Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso (2pm i 2:10pm)

Croesawodd y Cadeirydd y rhai oedd yn bresennol a diolchodd iddynt am eu cyfraniadau i'r sesiwn flaenorol a gynhaliwyd yn ystod cyfnod ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Gronfa Twf Lleol.

Nodwyd bod yr ymgynghoriad wedi cau ar 19 Rhagfyr, a bod oddeutu 150 o ymatebion wedi dod i law. Mae swyddogion yn dadansoddi ymatebion, gan gynnwys adborth o gyfarfod blaenorol y Grŵp Llywio a digwyddiadau ymgynghori rhanbarthol.

Ychwanegodd y Cadeirydd y bydd adroddiad dadansoddiad cryno yn cael ei gyhoeddi ar-lein fis nesaf. Bydd cabinet Llywodraeth Cymru yn trafod cynigion y Gronfa Twf Lleol ym mis Chwefror, cyn iddynt gael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU am gytundeb.

Cymeradwywyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Gwahoddodd y Cadeirydd Tom Smithson (TS), Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Cymru dros Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd, i gynnig trosolwg o ddatblygiadau ers y cyfarfod diwethaf.

2. Trosolwg strategol (2:10pm i 2:30pm)

Dywedodd TS fod swyddogion yn adolygu ymatebion ymgynghori ac adborth o'r Grŵp Llywio blaenorol a'r pedwar digwyddiad ymgysylltu rhanbarthol. Mae tystiolaeth o ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd hefyd yn cael ei hystyried.

Nododd TS fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwerthusiadau interim o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Dyma rai o'r prif themâu:

  • angen cryfhau gweithio mewn partneriaeth
  • heriau cyflanwi a achosir gan amserlenni cywasgedig
  • materion gyda chyflawni prosiectau cyfalaf, gweithio ar draws rhanbarthau, a pharodrwydd seilwaith
  • roedd y manteision yn cynnwys hyblygrwydd a modelau cyflwyno amrywiol

Dywedodd TS fod Llywodraeth Cymru yn parhau i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r rhaniad o 70% cyfalaf / 30% refeniw, ond mae newidiadau mawr yn annhebygol. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi estyniad o chwe mis i ddyddiad cau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i helpu gyda'r pontio.

Nododd TS y dull Cronfa Twf Lleol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer yr Alban sy'n cynnwys:

  • dyrannu i bump o'r wyth partneriaeth economaidd ranbarthol
  • dim trefniadau pontio ar gyfer ardaloedd sy'n colli cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin
  • pwysoli cyfalaf o 70%, yn debyg i Gymru

Dywedodd TS fod gwaith parhaus yn digwydd gydag awdurdodau arweiniol rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i reoli proses bontio Blwyddyn 1 yn unol â'r ymgynghoriad. Bwriad y cyfnod pontio yw darparu rhywfaint o barhad cychwynnol i alluogi prosiectau allweddol i barhau, tra'n dechrau'r broses o bontio i'r dull a arweinir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig o Flwyddyn 2. Bydd adolygiad ffurfiol yn cael ei gynnal ym mis Hydref. 

Mae'r amserlen ddangosol yn cynnwys trafodaeth y Cabinet ar gynigion ddechrau mis Chwefror ac yna cyflwyno'r cynllun buddsoddi i Lywodraeth y DU.

Mae cyhoeddi llythyrau grant a chyhoeddi dogfennau'r Gronfa yn dibynnu ar Lywodraeth y DU yn cadarnhau cytundeb ar y Cynllun ym mis Mawrth a'r cytundeb dilynol i drosglwyddo cyllid i Lywodraeth Cymru.

Mewn ymateb i ymholiad am reoli cymorthdaliadau, dywedodd TS na all Llywodraeth Cymru sefydlu cynllun rheoli cymorthdaliadau Cymru gyfan erbyn 1 Ebrill oherwydd amseriad a dyfnder y dadansoddiad sydd ei angen. Felly, bydd yr un dull â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei ddilyn ar gyfer Blwyddyn 1 a nododd fod rhai cynlluniau cyffredinol ar gael y gellid eu defnyddio. Mae Llywodraeth Cymru yn hapus i ystyried yr angen am gynllun yn y dyfodol. 

