Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ers cwblhau prosiect y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ym mis Rhagfyr 2020, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r sefydliad i ddatblygu prosiect i helpu i weithredu rhai o argymhellion yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan y sefydliad: sef The Future of Regional Development and Public Investment in Wales’

Byddwn yn gweithio gyda’r sefydliad a’r holl randdeiliaid i weithredu’r prosiect drwy adeiladu ar yr ymddiriedaeth a’r cydweithredu cadarn a grëwyd yn ystod y prosiect cyntaf. Dechreuodd y prosiect newydd hwn, a fydd yn para am ddwy flynedd, ym mis Medi 2021.

Trosolwg o’r prosiect diweddaraf

Mae pedwar prif allbwn i brosiect diweddaraf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

  1. Pecyn ar gyfer hunanasesu bylchau rhanbarthol i lywio’r strwythurau rhanbarthol drwy’r gwaith o asesu bylchau mewn capasiti sefydliadol a allai gwanhau effeithiolrwydd polisïau a gwasanaethau.
  2. Polisi Datblygu Rhanbarthol a Chynlluniau Gweithredu ar gyfer Buddsoddi Cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Cymru a phob un o’r pedwar corff rhanbarthol yng Nghymru.
  3. Dau weithdy “dosbarth meistr” gydag uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr o wledydd y sefydliad i drafod dau neu dri o bynciau penodol er mwyn hwyluso’r gwaith o weithredu polisi datblygu rhanbarthol.
  4. Adroddiad synthesis ar y bylchau mewn capasiti llywodraethu aml-lefel sydd wedi eu nodi, yr hyn a ddysgwyd, arferion da, a’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd i gryfhau datblygu rhanbarthol a buddsoddi cyhoeddus, ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar lefelau rhanbarthol a lleol yng Nghymru.

Mae cwmpas y prosiect, y cytunwyd arno gyda’r sefydliad, ar gael isod:

Y dimensiwn strategol: gosod y weledigaeth, cynllunio, cydgysylltu ac integreiddio ar draws sectorau, mewn perthynas â pholisïau rhanbarthol a buddsoddi cyhoeddus

Argymhelliad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd:  Sefydlu strategaeth ar gyfer datblygu rhanbarthol tymor hir i Gymru, yn seiliedig ar weledigaeth.

  • Gweithio gydag adrannau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweledigaeth draws-lywodraethol hirdymor. Dylai fod yn berthnasol i lawer o randdeiliaid gan ddatblygu tiriogaeth sy’n ystyried (ac yn ddelfrydol yn cywiro) y gwahanol effeithiau y mae COVID-19 wedi eu cael ar ranbarthau, a hefyd yr addasiadau i fuddsoddi cyhoeddus a ddisgwylir yn sgil Brexit. Mae gweledigaeth hirdymor yn helpu i lywio’r polisïau, y dogfennau cynllunio a’r mentrau sy’n ymwneud â datblygu rhanbarthol, gan gynnwys y rheini sy’n bodoli ar hyn o bryd ac yn y dyfodol (ee y genhadaeth i gryfhau ac adeiladu’r economi a’r cynllun gweithredu ar yr economi). Yn eu hanfod, dylai’r dogfennau polisi a chynllunio hyn gyfrannu at wireddu’r weledigaeth.

Argymhelliad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd: Atgyfnerthu rôl strwythurau canol y llywodraeth fel modd o lywio a chydgysylltu polisi datblygu rhanbarthol a buddsoddi cyhoeddus.

  • Nodi bylchau mewn capasiti gosod strategaeth a chapasiti sefydliadol yn Llywodraeth Cymru a’r camau y gellid eu cymryd i roi sylw i’r bylchau hynny.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer datganoli cyfrifoldebau a chyllid, a fyddai hefyd yn ystyried sut mae cyfrifoldebau a thasgau yn cael eu dosbarthu i wahanol lefelau llywodraeth ar hyn o bryd.

Argymhelliad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd: Sicrhau bod cydlynu’r digwydd rhwng polisi datblygu rhanbarthol a pholisïau sector yn seiliedig ar resymeg ranbarthol a nodau rhanbarthol, a chydlyniaeth mewn polisi a chynllunio rhwng y lefelau cenedlaethol ac is-genedlaethol.

  • Gweithio gyda rhanbarthau i ddatblygu eu tiriogaethau yn seiliedig ar gryfderau ac anghenion rhanbarthol, a hefyd cysondeb â’r weledigaeth genedlaethol hirdymor.
  • Helpu Cyd-bwyllgorau Corfforedig i nodi eu bylchau gweithredu, ac i greu camau gweithredu ymarferol i lenwi’r bylchau hyn, gan gydnabod bod y Cyd-bwyllgorau mewn gwahanol gyfnodau datblygu ac y gallent fabwysiadau dulliau gweithredu gwahanol.

Y dimensiwn gweithredu: arferion a mecanweithiau ar gyfer cyflawni amcanion polisi datblygu rhanbarthol a buddsoddi cyhoeddus

Argymhelliad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd: Cryfhau dulliau o fesur perfformiad yn seiliedig ar ganlyniadau’r gweithgarwch datblygu rhanbarthol.

  • Mae hyn yn helpu i nodi cynnydd o ran cyflawni amcanion datblygu rhanbarthol, yn ogystal â’r angen i addasu ymyriadau datblygu rhanbarthol ac asesu effeithiolrwydd buddsoddi cyhoeddus, gan gryfhau atebolrwydd i’r dinesydd. (Gallai mesuriadau ymgorffori’r rheini sy’n gysylltiedig â chynhyrchiant a throi amcanion neu weithgareddau sy’n gysylltiedig â charbon yn amcanion neu weithgareddau sero-net.)

Argymhelliad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd: Mabwysiadu strategaeth ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn creu diffiniadau a disgwyliadau ymgysylltu clir rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

  • Helpu Llywodraeth Cymru, cyrff rhanbarthol a lleol (hy rhanddeiliaid is-genedlaethol perthnasol megis Cyd-bwyllgorau Corfforedig, awdurdodau lleol, trefniadau Bargen Ddinesig a Thwf, etc.) i ddatblygu consensws (neu o leiaf cytundeb) ar yr hyn y mae cyd-gynllunio a chyd-gyflawni yn ei olygu (hy sefydlu diffiniadau cytûn).