Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso (2.00pm i 2.10pm)

Croesawodd y Cadeirydd y rhai oedd yn bresennol gan nodi bod y trafodaethau dros yr haf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar sut y bydd cyllid y Gronfa Twf Lleol yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru wedi arwain at ganlyniad cadarnhaol. Roedd hyn yn golygu y gallai gwaith nawr ddechrau ar ddatblygu cynllun buddsoddi tair blynedd y Gronfa Twf Lleol i Gymru i ddechrau ym mis Ebrill 2026.

Dywedodd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad chwe wythnos ar gynigion ar gyfer y Gronfa Twf Lleol ar 7 Tachwedd. Mae'r cyfarfod hwn yn gyfle i roi barn ar y cynigion ymgynghori cyn y dyddiad cau ar gyfer ymatebion ar 19 Rhagfyr.

Cymeradwywyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Gwahoddodd y Cadeirydd Tom Smithson (TS), Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Cymru dros Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Twf Lleol a'r datblygiadau ers y cyfarfod diwethaf.

2. Diweddariad ar y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru (2.10pm i 2.25pm)

Nododd TS y datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cadarnhau y byddai cyllid y Gronfa Twf Lleol gwerth £547 miliwn yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru i'w fuddsoddi rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2029.

Nodau'r Gronfa Twf Lleol yng Nghymru fydd cefnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael â'r materion sy'n arwain at anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru.

Nododd TS y byddai trefniadau'r Gronfa Twf Lleol yn cynnwys Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy lywodraeth a Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu gyda chyfrifoldeb am reoli'r cyllid yng Nghymru. Bydd Grŵp Cynghori yn cael ei sefydlu i gynghori'r ddwy lywodraeth ar ôl lansio'r Gronfa.

Mae'r camau nesaf yn cynnwys Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun buddsoddi tair blynedd i Gymru gyda phartneriaid. Bydd y cynllun buddsoddi hwn yn cynnwys blaenoriaethau buddsoddi, gweithgareddau cymwys, modelau cyflawni a dulliau daearyddol.

Nododd TS fod y ddogfen ymgynghori yn cyd-fynd â Chenhadaeth Twf a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o ddadansoddiad economaidd-gymdeithasol, Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol, argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gwersi a ddysgwyd o raglenni cyllido blaenorol.

Nodwyd y pedair blaenoriaeth fuddsoddi arfaethedig yn y ddogfen ymgynghori fel:

  • busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol
  • cefnogi pobl i gael gwaith a chynyddu eu sgiliau
  • seilwaith gwyrdd ac effeithlonrwydd ynni
  • seilwaith lleol sy'n gyrru economïau rhanbarthol

Dywedodd TS fod y cynigion ymgynghori yn cynnwys cynllunio, blaenoriaethu a chydlynu ar lefel ranbarthol trwy Gyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs) gyda chyflawni ar y lefel leol.

Nododd TS hefyd fod yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar rai prosiectau cenedlaethol, fodd bynnag, byddent yn arwyddocaol yn rhanbarthol ac yn cael eu cyflawni'n lleol. Byddai blwyddyn gyntaf y Gronfa Twf Lleol yn cynnwys trefniadau pontio gyda llywodraeth leol a chynhelir adolygiad ar ôl chwe mis.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrhau dull mwy cytbwys o ran y rhaniad cyfalaf/refeniw arfaethedig o 70:30. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw'r Gronfa newydd hon yn disodli'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn uniongyrchol ac felly bydd yn fwy dwys o ran cyfalaf ac yn canolbwyntio ar dwf.

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ym mis Rhagfyr a bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y bydd yn ymarferol y flwyddyn nesaf.