3. Adborth yr ymgynghoriad ar y Gronfa Twf Lleol (2:30pm i 2:50pm)

Gwahoddodd y Cadeirydd Nadine Young (NY), Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Eleri Carrington a Benedict Watson, i gyflwyno canfyddiadau'r ymgynghoriad ar y Gronfa Twf Lleol.

Nodwyd bod 154 o ymatebion ysgrifenedig wedi'u derbyn, bod pedwar digwyddiad rhanbarthol wedi denu mwy na 200 o bobl a bod cyfranogiad traws-sector cryf wedi bod yn yr ymgynghoriad.

Roedd yr isod ymhlith y themâu amlycaf a gododd o adborth y broses ymgynghori:

Egwyddorion arweiniol

Yn gyffredinol, roedd pobl yn gefnogol iawn o'r egwyddorion arweiniol gyda nifer yn galw am:

  • bwyslais cryfach ar yr hinsawdd, cynaliadwyedd ac anghydraddoldebau iechyd
  • mwy o ffocws ar y gwahaniaethau rhwng ardaloedd gwledig, arfordirol a threfi bach
  • ymgorffori ystyriaethau o ran y Gymraeg

Meysydd blaenoriaeth

Cytunodd rhanddeiliaid fod gormod o amcanion ar draws y pedair blaenoriaeth, a bydd angen dewis a dethol y rhain, gyda seilwaith lleol a gwyrdd yn debygol o gael eu cyfuno i un flaenoriaeth seilwaith.

O dan Busnesau Mwy Cynhyrchiol a Chystadleuol, roedd cefnogaeth gref i egin fusnesau, cwmniau deillio, a mynd i'r afael â rhwystrau i dwf, gyda phrifysgolion a phartneriaid arloesi yn arbennig yn blaenoriaethu ymchwil a datblygu ac arloesi.

Roedd barn wedi'i hollti ar gyllid ad-daladwy: roedd cyrff buddsoddi cymdeithasol yn ffafrio cyllid y mae modd ei ailgylchu, tra bod ardaloedd gwledig a microfusnesau yn rhybuddio bod risg o eithrio cwmnïau hyfyw heb gymorth cyfunol neu grant gyda'r modelau benthyciadau yn unig.

Yn Sgiliau a Chyflogadwyedd, cefnogwyd yr holl amcanion strategol yn gyffredinol, gyda phwyslais ar eu trin fel system integredig sy'n codi lefelau sgiliau ac yn alinio'r ddarpariaeth ag anghenion y farchnad lafur; roedd lleihau anweithgarwch economaidd yn flaenoriaeth uchel, yn enwedig i grwpiau sy'n cefnogi pobl dan anfantais. 

Roedd consensws cryf yn pwysleisio dulliau cofleidiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ymyrraeth gynnar, a darpariaeth hygyrch sydd ar gael yn lleol ac sy'n cael ei ddarparu gan sefydliadau dibynadwy, gyda llwybrau dilyniant yn y gwaith yn cael eu hystyried yn bwysig ond nid yn brif flaenoriaeth.

Ar gyfer Seilwaith a Blaenoriaethau Gwyrdd, cefnogodd ymatebwyr yr angen i wella cysylltedd digidol a thrafnidiaeth, mynd i'r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, ehangu cynhyrchu ynni carbon isel, a blaenoriaethu seilwaith economaidd lleol fel elfen sylfaenol i alluogi twf rhanbarthol ehangach.

Trefniadau pontio

Pryder mawr i rai ymatebwyr oedd y risg o golli capasiti cyflenwi, arbenigedd a pherthnasoedd dibynadwy os nad yw'r pontio yn cael ei reoli'n ofalus, gyda galwadau cryf am drefniadau hyblyg, cynllunio amlflwyddyn a'r gallu i gyflwyno cronfeydd i gynnal sefydlogrwydd.

