Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso (9:30)

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod gan ddiolch i’r aelodau am fod yn bresennol. Rhannodd fod datblygiadau sylweddol wedi digwydd ers y cyfarfod blaenorol gyda bidiau llwyddiannus i’r Gronfa Adfywio Cymunedol a’r Gronfa Codi’r Gwastad wedi’u cadarnhau, yn ogystal â’r proffiliau gwariant hirdymor ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Ychwanegodd y Cadeirydd fod Gweithgor Gweinidogol ar Fuddsoddiad Rhanbarthol wedi’i gynnal ar 4 Tachwedd. Byddai ef a Peter Ryland (PR) yn rhoi diweddariad ynglŷn â hyn yn ystod y cyfarfod.

Rhoddwyd sylw i brotocolau’r cyfarfod, a chafodd cofnodion cyfarfod 7 Hydref eu clirio i'w cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwahoddwyd PR i roi diweddariad ar ran Llywodraeth Cymru.

2. Diweddariad Llywodraeth Cymru (9:40)

Yn dilyn y Gweithgor Gweinidogol a gynhaliwyd wythnos diwethaf, dywedodd PR ei fod yn glir bod Gweinidogion yn credu bod angen dal ati i frwydro o hyd o safbwynt trefniadau buddsoddi rhanbarthol y dyfodol. Dywedodd hefyd bod y Gweinidogion yn awyddus i barhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i wireddu addewidion y Refferendwm.

Amlinellodd PR y proffiliau ariannol DU-gyfan ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin a gafodd eu cyhoeddi yn Adolygiad o Wariant y DU ar 27 Hydref. Maent fel a ganlyn:

  • 2022-23 – £400m
  • 2023-24 – £700m
  • 2024-25 – £1.5bn

Er bod cyllid hirdymor y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i gadarnhau, mae Llywodraeth y DU yn parhau i sefydlu’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn.

Rhannodd PR fod y rhaglen Multiply a gyhoeddwyd yn ystod yr Adolygiad o Wariant fel rhaglen rifedd y DU-gyfan ac sydd wedi’i chyllido gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn parhau i fod yn y camau cyntaf o’i datblygiad. Ychwanegodd PR er nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw fewnbwn i’r rhaglen, gallai’r prosiectau strategol sy’n cael eu cefnogi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin fod yn ddatblygiad i’w groesawu. Mae hyn yn dangos bod trafodaethau pellach rhwng llywodraethau yn angenrheidiol.

Dywedodd PR fod Llywodraeth y DU yn cynyddu ei defnydd o bwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU er mwyn gweithredu mewn ardaloedd datganoledig heb ganiatâd Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen Multiply yn enghraifft bellach ymhlith nifer o fuddsoddiadau cyllido eraill a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad o Wariant. Nid yw hyn yn dderbyniol gan Weinidogion Cymru. Mae Prif Weinidog Cymru am drafod hyn gyda’r Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove yn ystod cyfarfodydd rhynglywodraethol.

Roedd chwe awdurdod lleol yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i’r Gronfa Codi’r Gwastad, gan sicrhau cyfanswm o £121m ar gyfer 10 o brosiectau. Daeth y ceisiadau llwyddiannus o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.

Mae 21 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi sicrhau £46.8m ar gyfer 165 o brosiectau Cronfa Adfywio Cymunedol. Bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cael rhwng £2m - £3m ar gyfer amrywiaeth eang o gynlluniau bach a lleol.

Dywedodd PR fod y Gronfa Adfywio Cymunedol wedi’i gweithredu mewn modd tebyg i’r rhaglen Amcan 1 2000-2006. Ychwanegodd mai'r hyn a ddysgwyd o'r cyfnod hwnnw oedd bod gwell gwerth am arian wedi’i gyflawni pan oedd buddsoddiad yn cyd-fynd â'r strategaethau economaidd oedd yn bodoli ar y pryd.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn gobeithio am gyswllt gwell gan adran Michael Gove a bod mwy o gyfarfodydd rhynglywodraethol rheolaidd yn cynnig llwyfan arall ar gyfer trafodaethau gwell. Rhannodd hefyd fod Gweinidog yr Economi am drafod y mater hwn ym mhwyllgor nesaf y Senedd ynghylch yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Cadarnhaodd PR mai’r cyfarfod cysylltiadau rhynglywodraethol bob pythefnos yw’r unig lwyfan rheolaidd ar gyfer ymgysylltu â Gweinidogion ynghylch y mater hwn. Mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at Michael Gove, a mae’r Gweinidog Cyllid ynghlwm â’r mater hwn yn ogystal.

