Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau a rhanddeiliaid y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach:

  • Andy Richardson (Bwrdd Bwyd a Diod Cymru)
  • Dr Anna Jerzewska (ymgynghoriaeth Trade & Borders)
  • Gwyn Tudor (MediWales)
  • Hemita Bhatti (y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol)
  • Henry Clarke (RDP Law)
  • Lloyd Powell (ACCA Cymru)
  • Madeleine Pinder (Awyrofod Cymru)
  • Dr Louisa Petchey (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
  • Paul Brooks (y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol)
  • Rachael Madeley (Hybu Cig Cymru)
  • Robert O'Neil (Fforwm Modurol Cymru)
  • Sarah Stone (Cymru Masnach Deg)

Croeso a chyflwyniadau

Agorodd Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru'r cyfarfod drwy ddiolch i aelodau'r grŵp ac amlinellu eu rôl wrth helpu i lunio polisi masnach Llywodraeth Cymru drwy roi mewnbwn arbenigol ar sut y gallwn wneud y mwyaf o'r cyfleoedd, a lleihau'r bygythiadau, y gallai cytundebau masnach rydd eu cyflwyno i Gymru a'i heconomi.

Anerchwyd y grŵp gan Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad, Llywodraeth Cymru  a diolchodd i'r aelodau am eu rôl hanfodol wrth lunio polisi masnach Llywodraeth Cymru. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol y newyddion diweddaraf ar flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ac atebodd gwestiynau gan y grŵp ar barthau buddsoddi a phorthladdoedd rhydd.

Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o’r gwaith a wnaed hyd yma ynghylch cytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y trafodaethau sydd wedi dod i ben, y rhai sydd wedi dechrau a’r rhai sydd ar fin dechrau. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.

Trafododd y grŵp y materion canlynol a rhoi sylwadau arnynt:

  • Y saib yn y trafodaethau ar Gytundeb Masnach Rydd (FTA) rhwng y DU a Canada.
  • Y trafodaethau rhwng y DU ac India a chroes-ddadansoddi’r rheini gyda'r FTA y cytunwyd arno yn ddiweddar rhwng India ac AEE-EFTA.
  • Trafodaethau FTA y DU a Chyngor Cydweithrediad y Gwlff.
  • Gweithredu a defnyddio Cytundebau Masnach Rydd.
  • Y Cytundebau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Deyrnas Unedig a thaleithiau unigol yn Unol Daleithiau America.

Dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â Pholisi Masnach

Cyflwynodd aelod o dîm Polisi Masnach Llywodraeth Cymru bapur drafft yn nodi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â Pholisi Masnach, ei wreiddiau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac yn esbonio'r amcanion polisi trawsbynciol y mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai llywodraeth y DU eu dilyn wrth drafod cytundebau masnach.

Rhoddodd y grŵp eu sylwadau ar y papur gan awgrymu gwelliannau.

Prosiect Ymchwil Menywod yn y Sector Allforio

Fe wnaeth aelod o dîm Polisi Masnach Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect ymchwil Llywodraeth Cymru ar "Fenywod yn y Sector Allforio".

Pwrpas y prosiect yw archwilio a oes unrhyw ffactorau yn rhwystro cwmnïau dan arweiniad menywod yng Nghymru rhag masnachu'n rhyngwladol, a nodi polisïau i'w goresgyn.

Trafododd y grŵp y prosiect ac awgrymu sut y gallai eu sefydliadau gyfrannu at y prosiect.

Diweddariad gan yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach

Rhoddodd dau aelod o'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach drosolwg o waith yr Awdurdod gan ateb cwestiynau gan y grŵp wedyn.

Sylwadau i gloi

Daeth Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru â'r cyfarfod i ben gan ddiolch i'r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau eang i'r trafodaethau.