Tynnwyd sylw at fylchau cyllido ac ansicrwydd ynghylch llywodraethu fel risgiau sylweddol, gyda llawer yn rhybuddio y gallai cyllid refeniw annigonol a diffyg eglurder amharu ar wasanaethau yn ystod y broses bontio.

Pwysleisiodd yr ymatebwyr yr angen am strwythurau clir, tryloyw a chyfranogiad ystyrlon pob sector, yn enwedig y trydydd sector ac awdurdodau lleol, wrth lunio trefniadau pontio.

Dulliau daearyddol

Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod gwerth buddsoddiadau cenedlaethol mewn meysydd sy'n gofyn am weithredu ar raddfa fawr neu sgiliau arbenigol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd na ddylai rhaglenni cenedlaethol danseilio blaenoriaethau lleol, atebolrwydd na'r gallu i gyflawni gan alw am fesurau diogelu cadarn rhag gor-ganoli a dyblygu.

Cytunodd ymatebwyr fod yn rhaid i gynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol ymgorffori cyflawni lleol o'r cychwyn cyntaf, tra'n nodi risgiau ynghylch capasiti lleol amrywiol, heriau llywodraethu ac anghysondebau posibl ar draws ardaloedd.

Roedd consensws eang bod fframweithiau cenedlaethol clir, cyllid hirdymor a mecanweithiau atebolrwydd tryloyw yn hanfodol ar gyfer gweithredu lleol effeithiol.

O ran dyraniadau rhanbarthol a modelau cyflawni, roedd ymatebwyr o blaid meini prawf tryloyw, sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n adlewyrchu angen economaidd-gymdeithasol, roeddent yn gwrthwynebu fformiwlâu poblogaeth yn unig tra bod cefnogaeth eang i gysylltu Cyd-bwyllgorau Corfforedig â gweledigaeth 10 mlynedd i ddarparu sefydlogrwydd hirdymor ac aliniad strategol.

Wrth ymateb, cododd aelodau'r pwyntiau isod:

  • yr angen am benderfyniadau a blaenoriaethau clir o ystyried cyllid cyfyngedig, yn enwedig cyllid refeniw
  • yr angen i ystyried cynrychiolaeth: mae rhai sefydliadau yn cynrychioli miloedd o fusnesau er eu bod yn cael eu hystyried fel un ymateb
  • yr angen i ystyried term yn lle "buddsoddiad cenedlaethol" er mwyn osgoi rhoi'r argraff o ganoli
  • nid oes gan rai sectorau berthynas statudol â Chyd-bwyllgorau Corfforedig. Roedd pryderon am allu amrywiol Cyd-bwyllgorau Corfforedig a'r ffordd orau o ymgysylltu â nhw
  • pwysigrwydd osgoi dyblygu gyda photiau cyllid Llywodraeth Cymru a sicrhau bod y Gronfa yn parhau i fod yn ddigon hyblyg i addasu i Raglen Lywodraethu yn y dyfodol
  • bydd angen penderfynu a ddylid dadansoddi darpariaeth benodol Cronfa Ffyniant Gyffredin penodol Cymru ac a ellir ystyried buddsoddiadau ar raddfa fwy ar gyfer prosiectau mawr fel rhan o ddull y gronfa newydd

4. Materion allweddol (2:50pm i 3:25pm)

Gwahoddodd y Cadeirydd Tom Smithson (TS) i grynhoi'r materion allweddol a'r opsiynau i'w hystyried i helpu swyddogion i gwblhau'r cynllun buddsoddi drafft i'w drafod a'i gytuno gan Gabinet Cymru. Dyma'r materion allweddol: 

Blaenoriaethu

Cafwyd cytundeb cyffredinol o'r ymgynghoriad bod blaenoriaethu yn hanfodol, ond nid oes consensws ar sut i wneud hynny; ni all y gronfa fynd i'r afael â'r holl anghenion felly mae'n rhaid canolbwyntio ar feysydd allweddol.

Mae'r opsiynau ar gyfer blaenoriaethu yn cynnwys: 

  • lleihau cwmpas y fframwaith cenedlaethol
  • pennu dyraniadau ym mhob ardal flaenoriaeth
  • gosod isafswm/uchafswm dyraniadau
  • caniatáu hyblygrwydd rhanbarthol o fewn ffiniau pendant

Mae angen i'r dull blaenoriaethu gydnabod perthynas y Gronfa â chyllid cyhoeddus arall, denu buddsoddiad preifat a chyd-fynd â rhaglenni eraill.

