Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso (2.15pm i 2.25pm)

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod a rhoddodd gyflwyniad personol byr. Nododd fod y Prif Weinidog wedi ei phenodi i gadeirio'r Grŵp Llywio tan Ebrill 2026, ac erbyn hynny rydym yn bwriadu datblygu rhaglen fuddsoddi ranbarthol newydd i olynu Cronfeydd Strwythurol yr UE a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).

Dywedodd y Cadeirydd mai pwrpas y cyfarfod fyddai ystyried y cyd-destun economaidd-gymdeithasol yng Nghymru a thrin a thrafod gwersi y gallwn eu dysgu o raglenni blaenorol, prosiectau gyda Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar ddatblygu rhanbarthol ac astudiaethau ac adroddiadau amrywiol. Nododd y byddai'r gwaith o ddatblygu polisi mwy sylweddol yn dilyn canlyniad Adolygiad Gwariant y DU ar 11 Mehefin.

Croesawodd y Cadeirydd Grahame Guilford, Kevin Morgan a Paul Byard i'r Grŵp Llywio yn dilyn proses i recriwtio arbenigwyr annibynnol ym maes polisi rhanbarthol. Croesawodd yr aelodau newydd Jonathan Tench sy'n cynrychioli Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Llŷr ap Gareth sy'n cynrychioli Ffederasiwn y Busnesau Bach.

Cliriwyd cofnodion drafft y cyfarfod olaf a'r Cylch Gorchwyl gan aelodau i'w cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

2. Dadansoddiad economaidd-gymdeithasol (2.25pm i 3.15pm)

Rhoddodd Ciaran Downey (CD), Cynghorydd Economaidd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y cyd-destun economaidd-gymdeithasol yng Nghymru.

Rhoddodd CD wybod i'r Grŵp Llywio fod Llywodraeth Cymru yn diweddaru'r dadansoddiad economaidd-gymdeithasol a oedd yn cyd-fynd â'r ymgynghoriad ar Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol 2020 a oedd yn gysylltiedig â phedair blaenoriaeth ariannu'r Fframwaith ar y pryd. 

Ar y cyd-destun economaidd ehangach, dywedodd CD fod diweddariad 2025 i'r dadansoddiad economaidd-gymdeithasol hyd yn hyn yn cynnwys:

  • amcangyfrifon o ran poblogaeth a demograffeg
  • ffigurau cynnyrch domestig gros (GDP), gwerth ychwanegol gros (GVA) a incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) rhanbarthol diweddaraf
  • dangosyddion y farchnad lafur diwethaf
  • ffigurau dosbarthiad cyflogaeth y sector
  • metrigau addysg a chymwysterau y gweithlu a'r boblogaeth oedran gweithio
  • ystadegau demograffeg busnes

Amlinellodd CD hefyd fesurau cynhyrchiant a chystadleurwydd busnes i'w cynnwys yn y dadansoddiad wedi'i ddiweddaru. Y naratif disgwyliedig oedd bod Cymru'n parhau i wynebu bwlch cynhyrchiant o'i gymharu â chyfartaledd y DU. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'n rhaid uwchsgilio, meithrin entrepreneuriaeth, gwella arloesedd ac ymchwil a datblygu, a gwella cysylltedd a seilwaith hanfodol. 

Nodwyd bod rhoi hwb i greu busnesau a chryfhau cysylltiadau rhwng ymchwil a diwydiant yn allweddol i feithrin economi fwy cystadleuol.

Amlinellodd CD y mesurau anghydraddoldeb economaidd canlynol a nodwyd ar hyn o bryd gan y dadansoddiad diweddar: 

  • anghydraddoldeb incwm yn y DU
  • costau tai
  • canlyniadau iechyd
  • dosbarthiad cyflog sy'n gysylltiedig â sgiliau
  • rôl treth a budd-daliadau

Dywedodd CD mai'r naratif disgwyliedig oedd bod Cymru'n profi lefelau uwch o gyflogau isel a lefelau is o gyflogau uchel na'r DU a byddai mynd i'r afael â'r rhain yn gofyn am wella sgiliau a chymwysterau, yn enwedig ymhlith grwpiau incwm is, a mynd i'r afael â phwysau costau byw fel tlodi tanwydd a chostau trafnidiaeth.

O ran sero net, dywedodd CD y gallai'r dadansoddiad diweddar gynnwys y canlynol:

  • cyllidebau carbon Llywodraeth Cymru a thargedau hinsawdd deddfwriaethol
  • data allyriadau
  • dadansoddiad o swyddi gwyrdd
  • capasiti a chynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • dadansoddiad o brisiau ynni a chymariaethau rhyngwladol
  • dangosyddion o gynnydd sylfaenol ar draws sectorau, ee defnydd o gerbydau trydan

Dywedodd CD mai'r canfyddiadau disgwyliedig yw bod Cymru wedi lleihau allyriadau ym maes diwydiant a phŵer ond bod yn rhaid iddi gyflymu cynnydd ym maes trafnidiaeth, amaethyddiaeth ac adeiladau i gyrraedd targedau hinsawdd.

Mae'n debyg bydd yn rhaid buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth carbon isel ochr yn ochr â newid rheoleiddiol a newid mewn ymddygiad i gyflawni sero net erbyn 2050. 