Dywedodd y Cadeirydd fod Gweinidogion Cymru yn ceisio meithrin cysylltiadau mewn modd adeiladol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod Llywodraeth y DU nid yn unig yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ond ei bod hefyd yn ymgysylltu â fframwaith polisi Cymru, blaenoriaethau rhanbarthol a’r dulliau a argymhellwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

3. Diweddariad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) (10:00)

Diolchodd y Cadeirydd i PR a gwahoddodd Tim Peppin (TP) i roi diweddariad ar ran CLlLC.

Dywedodd TP fod awdurdodau lleol Cymru wedi sicrhau cyfran dda o’r Gronfa Adfywio Cymunedol gan sicrhau 23% o gyfanswm y cyllid ar gyfer y DU gyfan.

Mae’r prosiectau sy’n cael eu hariannu yn ymwneud ag ystod o feysydd gan gynnwys cyflogadwyedd, menter, sgiliau, natur, digidol, ynni, adfywio canol trefi a thwristiaeth. Mae Llywodraeth y DU yn cyfarfod â rhanddeiliaid i gynnal trafodaethau ar geisiadau llwyddiannus. Nid oes adborth wedi ei roi ynglŷn â cheisiadau aflwyddiannus.

Dywedodd TP ei fod ar ddeall na fyddai’r Gronfa Adfywio Cymunedol yn cael ei hailadrodd flwyddyn nesaf a byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin lawn yn dechrau.

Amlinellodd TP y cyllid fyddai’n dod i Gymru ym mlynyddoedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd i ddod pe byddai’r un raddfa lwyddiant â’r raddfa Gronfa Adfywio Cymunedol yn cael ei chyflawni (h.y. 23%).​

  • 2022-23 – £92m
  • 2023-24 – £161m
  • 2024-25 – £345m

Sicrhaodd awdurdodau lleol yng Nghymru gyllid o £121m o’r £293m a geisiwyd amdano drwy’r Gronfa Codi’r Gwastad. Esboniodd TP nad oedd nifer o awdurdodau wedi gwneud cais oherwydd materion gallu ond buasent yn debygol o gyflwyno ceisiadau yn y dyfodol, gyda’r broses yn agor yn nhymor y gwanwyn 2022.

4. Gweithio’n rhyngwladol a ledled y DU (10:20)

Diolchodd y Cadeirydd i TP a chyflwynodd Geraint Green (GG), Pennaeth Rheoli Rhaglenni ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Amlinellodd GG y prif amcan o hyrwyddo cryfderau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau cyfleoedd gwell ar gyfer cydweithredu rhyngwladol a chanlyniadau sy’n fwy cynaliadwy.

Dywedodd GG fod yr amgylchedd gyllido yn gystadleuol o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn defnyddio dulliau newydd, diffyg eglurder o ran y cyfranogiad â rhaglen Horizon Ewrop, colli Cronfeydd Strwythurol, yn ogystal â’r ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol y berthynas rhwng y DU a’r UE.

Amlinellodd GG bwysigrwydd y rhaglen Horizon 2020, sef rhagflaenydd rhaglen Horizon Ewrop lle’r oedd partneriaid o Gymru wedi bod yn rhan o brosiectau gwerth EUR 2.5bn. Gwelwyd bod busnesau Cymru wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o safbwynt y rhaglen gan sicrhau EUR 37m – mwy o gyfran o’r sector preifat na’r hyn sy’n gyfatebol i’r DU.

Dangosodd GG graff sy’n cynrychioli’r raddfa o gydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon yn sgil rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru yr UE. Rhannodd GG y pwysigrwydd na ddylid colli’r cysylltiadau hyn pan ddaw’r cyfranogiad â rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol yr UE i ben.

Dywedodd GG fod Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yn cynnwys adnoddau a chyfleoedd ar gyfer cydweithrediad trawsffiniol. Os na fydd Llywodraeth y DU yn sicrhau cyllid i Lywodraeth Cymru yn lle’r cyllid gan yr UE, bydd heriau cyllidebol ynghlwm â’r uchelgeisiau hyn. Yn yr achos hwn, teimla GG fod swyddogaethau cydlynu gan Lywodraeth Cymru a chydweithio cadarnhaol â Llywodraeth y DU yn hanfodol.