Ymyriadau cenedlaethol

Cynigiwyd bod cyllid Blwyddyn 1 yn cael ei ddyrannu'n llawn ar sail ranbarthol i gefnogi'r pontio, felly byddai unrhyw gamau gweithredu cenedlaethol neu gamau gweithredu Cymru gyfan o Flwyddyn 2 ymlaen. 

O ystyried bod 70 y cant o'r gronfa yn gyfalaf, efallai mai canolbwyntio ymyriadau cenedlaethol o Flwyddyn 2 ymlaen ar themâu sy'n cael eu harwain gan wariant cyfalaf fyddai orau er mwyn sicrhau mwy o hyblygrwydd refeniw i ranbarthau.

Gallai ymyriadau cenedlaethol neu gydgysylltiedig yn genedlaethol sydd â'r potensial mwyaf ar gyfer gweithgarwch ledled Cymru gynnwys seilwaith ymchwil a datblygu ac arloesi, cyllid cyfalaf ar gyfer busnesau, a chyllid ar gyfer safleoedd ac adeiladau. Awgrymwyd y gallai grwpiau gorchwyl a gorffen bach archwilio tirweddau a chyfleoedd buddsoddi ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yn yr ardaloedd hyn ar sail Cymru gyfan yn ystod y flwyddyn bontio. 

Dyraniadau cyllid

Ystyried penderfyniadau cyllido ar ddwy lefel:

  • dyraniad thematig ar draws y blaenoriaethau a ddewiswyd;
  • dyraniadau rhanbarthol ar draws Cymru

Efallai y bydd angen i'r rhan fwyaf o gyllid refeniw fynd i sgiliau a chyflogadwyedd, gan gydnabod bod gan gymorth busnes ffrydiau cyllido eraill.

Gall dyraniadau rhanbarthol dynnu ar fodelau fel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, dull incwm aelwydydd, neu fesurau Cynnyrch Domestic Gros a chynhyrchiant.

Nid yw'n glir eto a ddylid gosod disgwyliadau targedu gofodol o fewn rhanbarthau, megis sicrhau bod ardaloedd o amddifadedd yn elwa, neu a ddylai'r penderfyniad  hwnnw ddigwydd ar lefel ranbarthol.

Cynlluniau rhanbarthol

Cynlluniau rhanbarthol tymor hir i ffurfio'r sail ar gyfer y cyllid. Bydd disgwyl i ranbarthau ddatblygu portffolios o fuddsoddiadau sy'n nodi bylchau, osgoi dyblygu, ac yn adlewyrchu'r hyn sydd eisoes yn cael ei gyflawni ar draws y rhanbarth.

Canllawiau i'w cyhoeddi cyn rhyddhau cyllid, gan gynnwys disgwyliadau ar gyfer ymgysylltu, cynrychiolaeth ac aliniad strategol.

Trefniadau sy'n gofyn am gynrychiolaeth partneriaid allweddol a chynlluniau i gyd-fynd â chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol presennol, ynni a chynlluniau strategol presennol eraill.

Blwyddyn bontio

Ystyried rhoi holl gyllid Blwyddyn 1 yn uniongyrchol i arweinwyr rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin rhanbarthol, gyda rhywfaint o gyllid wedi'i neilltuo ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig i ddechrau datblygu'r dull rhanbarthol yn barod ar gyfer Blwyddyn 2.

Y nod yw darparu cynllunio a pharhad lle mae'n cyd-fynd â nodau'r Gronfa newydd, a sicrhau cynnydd cyson tuag at gynllunio rhanbarthol tymor hwy.

