Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Cadeirydd: Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Roedd y rhai oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol:

  • ACCA Cymru
  • Siambrau Cymru
  • Masnach Deg Cymru
  • Bwyrdd Bwyd a Diod Cymru
  • Make UK
  • Cartref
  • NFU Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • RDP Law
  • Unite the Union
  • Fforwm Modurol Cymru

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet aelodau a phwysleisiodd bwysigrwydd y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach i ddarparu ymatebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan fusnesau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y datblygiadau hyn wrth eirioli dros Gymru gyda Llywodraeth y DU.

Diweddariad ar y trafodaethau ar gytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd aelodau tîm Polisi Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o'r gwaith a wnaed hyd yma ar gytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.

Trafododd y grŵp y materion canlynol gan roi eu barn arnynt:

  • Trafodaethau masnach Llywodraeth y DU gyda sawl gwlad, gan gynnwys y GCC, y Swistir, Twrci, a De Korea a'r cynnydd sy'n cael ei wneud gyda phob trafodaeth.
  • Y Ddealltwriaeth Gyffredin rhwng y DU-UE ac ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU yn ystod ei pharatoadau ar gyfer dechrau trafodaethau gyda'r UE.
  • Tariffau'r Unol Daleithiau a thrafodaethau parhaus ar gyfer gweithredu Cytundeb Ffyniant Economaidd y DU-UD a'i effeithiau ar Gymru.

Discussion on the Welsh GovTrafodaeth ar adroddiad drafft Llywodraeth Cymru ar y Cytundeb Economi a Masnach Cynhwysfawr rhwng y DU ac India (CETA)ernment’s Draft Report on the UK-India Comprehensive Economic and Trade Agreement (CETA)

Rhoddodd aelodau'r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach eu barn ar ddrafft cynnar o ddogfen safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr rhwng y DU-India (CETA), a lofnodwyd ar 24 Gorffennaf 2025. Mae'r cytundeb terfynol yn cynnwys 30 pennod sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd.

Trafodaeth ar y posibilrwydd o Gytundeb Masnach Rydd posibl rhwng y DU a Mercosur

Mae Mercosur (sy'n sefyll am Mercado Común del Sur, neu Farchnad Gyffredin y De) yn floc masnach ranbarthol yn Ne America a sefydlwyd ym 1991 i hyrwyddo masnach rydd a symudiad hwylus nwyddau, pobl ac arian ymhlith aelod-wladwriaethau.

Mae aelodau Mercosur yn cynnwys yr Ariannin, Brasil, Paraguay, Uruguay a Bolivia.

Pwrpas y drafodaeth hon oedd casglu barn gynnar gan aelodau'r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach ar y cyfleoedd a'r risgiau posibl fyddai’n deillio o gytundeb masnach rydd rhwng y DU a Mercosur.

  • Codwyd pryderon am gwotâu cig eidion posibl a'r effaith ddilynol ar brisiau cig eidion Cymru a'i effaith andwyol ar ffermwyr Cymru.
  • Codwyd pryderon am yr effeithiau amgylcheddol posibl, yn enwedig datgoedwigo'r Amazon.
  • Codwyd pryderon am y potensial y bydd allforwyr Cymru o dan anfantais unwaith y bydd y cytundeb rhwng yr UE a Mercosur yn cael ei gadarnhau.
  • Cyfleoedd posibl i rai sectorau yng Nghymru ar gyfer mwy o allforion. 

Sylwadau i gloi

Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r holl aelodau am fod yn bresennol ac ailadroddodd ei bod yn hanfodol cael y trafodaethau hyn yn uniongyrchol gyda'r aelodau i ddeall eu barn i helpu i lunio safbwyntiau polisi masnach Llywodraeth Cymru.