Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau'r grŵp

  • Anwen Elias (Cadeirydd)
  • Sarah Allan
  • Jess Blair
  • Mike Corcoran
  • Tomos Dafydd Davies
  • Sally Holland
  • Yvonne Murphy
  • Diana Stirbu
  • Daisy Thomson
  • Leanne Wood

Ymddiheuriadau

  • Mo Alamgir
  • Julie Sangani

Nad ydynt yn aelodau o'r grŵp

  • Eitem 2: Swyddogion Comisiwn y Senedd, cynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol, cynrychiolwyr o’r Prosiect Gwleidyddiaeth
  • Eitem 4: cyn-aelodau o’r Panel Arbenigwyr i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Eitem 1: Gair o groeso a nodyn o’r cyfarfod blaenorol

1. Derbyniwyd bod y nodyn o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Medi yn gofnod cywir. Cytunodd yr aelodau i ddefnyddio Copilot yn y cyfarfod hwn i helpu i gymryd nodiadau.

2. Roedd papur dilynol ar y Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei ddosbarthu.

Eitem 2: Trafodaeth bord gron: addysg ddemocrataidd mewn addysg ffurfiol

3. Bu’r Grŵp yn trafod yr heriau sy’n gysylltiedig â darparu addysg ddemocrataidd mewn amgylcheddau ysgolion. Mae’r heriau’n cynnwys hyder athrawon, sut mae teuluoedd yn ymgysylltu mewn democratiaeth, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, bylchau mewn gwybodaeth am sefydliadau gwleidyddol yng Nghymru a rhwystrau economaidd, sy’n gallu arwain at ddulliau anghyson o ddarparu addysg ddemocrataidd.

4. Bu’r Grŵp yn trafod pethau sy’n galluogi ac arferion da, gan gynnwys gweithgareddau ymarferol, diddorol, cysylltiad cynnar a chyson ag addysg ddemocrataidd, ymgysylltu â chymheiriaid, cydweithio, cyfleoedd dysgu proffesiynol, adnoddau ac arweinyddiaeth.

5. Mae mapio ymgysylltiad ysgolion yn gynnar yn dangos bod rhai ysgolion yn ymgysylltu’n helaeth ac nad yw eraill yn gwneud o gwbl.

Eitem 3: Myfyrdodau

6. Myfyriodd y grŵp ar yr eitem flaenorol a chytuno y dylai argymhellion y Grŵp ar addysg ddemocrataidd mewn addysg ffurfiol gael eu cyd-lunio gydag athrawon a phobl ifanc er mwyn adlewyrchu lleisiau ymarferwyr a dysgwyr.

Eitemau 4 a 5: Datganiad o Werthoedd ac Egwyddorion Cyfansoddiadol a Myfyrdodau

7. Ymunodd aelodau panel arbenigol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru â’r grŵp i drafod cefndir Argymhelliad 2 y Comisiwn ar gyfer prosiect i gynnwys dinasyddion yn y gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethu i Gymru.

8. Trafodwyd pwrpas a swyddogaeth datganiad o’r fath, gan gynnwys a ddylai gyfnerthu’r rhwymedigaethau a’r egwyddorion statudol sy’n bodoli eisoes ynteu cyflwyno elfennau newydd i ymgyrraedd atynt.

9. Nododd y Grŵp fod llawer o’r cynnwys eisoes yn bodoli ond ei fod yn dameidiog, gan gytuno y dylai’r Grŵp anelu at egwyddorion arweiniol lefel uchel pe bai darpar Lywodraeth Cymru yn dewis archwilio hyn ymhellach.

Eitem 6: Myfyrdodau ar gynnydd, a’r camau nesaf

10. Adroddodd yr is-grŵp addysg ddemocrataidd ynghylch cynnydd, ar ôl datblygu cwestiynau allweddol, cynllunio sesiynau tystiolaeth, a chynlluniau i gomisiynu adolygiad o dystiolaeth.

11. Fe wnaeth is-grŵp cryfhau diwylliant gwleidyddol y Grŵp adrodd ynghylch cynnydd ar ôl cynllunio sesiwn dystiolaeth ar ymgysylltu cydgynghorol a chynlluniau i gomisiynu adolygiad o dystiolaeth.

12. Roedd y Grŵp yn bwriadu casglu mwy o fewnbwn gan arbenigwyr/ymarferwyr, profi canfyddiadau gydag uwch arweinwyr, a blaenoriaethu allbynnau ar gyfer adroddiad cynnydd i’r Dirprwy Brif Weinidog erbyn diwedd mis Chwefror, a’i gyhoeddi ym mis Mawrth 2026.