3. Trafodaeth agored (2.25pm i 2.40pm)

Mewn ymateb i adroddiad TS, gwnaeth yr aelodau'r sylwadau canlynol:

  • Galw am ffocws a phragmatiaeth am yr hyn y mae modd ei gyflawni mewn 2 i 3 blynedd
  • Angen sicrwydd ar ddyraniadau rhanbarthol, amseru ac a fydd cyllid yn cael ei ddyrannu'n flynyddol
  • Archwilio'r potensial ar gyfer estyniadau i gwblhau prosiectau cyfalaf y tu hwnt i ymrwymiad tair blynedd presennol y Gronfa Twf Lleol
  • Heb gymorth refeniw cychwynnol, dim ond prosiectau cyfalaf 'parod i fynd' fydd yn hyfyw. Ni fyddai modd cyflawni syniadau prosiect newydd
  • Archwilio potensial blaenlwytho'r rhan fwyaf o'r elfen refeniw tair blynedd i gamau cynnar y Gronfa Twf Lleol
  • Angen diffinio pa gostau y gellir eu cyfalafu i sicrhau gwell cydbwysedd ariannu.

4. Ymgynghoriad ar y Gronfa Twf Lleol (2.40pm i 3.40pm)

Gwahoddodd y Cadeirydd Nadine Young (NY) i gyflwyno sesiwn ar ymgynghoriad y Gronfa Twf Lleol.

Cyflwynodd NY bob un o bedair blaenoriaeth fuddsoddi'r ymgynghoriad, gan grynhoi'r amcanion strategol arfaethedig ym mhob blaenoriaeth, a'r model cyflawni arfaethedig. 

Wrth ymateb, gwnaeth aelodau'r sylwadau canlynol:

Blaenoriaeth Busnes

  • Pwysig i fusnesau gael un pwynt mynediad i'r gronfa. Sicrhau ei bod yn cyd-fynd â rhaglenni eraill.
  • Mae mabwysiadu technoleg ac arloesi gan y gymuned fusnes yn her allweddol ond mae'n gyfle i dyfu ledled Cymru.
  • Canolbwyntio ar gefnogi busnesau newydd a chwmnïau deillio os mai twf yw'r prif amcan.
  • Ystyried twf cynhwysol ac effaith ar gymunedau sydd wedi'u gadael ar ôl os mai cyfleoedd twf uchel yn unig sy'n cael eu blaenoriaethu.

Blaenoriaethu sgiliau

  • Mae blaenoriaethu yn y maes hwn yn hanfodol gan fod buddsoddi mewn sgiliau yn arwain at refeniw. Efallai mai dim ond ar un amcan o fewn y flaenoriaeth fuddsoddi y bydd modd canolbwyntio arno yn sgil hynny.
  • Consensws ar flaenoriaeth i fynd i'r afael â sgiliau sy'n ymateb i'r galw a chydnabod yr angen sylweddol i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd cynyddol. Nodwyd bod yr olaf yn her hirdymor sy'n ymestyn y tu hwnt i gylch cyllido 2 i 3 blynedd.

Blaenoriaeth ynni gwyrdd

  • Mae amserlen tair blynedd yn rhwystr sylweddol i brosiectau ynni o unrhyw raddfa, er enghraifft gall tyrbinau gwynt gymryd 10 mlynedd o'r dechrau i'r diwedd.
  • Ystyried RD&I o dan y flaenoriaeth ynni gwyrdd o ystyried cryfderau Cymru yn y maes hwn, yn ogystal ag o fewn y flaenoriaeth Cystadleurwydd Busnes.
  • Blaenoriaeth seilwaith lleol
  • Consensws ar ffocysu ar gysylltedd digidol ac ehangu'r ddarpariaeth 5G.

Model Gweithredu

  • Pryder am barodrwydd a gallu CJCs i gymryd rôl ranbarthol arweiniol gyda'r Gronfa Twf Lleol.
  • Mae'n bwysig mai nid o'r canol y mae'r atebion yn dod. Mae angen i ranbarthau gael hyblygrwydd i ganolbwyntio ar eu cyfleoedd a'u hanghenion eu hunain. Mae llwyddiant / twf yn edrych yn wahanol ym mhob rhanbarth.
  • Ystyried cynnig cymorth i ysgrifennu ceisiadau (h.y. dull WEFO). Fel arall, mae risg y bydd yr awduron cynlluniau busnes gorau yn monopoleiddio cyllid a fydd yn arwain at oblygiadau o ran cyflawni nodau effaith.

