Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd y cyfarfod

  • Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS

Aelodau a rhanddeiliaid y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

  • Andy Richardson (Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru)
  • Catherine Smith (Hybu Cig Cymru)
  • Debbie Laubach (MediWales)
  • Henry Clarke (RDP Law)
  • Leighton Jenkins (CBI)
  • Louisa Petchey (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
  • Llyr ap Gareth (Ffederasiwn Busnesau Bach)
  • Madeleine Pinder (Aerospace Wales)
  • Paul Brooks (Y Sefydliad Allforio)
  • Paul Slevin (Siambrau Cymru)
  • Richard Rumbelow (Make UK)

Croeso a chyflwyniadau

Agorodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi y cyfarfod gan ddiolch i aelodau’r grŵp ac amlinellu eu rôl wrth helpu i lunio polisi masnach Llywodraeth Cymru gan roi mewnbwn arbenigol ar sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a lleihau’r bygythiadau y gallai cytundebau masnach rydd eu cynnig i Gymru ac economi Cymru.

Amlinellodd y Gweinidog yr achos dros fasnach ryngwladol a chydnabod y manteision y gall cytundebau masnach rydd newydd eu cynnig i Gymru. Nododd hefyd ei bod yn hanfodol sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall na ddylai cytundebau masnach rydd newydd danseilio gallu Llywodraeth Cymru i ddilyn ei huchelgeisiau ei hun na rheoleiddio’n ddomestig.

Amlinellodd y Gweinidog fod yn rhaid i unrhyw drafodaethau masnach â gweddill y byd fod yn gwbl gydnaws â’r cytundeb sydd gennym ar hyn o bryd gyda’r UE ac na ddylent niweidio perthynas fasnachu’r DU/UE.

Esboniodd y Gweinidog ein bod yn ystyried polisi masnach yng Nghymru o bersbectif Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn hytrach na mewn termau economaidd yn unig, a bod cytundebau masnach yn creu goblygiadau rhyngwladol sy’n uno cenedlaethau’r dyfodol.

Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o’r gwaith hyd yma ynghylch cytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y trafodaethau sydd wedi dod i ben, y rhai hynny sydd wedi dechrau a’r rhai sydd ar fin dechrau. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.

Trafodaeth ford gron ar Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP)

Rhoddodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar ymaelodaeth Llywodraeth y DU â bloc masnachu’r Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel. Trafodwyd y canlynol:

  • Trefniadau rheolau tarddiad ac a yw busnesau y DU yn debygol o elwa arnynt ai peidio.
  • Yr effeithiau posibl yn sgil gwledydd eraill yn ymuno â’r Bartneriaeth yn y dyfodol.
  • Y goblygiadau posibl yn sgil y DU yn ymwahanu o reoliadau’r UE trwy ymuno â’r Bartneriaeth, gan ystyried mai’r UE yw marchnad allforio fwyaf Cymru.
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio asesiad effaith ar iechyd ar gyfer Cymru pe bai’r DU yn ymuno â’r Bartneriaeth. 
  • Y gwahanol safonau (ee hawliau llafur) ledled aelod-wladwriaethau’r Bartneriaeth a’u heffeithiau posibl ar fusnesau Cymru.

Trafodaeth ford gron ynghylch y Swistir a Thwrci

Y Swistir

Rhoddodd swyddog o Lywodraeth Cymru ddiweddariad ar drafodaethau masnach Llywodraeth y DU â’r Swistir. Trafodwyd y canlynol:

  • Y Swistir yn bartner masnach y gellir ymddiried ynddo a sut y dylai fod yn farchnad o flaenoriaeth ar gyfer y DU, yn enwedig ar gyfer y sector gwasanaethau.
  • Dylai Llywodraeth y DU anelu at gytundeb masnach uchelgeisiol gyda’r Swistir – dim ond nwyddau y mae’r trefniant presennol yn ei gynnwys felly mae’n bwysig bod y sectorau gwasanaethau yn cael eu cynnwys mewn cytundeb masnach gwell.
  • Cyfleoedd i estyn allforio cig coch o Gymru i’r Swistir.

Twrci

Rhoddodd swyddog o Lywodraeth Cymru ddiweddariad ar drafodaethau masnach Llywodraeth y DU â Thwrci. Trafodwyd y canlynol:

  • Pwysigrwydd Twrci yn sylfaen fyd-eang ar gyfer cadwyni cyflenwi, yn enwedig yn y sector modurol.
  • Pryderon ynghylch materion hawliau dynol yn Nhwrci, gan gynnwys hawliau llafur.

Sylwadau i gloi

Daeth y Gweinidog â’r cyfarfod i ben gan ddiolch i’r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau eang i’r trafodaethau. Bydd y grŵp yn cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2023.