu bod angen adrodd wrth awdurdodau lleol unigol o fewn eu rhanbarth a sicrhau bod adroddiadau wedi'u clirio gan bob cabinet cyfansoddol o fewn yr awdurdodau lleol. Bydd cynlluniau buddsoddi o natur lefel uchel, gyda phenderfyniadau i’w gwneud ynghylch prosiectau ac ymyriadau penodol ar ôl i’r cynlluniau gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth y DU.

Esboniodd TP fod rhai materion ymarferol i’w datrys gyda Llywodraeth y DU, megis y cais am broffiliau a chanlyniadau gwariant, pan mai darlun sy’n fwy bras sydd ei angen ar y cam hwn o’r broses.

Ychwanegodd TP fod awdurdodau lleol yn edrych ar gynnig dyraniadau bloc o gyllid ar gyfer rhai ardaloedd, gyda’r manylion, trefniadau darparu a chwmpas y darpariaethau i’w penderfynu ar ôl cael cymeradwyaeth. Bydd trafodaethau gyda rhanddeiliaid yn parhau hyd nes bod y cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi ei gael ym mis Hydref. Mae cyfleoedd ar gyfer trafodaethau partneriaeth yn parhau.

Nododd TP fod sawl sefydliad wedi cyflwyno cais i awdurdodau lleol am gyllid gan y Gronfa, a’u bod yn ceisio ymateb mewn modd trefnus er gwaethaf y ffaith nad yw’r amserlenni yn caniatáu’r lefel o ymgysylltu sydd ei hangen mewn gwirionedd.

O ran y cynllun Lluosi (Multiply) a fydd yn cael ei gyllido gan y Gronfa, esboniodd TP fod CLlLC yn pwyso am ragor o hyblygrwydd ac i gyfran o’r cyllid gael ei ledaenu ar draws prif flaenoriaethau buddsoddi’r Gronfa. Mae awdurdodau lleol yn bryderus ynghylch y tebygolrwydd o danwario a dyblygu yn sgil y ffaith bod ffocws y cynllun ar hyn o bryd yn rhy gyfyng.

Esboniodd TP fod lefel o amharodrwydd i gynnig prosiectau sy’n seiliedig ar refeniw o fewn cynlluniau’r Gronfa gan eu bod yn ddibynnol ar ffynhonnell barhaol o gyllid tra bo’r Gronfa ar hyn o bryd yn dod i ben yn 2025.

4. Diweddariad ar y cynllun Lluosi

Gwahoddodd y Cadeirydd Sam Huckle (SH) o Lywodraeth Cymru i roi diweddariad ar y cynllun Lluosi, sef cynllun rhifedd ar gyfer oedolion gan Lywodraeth y DU. Caiff y cynllun hwn ei gyllido gan y Gronfa.

Dywedodd SH fod gan Lywodraeth Cymru bryderon ynghylch y cynllun Lluosi a’r posibilrwydd iddo ddyblygu darpariaeth ddatganoledig sy’n bodoli eisoes. Mae’r cyllid sy’n cael ei ddyrannu i’r cynllun yng Nghymru yn anghymesur wrth ystyried buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Esboniodd SH y bydd heriau gwirioneddol o ran darparu, er enghraifft penodi a hyfforddi digon o diwtoriaid, gwerth am arian a’r gallu i ddefnyddio’r dyraniad cyfan o gyllid.

Mae dryswch yn parhau ynghylch y berthynas rhwng llwyfan cenedlaethol Adran Addysg Llywodraeth y DU sy’n cynnig dadansoddi sgiliau ac ati, a’r cyllid a ddyrennir ar gyfer darpariaethau sgiliau lleol.

Ychwanegodd SH fod Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio annog Llywodraeth y DU i ehangu cwmpas y cynllun i gynnwys, er enghraifft, sgiliau digidol hanfodol er mwyn diwallu anghenion penodol Cymru yn well.

5. Trafodaeth agored

Gwnaeth aelodau y pwyntiau a ganlyn:

  • Mae gwasanaethau’r trydydd sector a gyllidir gan yr UE bellach yn dod i ben heb unrhyw arwydd o gyllid newydd. Mae hyn am gael effaith fawr ar bobl sy’n agored i niwed ac yng nghymunedau ledled Cymru.
     