5. Camau nesaf y Cynllun Buddsoddi (3.40pm i 3.55pm)

Nododd Tom Smithson (TS) y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i'r ymgynghoriad sef 19 Rhagfyr a dywedodd fod gwaith yn digwydd ochr yn ochr â Llywodraeth y DU ar rai o'r materion a godwyd gan aelodau yn ystod y cyfarfod.

Y flaenoriaeth gyntaf yw dadansoddi holl adborth yr ymgynghoriad i lywio'r gwaith o ddatblygu cynllun buddsoddi tair blynedd. Bydd angen i'r cynllun gael ei gytuno gan Weinidogion Cymru ddechrau mis Chwefror cyn ei gyflwyno i Lywodraeth y DU yn ddiweddarach y mis hwnnw. Bydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru (RIWSG) yn cyfarfod eto i ystyried yr adborth ymgynghori a chyn cyflwyno cynigion i Weinidogion Cymru. 

Nod Llywodraeth Cymru yw cwblhau cynllun blwyddyn pontio gyda llywodraeth leol ym mis Mawrth fel bod holl ddogfennau allweddol y rhaglen yn cael eu cyhoeddi cyn 1 Ebrill.

Y bwriad yw i gyllid fod ar gael i arweinwyr rhanbarthol awdurdodau lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin cyn yr etholiad, ac ar gyfer adolygiad o gynnydd ym mis Hydref.

6. Unrhyw fater arall (3.55pm i 4.00pm)

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau. Nododd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym mis Ionawr.

Ni chodwyd unrhyw fater arall.

Rhestr o'r mynychwyr

Cadeirydd  

Carolyn Thomas AS

Aelodau

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd: Nia Medi Williams, Rheolwr Gweithrediadau ac Adnoddau

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru: Helen Morgan, Rheolwr Datblygu Economaidd; Kristy Tillman, Pennaeth Polisi a Gweinyddu Busnes

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth: Eifion Evans, Prif Weithredwr

Cyd-bwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru: Kellie Beirne, Prif Weithredwr

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm, Ewrop ac Adfywio

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector: Matthew Brown, Dirprwy Brif Weithredwr,Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Y Trydydd Sector (Menter Gymdeithasol): Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas
Ffederasiwn Busnesau Bach a Hunangyflogedig Cymru (Busnes): Llyr ap Gareth, Pennaeth Polisi

Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil: Rhian Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi

Prifysgolion Cymru (Addysg Uwch): Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr

Colegau Cymru (Addysg Bellach): Kelly Fountain, Prif Weithredwr, Coleg Gŵyr Abertawe

Cyfoeth Naturiol Cymru (Amgylcheddol): Rhianne Jones, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Ymadael â'r UE a Rheoli Tir

Siambrau Masnach: Gus Williams, Prif Weithredwr, De a Chanolbarth Cymru 

CBI (Busnes): Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Polisi

Rhwydwaith Gwledig Cymru (Datblygu lleol dan arweiniad y gymuned): Eirlys Lloyd, Cadeirydd, Rhwydwaith Gwledig Cymru

Banc Datblygu Cymru: Rob Hunter, Cyfarwyddwr Strategaethau

Undeb Llafur: Ceri Williams, Arweinydd Polisi, TUC Cymru

Llywodraeth Leol (Arweinwyr rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin): Dylan Rhys Griffiths, Cyngor Gwynedd

Grahame Guilford and Company Ltd: Grahame Guilford

Prifysgol Caerdydd: Kevin Morgan
 

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio

Nadine Young, Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol, Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio

Alison Sandford, Pennaeth Gweithio mewn Partneriaeth, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Mike Richards, Rheolwr Cyfathrebu a Rhanddeiliaid, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Eleri Carrington, Pennaeth Polisi Rhanbarthol, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Benedict Watson, Uwch Reolwr Polisi, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Cheryl Jones, Rheolwr Polisi Rhanbarthol, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd

Matt Wellington, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Llywodraeth Leol

Lea Beckerleg, Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol Llywodraeth Leol, Polisi Llywodraeth Leol

Ann Watkin, Pennaeth Strategaeth, Cydweddu Gweithrediadau a Chynllunio, Busnes a Rhanbarthau