Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd: Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Roedd y rhai oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr y sefydliadau canlynol:

  • ACCA Cymru
  • Prifysgol Caerdydd
  • Siambrau Cymru
  • Masnach Deg Cymru
  • Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
  • FUW
  • Hybu Cig Cymru
  • Make UK
  • Cartref
  • NFU Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • RDP Law
  • Fforwm Modurol Cymru

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet yr aelodau a thynnodd sylw at ddatblygiadau polisi masnach diweddar, gan gynnwys tariffau'r Unol Daleithiau, Cyfundeb Masnach Rydd newydd y DU-India, a chanlyniadau uwchgynhadledd yr UE-DU.

Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet bwysigrwydd y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach i ddarparu ymatebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan fusnesau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y datblygiadau hyn wrth eirioli dros Gymru gyda Llywodraeth y DU.

Diweddariad ar y trafodaethau ar gytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o'r gwaith a wnaed hyd yma ar gytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.

Trafododd y grŵp y materion canlynol gan roi eu barn arnynt:

  • Trafodaethau masnach Llywodraeth y DU gyda sawl gwlad, gan gynnwys y GCC, y Swistir, Twrci, a De Korea a'r cynnydd sy'n cael ei wneud gyda phob trafodaeth.
  • Tariffau'r Unol Daleithiau ar ddur, alwminiwm a chynhyrchion modurol, gan arwain at drafodaethau parhaus ar gyfer gweithredu Cytundeb Ffyniant Economaidd y DU-UD a'i effeithiau ar Gymru.

Trafodaeth ar uwchgynhadledd Cytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE-DU

Arweiniodd uwchgynhadledd y DU-UE ar 19 Mai 2025 at Gytundeb Dealltwriaeth Gyffredin sy'n cwmpasu meysydd fel Ardal Glanweithdra a Ffytoiechydol Gyffredin (SPS), y Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS), a Phrofiad Ieuenctid.

Trafododd y grŵp y materion canlynol:

  • Croesawodd yr aelodau gyhoeddiad SPS a thrafod yr heriau sydd o'u blaenau ar gyfer alinio.
  • Tynnwyd sylw at broblemau gyda rheoli ffiniau, iechyd anifeiliaid a rheoliadau datgoedwigo gan aelodau.
  • Trafododd yr aelodau hefyd Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol yn Gilyddol, asesiadau cydymffurfiaeth ac ymestyn digonolrwydd y DU yn GDPR yr UE.

Trafodaeth ar Gytundeb Masnach Rydd y DU-India (FTA)

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 6 Mai 2025 ei bod wedi cwblhau trafodaethau gydag India ar Gytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac India. Er bod trafodaethau wedi dod i ben, nid yw'r Cytundeb Masnach Rydd wedi'i lofnodi'n swyddogol eto, gyda thrafodwyr y DU ac India yn dal i drafod rhai meysydd bach ond arwyddocaol.

Trafododd y grŵp effaith bosibl y Cytundeb Masnach Rydd ar y diwydiant dur ac effeithiau amgylcheddol.

Sylwadau i gloi

Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r holl aelodau am fod yn bresennol ac ailadroddodd ei bod yn hanfodol cael y trafodaethau hyn yn uniongyrchol gyda'r aelodau i ddeall eu barn i helpu i lunio safbwyntiau polisi masnach Llywodraeth Cymru.