Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach: 13 Mawrth 2025
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach a gynhaliwyd yn bersonol ar 13 Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cadeirydd: Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.
Roedd y mynychwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol:
- ACCA Cymru
- Arloesedd BIC
- Prifysgol Caerdydd
- Siambrau Cymru
- Ffederasiwn Busnesau Bach
- Hybu Cig Cymru
- Make UK
- NFU Cymru
- RDP Law
- Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA)
Croeso a chyflwyniadau
Agorodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio y cyfarfod drwy ddiolch i'r aelodau am eu cyfraniad gwerthfawr hyd yn hyn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y byd masnach wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a'i blaenoriaeth yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i addasu i'r newidiadau o'n cwmpas a gwneud yn siŵr nad ydym yn colli cyfleoedd nac yn methu ag ymateb i risgiau.
Diweddariad ar y trafodaethau ar gytundebau masnach Llywodraeth y DU
Rhoddodd Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Lywodraeth Cymru drosolwg o'r gwaith a wnaed hyd yma ar gytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.
Trafododd y grŵp y materion canlynol gan roi eu barn arnynt:
- Cyngor Cydweithrediad y Gwlff (GCC) a phwysigrwydd aliniad rheoliadau ar draws aelod-wladwriaethau y GCC.
- Mae'r trafodaethau rhwng y DU ac India yn ailgychwyn.
- Effaith bosibl tariffau'r Unol Daleithiau.
- Datblygiad, ac ymgysylltu Llywodraeth Cymru, ar strategaeth fasnach Llywodraeth y DU.
- Uwchgynhadledd Buddsoddi Llywodraeth Cymru.
- Deddf Marchnad Fewnol y DU
Y DU / UE ac EAEC: Cytundeb Masnach a Chydweithredu – Blaenoriaethau
Rhoddodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU ar ble rydym yn credu y gellid ceisio gwelliannau o'r TCA, a pha un o'r meysydd hyn sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Trafododd y grŵp wahanol feysydd lle y gellid gwella'r cytundeb presennol, gan roi eu sylwadau arnynt.
Aliniad Glanweithdra a Ffytoiechydol (SPS)
Cyflwynodd Arweinydd Datblygu Polisi Hybu Cig Cymru bapur ar fanteision posibl alinio SPS rhwng y DU a'r UE.
Trafododd y grŵp a mynegwyd sawl barn ar y gwahanol opsiynau posibl sy'n ymwneud â chytundebau SPS a'r manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â phob un.
Sylwadau cloi
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddirwyn y cyfarfod i ben drwy ddiolch i'r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau helaeth i'r trafodaethau.