Wrth ymateb, gwnaeth aelodau'r sylwadau canlynol:

  • Ystyried cyfuno blaenoriaethau lle mae amcanion yn gorgyffwrdd yn naturiol â nifer o flaenoriaethau ac y gellid eu cynllunio fel prosiectau integredig.
  • Mae risg o ddull anghyson trwy adael targedu daearyddol i ddisgresiwn rhanbarthau. Efallai y bydd angen canllawiau cryfach i sicrhau tegwch.
  • Mae'r dyblygu a welwyd mewn rhaglenni sgiliau blaenorol yn awgrymu bod cyrff rhanbarthol yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion lleol, er bod angen rhywfaint o refeniw ar lefel genedlaethol o hyd i sicrhau chwarae teg ar gyfer cymorth busnes.
  • Gallai cyfeirio refeniw yn rhy drwm at themâu penodol danseilio gallu sefydliadau i ddefnyddio buddsoddiad cyfalaf, gan arwain at danwariant ac eithrio sefydliadau llai.
  • Pwysigrwydd cysoni buddsoddiadau rhanbarthol â strategaethau ar gyfer sectorau penodol a strategaethau diwydiannol ehangach, gan sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ychwanegu gwerth trwy ategu ffrydiau cyllido cenedlaethol a ffrydiau cyllido lefel y DU presennol.
  • Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drefniadau craffu Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac mae ganddynt yr hyblygrwydd i gynnwys sefydliadau eraill yn y broses. Nid yw cyflenwi rhanbarthol yn golygu cyflenwi trwy Gyd-bwyllgorau Corfforedig yn awtomatig.

5. Unrhyw fater arall (3:25pm i 3:30pm)

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu presenoldeb a'u mewnbwn a nododd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar ôl i Gabinet Llywodraeth Cymru gyfarfod a'r cynllun buddsoddi gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU. 

Ni chodwyd unrhyw fater arall.

Rhestr o'r mynychwyr

Cadeirydd  

Carolyn Thomas AS

Aelodau

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd: Nia Medi Williams, Rheolwr Gweithrediadau ac Adnoddau

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru: Helen Morgan, Rheolwr Datblygu Economaidd; Kristy Tillman, Pennaeth Polisi a Gweinyddu Busnes

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth: Diane Reynolds, Cyfarwyddwr Datblygiad Economaidd a Thwf, Cyngor Sir Powys

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: Tim Peppin, Cyfarwyddwr Corfforaethol

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector: Matthew Brown, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Y Trydydd Sector (Menter Gymdeithasol): Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas

Ffederasiwn Busnesau Bach a Hunangyflogedig Cymru (Busnes): Llyr ap Gareth, Pennaeth Polisi

Prifysgolion Cymru (Addysg Uwch): Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr

Colegau Cymru (Addysg Bellach): Kelly Fountain, Prif Weithredwr, Coleg Gŵyr Abertawe

Cyfoeth Naturiol Cymru (Amgylcheddol): Rhianne Jones, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Ymadael â'r UE a Rheoli Tir

Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil: Emma Mock, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd

Siambrau Masnach: Gus Williams, Prif Weithredwr, De a Chanolbarth Cymru 

CBI (Busnes): Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Polisi

Rhwydwaith Gwledig Cymru (Datblygu lleol dan arweiniad y gymuned): Eirlys Lloyd, Cadeirydd, Rhwydwaith Gwledig Cymru

Banc Datblygu Cymru: Rob Hunter, Cyfarwyddwr Strategaethau

Undeb Llafur: Shavannah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

Grahame Guilford and Company Ltd: Grahame Guilford

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio

Nadine Young, Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol, Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio

Alison Sandford, Pennaeth Gweithio mewn Partneriaeth, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Mike Richards, Rheolwr Cyfathrebu a Rhanddeiliaid, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Eleri Carrington, Pennaeth Polisi Rhanbarthol, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Benedict Watson, Uwch Reolwr Polisi, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Cheryl Jones, Rheolwr Polisi Rhanbarthol, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Rhys Morris, Prif Swyddog Rhanbarthol, Busnes a Rhanbarthau

Lea Beckerleg, Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol Llywodraeth Leol, Polisi Llywodraeth Leol

Ann Watkin, Pennaeth Strategaeth, Cydweddu Gweithrediadau a Chynllunio, Busnes a Rhanbarthau