Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd y cyfarfod

  • Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Aelodau a rhanddeiliaid y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

  • Aileen Burmeister (Masnach Deg Cymru)
  • Andy Richardson (Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru)
  • Catherine Smith (Hybu Cig Cymru)
  • Ceri Williams (TUC Cymru)
  • Gwyn Tudor (MediWales)
  • Henry Clarke (RPD Law)
  • Kerry Owens (Unite)
  • Louisa Petchey (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
  • Yr Athro Nick Pidgeon (Prifysgol Caerdydd)
  • Oliver Carpenter (Siambrau Cymru)
  • Paul Brooks (Y Sefydliad Allforio)
  • Richard Rumbelow (Make UK)
  • Robert O’Neil (Fforwm Modurol Cymru)

Croeso a chyflwyniadau

Agorodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, y cyfarfod drwy ddiolch i aelodau'r grŵp ac amlinellu eu rôl wrth helpu i lywio polisi masnach Llywodraeth Cymru drwy ddarparu mewnbwn arbenigol ar sut y gallwn wneud y gorau o'r cyfleoedd, a lleihau'r bygythiadau, y gallai cytundebau masnach rydd eu cyflwyno i Gymru ac economi Cymru.

Cynhaliodd y Gweinidog drafodaeth ford gron i holi barn yr aelodau am y sefyllfa bresennol ym maes polisi masnach a'r hyn a allai effeithio ar Gymru wrth symud ymlaen.

Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

  • Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP)
  • Fframwaith Windsor
  • Deddf Lleihau Chwyddiant yr UDA a Mecanwaith yr UE ar gyfer Addasu Pris Carbon ar draws Ffiniau
  • Y Cytuniad Siarter Ynni
  • Ymgysylltu â phartneriaid Cytundebau Masnach Rydd (FTA) posibl gan gynnwys Llysgenadaethau ac Uchel Gomisiynwyr
  • Llwyddiant Allforion Bwyd a Diod o Gymru yn 2022
  • Digidoleiddio masnach

Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o’r gwaith hyd yma ynghylch cytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y trafodaethau sydd wedi dod i ben, y rhai hynny sydd wedi dechrau a’r rhai sydd ar fin dechrau. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.

Y diweddaraf am weithredu a defnyddio Cytundebau Masnach Rydd (FTA)

Rhoddodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am weithredu a defnyddio Cytundebau Masnach Rydd. Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

  • Cyflawni – hyrwyddo Cytundebau Masnach Rydd newydd a chymorth i fusnesau Cymru, gan gynnwys defnyddio'r Cytundebau Masnach Rydd presennol.
  • Deddfwriaeth – rôl Llywodraeth Cymru wrth weithredu Cytundebau Masnach Rydd lle mae angen newidiadau i bolisi datganoledig neu ddeddfwriaeth Cymru.
  • Pwyllgorau – sut y gall Llywodraeth Cymru a'i rhanddeiliaid gyfrannu at nifer y pwyllgorau a sefydlwyd o dan bob Cytundeb Masnach Rydd newydd.

Trafodaeth ford gron ar Israel a Gweriniaeth Korea

Israel

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â thrafodaethau masnach Llywodraeth y DU gydag Israel.

Gweriniaeth Korea

Rhoddodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau masnach Llywodraeth y DU â Gweriniaeth Korea. Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

  • Pryderon am hawliau llafur yn Ne Korea
  • Cyfleoedd posibl o fewn y sector technoleg werdd
  • Yr effaith bosibl ar ddiwydiannau gweithgynhyrchu Cymru

Y diweddaraf am y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol

Eitem 6: Y diweddaraf am y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol

Rhoddodd Paul Brooks, Arweinydd Masnach Gweithgynhyrchu Cymru a’r DU, drosolwg o'r Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol (IOE&IT) a sut mae'n datblygu ei bresenoldeb yng Nghymru.

Sylwadau i gloi

Daeth Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru â’r cyfarfod i ben gan ddiolch i’r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau eang i’r trafodaethau.