O safbwynt cydweithredu ag Iwerddon, dywedodd GG fod astudiaeth gan Brifysgol Strathclyde wedi adnabod nifer o fuddion economaidd ar gyfer y cydweithredu parhaus yng ngofod Môr Iwerddon. Mae Gweinidogion Cymru wedi dweud wrth swyddogion am ddatblygu’r gwaith hwn gyda llywodraethau datganoledig eraill.

Amlinellodd GG y cyllid a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy gynllun SCoRE Cymru gan Lywodraeth Cymru. Amlinellodd y camau nesaf, sy’n cynnwys:

  • Gweithdy rhanddeiliaid Môr Iwerddon 2022
  • Ceisiadau pellach am gyllid SCoRE Cymru
  • Archwilio’r posibilrwydd ar gyfer ceisiadau dwyochrog/amlochrog â rhanbarthau a gwledydd pwysig

Mewn ymateb i gyflwyniad GG, codwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau:

  • y pwysigrwydd o ddatrysiad cadarnhaol gyda rhaglen Horizon Ewrop i’r sector Addysg Uwch. Rhannwyd hefyd y besimistiaeth gynyddol sydd o fewn y sector Addysg Bellach yn ehangach.
  • y posibilrwydd o feithrin cysylltiadau gyda gwledydd eraill tu hwnt i Iwerddon, a’r gwledydd hynny sydd â phroffiliau tebyg i Gymru.

Nododd GG y pryderon o fewn y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Dywedodd y byddai strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yn arwain ar y cydweithio trawsffiniol, gan rannu’r datblygiadau gydag Iwerddon, yr ymgysylltu â rhanbarth y Basg, a’r ymgyrch Cymru yn yr Almaen.

5. Unrhyw fater arall a sylwadau i gloi (10:50)

Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelodau ystyried rôl barhaus y Fforwm gan rannu gwerth y fforwm er mwyn sicrhau’r llwyfan ar gyfer trafodaethau ac adborth rhwng rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru.

Esboniodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cynnwys eitem ar Ymchwil ac Arloesi, yn ogystal â chyfle i drafod unrhyw ddatblygiadau gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Rhannodd aelod o’r cyfarfod y bwriad sydd gan Fanc Busnes Prydain i sicrhau bod £130m ar gael yng Nghymru. Mae swyddogion o Fanc Datblygu Cymru yn gweithio er mwyn sicrhau nad yw’r cyllid yn dyblygu darpariaethau presennol, a’i fod yn gweithio ochr yn ochr â mentrau Llywodraeth Cymru.

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am fod yn bresennol. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr. Bydd nodyn yn y dyddiadur yn cael ei gyhoeddi pan fydd dyddiad wedi’i gadarnhau.

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Huw Irranca-Davies MS

Aelodau

Sefydliad

Enw

CBI Wales

Nick Speed, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus, BT

Prifysgolion Cymru

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr
Colegau Cymru

Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful

Banc Datblygu Cymru

Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Ellen ap Gwynn, Arweinydd, Cyngor Sir Ceredigion

Rosemarie Harris, Arweinydd, Cyngor Sir Powys

Cyfoeth Naturiol Cymru

Alan Hunt, Uwch Gynghorydd Arbenigol

Y Trydydd Sector (Mentrau Cymdeithasol)

Sarah Evans, Swyddog Polisi, Canolfan Cydweithredol Cymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy

Siambrau Masnach

Paul Slevin, Llywydd, Siambr Masnach De Cymru

Molly Barker

Ffederasiwn Busnesau Hunangyflogedig a Bach Cymru

Ashley Rogers, Cyfarwyddwr, Gill and Shaw

Grahame Guilford and Company Ltd

Grahame Guilford

Partneriaeth y Trydydd Sector Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Prifysgol Caerdydd

Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Partneriaeth Gogledd Cymru

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid

Rhwydwaith Gwledig Cymru

Eirlys Lloyd, Cadeirydd

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Enw

Swydd ac adran

Peter Ryland

Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)

Rachel Garside-Jones

Dirprwy Gyfarwyddwr - Polisi Economaidd, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Rhodri Griffiths

Prif Swyddog Rhanbarthol – y Canolbarth a’r Gorllewin, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

John Hughes

Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Alison Sandford

Pennaeth Gweithio mewn Partneriaeth, WEFO

Sheilah Seymour

Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi, WEFO

Mike Richards

Rheolwr Cyfathrebu, WEFO

Geraint Green

Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd), WEFO

Michelle Holland

Swyddog Cymorth Buddsoddi Rhanbarthol, WEFO