  • Mae Cymru angen strwythur lywodraethu priodol er mwyn i randdeiliaid ymgysylltu â’r Gronfa. Mae hyn wedi’i godi gyda Llywodraeth y DU. Gallai hwn fod yn strwythur sy’n datblygu o’r Fforwm hwn.
     
  • Mae Llywodraeth y DU yn ymyrryd â meysydd datganoledig. Byddai’r Gronfa hon yn cael ei chyd-gynhyrchu a’i rheoli yn well yng Nghymru. Bydd anawsterau gwirioneddol o ran gwario cyllid Lluosi gan fod cwmpas y cynllun yn llawer iawn rhy gyfyng.
     
  • Mae awdurdodau lleol yn gweithio’n galed ar feithrin cysylltiadau. Bydd angen i gynlluniau strategol newid yn barhaus yn sgil digwyddiadau sy’n creu bylchau mewn darpariaethau sy’n bodoli eisoes. Bydd penodi staff i gefnogi’r gwaith cyflawni yn heriol.
     
  • Mae’r sector Addysg Bellach wedi ymgysylltu’n dda gyda llywodraeth leol. Ar hyn o bryd, mae’r sector yn cyfrifo darpariaethau posibl o dan y flaenoriaeth fuddsoddi Pobl a Sgiliau.
     
  • Mae’n bwysig nodi bod y gost o ddatblygu prosiectau mewn ardaloedd gwledig yn sylweddol uwch o gymharu â’r gost o’u datblygu mewn ardaloedd trefol. Nid yw cyllid y Gronfa yn agos i’r hyn a gafwyd yn flaenorol mewn cylchoedd cyllido yr UE.
     
  • Mae is-grŵp Rhyngwladol a Thrawsffiniol y Grŵp Llywio blaenorol i’r Fforwm hwn yn datblygu i fod yn grŵp cynghori i gefnogi menter Cymru Ystwyth. Nod y fenter yw cefnogi cyfleoedd cydweithio rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae cyllid ar gael i gynnal a datblygu cydweithio gyda rhanbarthau Baden-Württemberg, Llydaw a Fflandrys.

6. Unrhyw fater arall a sylwadau i gloi

Ni chodwyd unrhyw fater arall.

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu cefnogaeth barhaus a rhoddodd wybod y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar ôl cyflwyno cynlluniau buddsoddi’r Gronfa yn fuan yn nhymor yr hydref.

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Huw Irranca-Davies AS

Aelodau

Sefydliad

Enw

Rhwydwaith Gwledig Cymru

Eirlys Lloyd, Cadeirydd

Grahame Guilford and Company Ltd

Grahame Guilford

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Hywel Edwards

Cyfoeth Naturiol Cymru Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Prifysgol Caerdydd Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy
 

Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm – Ewrop ac Adfywio

Prifysgolion Cymru

Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful
Partneriaeth y Trydydd Sector Matt Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Siambrau Cymru

Oliver Carpenter, Swyddog Gweithredol

Y Trydydd Sector (Mentrau Cymdeithasol) Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas
Banc Datblygu Cymru Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd, Cyngor Sir Ceredigion
Partneriaeth Gogledd Cymru

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

 

Alwen Williams, Cyfarwyddwr y Rhaglen, Bargen Twf y Gogledd

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Enw

Swydd ac adran
Claire McDonald Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad (ETC)
Duncan Hamer Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau, ETC

Peter Ryland

Prif Swyddog Gweithredol, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)

Mike Richards

Rheolwr Cyfathrebu, WEFO

Alison Sandford

Pennaeth Polisi a Gweithio mewn Partneriaeth, WEFO

Geraint Green

Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd), WEFO

Thomas Brown

Uwch-swyddog Polisi (Polisi Rhanbarthol), WEFO
Sheilah Seymour Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi, WEFO

Sam Huckle

Pennaeth Cyflenwi a Gweithrediadau - Cyflogadwyedd a Sgiliau
Ann Watkin Pennaeth Strategaeth, Cydweddu Gweithrediadau a Chynllunio, ETC