Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau a rhanddeiliaid y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach:

  • Andy Richardson (Bwrdd Bwyd a Diod Cymru)
  • Catherine Smith (Hybu Cig Cymru)
  • Gwyn Tudur (MediWales)
  • Henry Clarke (RPD Law)
  • Kerry Owens (Unite)
  • Dr Louisa Petchey (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
  • Yr Athro Nick Pidgeon (Prifysgol Caerdydd)
  • Paul Brooks (Y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol)
  • Richard Rumbelow (Make UK)
  • Sarah Williams-Gardener (FinTech Cymru)

Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o’r gwaith hyd yma ynghylch cytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y trafodaethau sydd wedi dod i ben, y rhai hynny sydd wedi dechrau a’r rhai sydd ar fin dechrau. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.

Y diweddaraf am weithredu a defnyddio Cytundebau Masnach Rydd

Rhoddodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am weithredu a defnyddio Cytundebau Masnach Rydd drwy'r pwyllgorau a sefydlwyd o dan bob Cytundeb Masnach Rydd newydd. Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

  • Blaenoriaethau – sut y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ar bwyllgorau Cytundeb Masnach Rydd â blaenoriaeth.
  • Monitro – sut y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i fonitro a gwerthuso datblygiadau mewn meysydd datganoledig.

Trafodaeth ford gron ynghylch negodiadau'r DU â Chyngor Cydweithredol y Gwlff

Cafwyd trafodaeth ford gron wedyn a ganolbwyntiodd ar negodiadau Llywodraeth y DU â Chyngor Cydweithredol y Gwlff. Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

  • Y cydbwysedd rhwng cyfleoedd allforio a gwerthoedd Cymru.
  • Cyfleoedd ar gyfer Technoleg Werdd, o ran allforio a mewnfuddsoddi.
  • Y gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer prosesau tollau a symudedd ar gyfer gweithwyr o fewn Cyngor Cydweithredol y Gwlff.
  • Cyfleoedd allforio ar gyfer busnesau cig a gwyddorau bywyd Cymru.
  • Pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol a hawliau llafur.

Sut mae Cytundebau Masnach Rydd yn effeithio ar allu'r DU a Chymru i reoleiddio?

Cyflwynodd swyddog o Lywodraeth Cymru bapur ymchwil drafft  ar sut y gallai Cytundebau Masnach Rydd effeithio ar allu'r DU a Chymru i reoleiddio. Dyma'r pwyntiau allweddol:

  • Comisiynodd y tîm Polisi Masnach ymchwil archwiliadol annibynnol gyda'r nod allweddol o gasglu gwybodaeth strategol am sut y gall Cytundebau Masnach Rydd, a'r rhwymedigaethau rhyngwladol sylfaenol a grëwyd ganddynt, effeithio ar yr amgylchedd rheoleiddio yng Nghymru. Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth hon yn cynorthwyo ac yn cefnogi cydweithwyr eraill yn Llywodraeth Cymru o ran ystyried eu meysydd polisi eu hunain.
  • Gofynnwyd i aelodau'r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach nodi'r adroddiad terfynol a rhoi eu barn ar ffyrdd gwell o roi sylw i Gymru yn y nifer cynyddol o Gytundebau Masnach Rydd.
  • Caiff crynodeb o'r adroddiad ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law.

Asesiad o'r Effaith ar Iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag ymaelodi'r DU â Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel

Rhoddodd Dr Louisa Petchey, Iechyd Cyhoeddus Cymru, drosolwg i'r grŵp o'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd, a gafodd ei gyhoeddi ar 11 Gorffennaf 2023 ac a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag ymaelodi'r DU â Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel.

Sylwadau i gloi

Daeth Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru â'r cyfarfod i ben gan ddiolch i'r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau eang i'r trafodaethau.