O ran iechyd a chymunedau, dywedodd CD y byddai'r dadansoddiad diweddar yn cynnwys:

  • dangosyddion iechyd meddwl
  • ystadegau teithio llesol
  • defnydd a rhagamcanion gofal cymdeithasol i oedolion
  • dadansoddiad o ofal di-dâl
  • ystadegau ac amcanestyniadau o ran yr iaith Gymraeg
  • mynediad at wasanaethau

Dywedodd CD mai'r canlyniadau disgwyliedig yw bod Cymru yn wynebu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cynyddol oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio a chyfraddau anabledd uchel sy'n gysylltiedig â thlodi a lles is. Mae mynd i'r afael â gostyngiad mewn iechyd meddwl a lles a hunan-adroddwyd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn bryder polisi cynyddol gyda chanlyniadau cymdeithasol ac economaidd.

Gofynnodd CD i'r aelodau am eu barn ar y dadansoddiad wedi'i ddiweddaru ac am unrhyw awgrymiadau pellach ar yr hyn y gellid ei gynnwys.

Mewn ymateb i adroddiad CD, gwnaeth yr aelodau y sylwadau canlynol:

  • Er mwyn cau'r bwlch cynhyrchiant, mae angen i Gymru fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfradd gyflymach na rhannau eraill o'r DU.
  • Canolbwyntio ar lefelau cyflog byw real ac ehangu dangosyddion o amgylch Sero Net i gynnwys yr economi gylchol.
  • Mae angen sicrwydd ac eglurder ar fusnesau ynghylch pwy sy'n gwneud beth mewn perthynas â datblygu a chyflawni polisi.
  • Ystyried asesu tueddiadau sy'n ymwneud â'r economi sylfaenol ac unrhyw dueddiadau sectorol ar ddosbarthiad cyllid Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI).
  • Blaenoriaethu materion sylfaenol. Canolbwyntio buddsoddiad i fynd i'r afael ag achosion strwythurol yn hytrach na thrin symptomau.
  • Mae pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn rhan gynyddol o'r darlun anweithgarwch economaidd ac mae angen canolbwyntio buddsoddiad yno. Dylid ystyried canlyniadau addysgol ac anghydraddoldeb canlyniadau sgiliau fel rhan o'r dadansoddiad.
  • Angen bod yn ddetholus ynglŷn â rôl grantiau. Buddsoddi yn hytrach na gwario. Mae cyllid ad-daladwy o raglenni'r UE yn cael ei ailgylchu a'i ail-fuddsoddi flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, gan adael gwaddol barhaol.
  • Dylai'r dull o ddiweddaru'r gwaith dadanosddi ystyried cwmpas a pharamedrau'r cyllid hwn, nad ydynt wedi'u gosod eto.
  • Nododd CD y sylwadau a'r awgrymiadau a wnaed. Gofynnodd i'r pwyllgor e-bostio unrhyw wybodaeth a allai gefnogi'r dadansoddiad at flwch post yr Ysgrifenyddiaeth.

3. Ymarfer gwersi a ddysgwyd (3.10pm i 4.10pm)

Roedd y sesiwn gwersi a ddysgwyd yn cynnwys tair rhan. 

Rhan 1

Cyflwynodd Tom Smithson (TS), Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Cymru dros Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd ran gyntaf y sesiwn a oedd yn cynnwys negeseuon allweddol o bapur tystiolaeth drafft ar nodweddion polisi rhanbarthol effeithiol, a oedd wedi'i gylchredeg i'r aelodau cyn y cyfarfod. Pwysleisiodd mai polisi strategol yn hytrach na thystiolaeth cronfa benodol oedd ffocws ei sesiwn. 

O'r adolygiad tystiolaeth, amlinellodd TS ystod o gasgliadau. O ran sybsidiaredd, nododd yr angen i alinio blaenoriaethau a strategaethau gwariant ar bob lefel o lywodraethu er mwyn osgoi dyblygu a gwneud y mwyaf o'r effaith.

Roedd cydbwysedd i'w ddarganfod rhwng yr angen i wneud penderfyniadau ar y lefel isaf bosibl, a'r angen am gydlyniant strategol a gwneud y mwyaf o effaith gronnol.

O ran blaenoriaethau polisi rhanbarthol, dywedodd TS fod y dystiolaeth yn awgrymu y dylid canolbwyntio ar achosion sylfaenol a dosbarthu cyllid yn seiliedig ar angen cymharol. Ymhlith y meysydd allweddol a awgrymwyd roedd twf cynhyrchiant, gwella sgiliau, codi cyflogau, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. 

Mae eglurder ynghylch damcaniaeth newid yn bwysig i ddiffinio canlyniadau y cytunwyd arnynt ar y cyd ac egluro'r cysylltiadau rhwng mewnbynnau, allbynnau a'r canlyniadau hynny yn glir.

O ran dosbarthu cyllid, nododd TS dystiolaeth i gefnogi fframwaith ariannol aml-flwyddyn hirdymor a fyddai'n gwella gwerth am arian ac yn galluogi dulliau buddsoddi mwy strategol. Mewn cyferbyniad, mae dulliau tymor byr fel arfer yn arwain at fuddsoddiadau is llai na delfrydol, a risgiau uwch o gyllid yn cael ei ddefnyddio i ddisodli cyllid craidd neu ddiffyg ychwanegedd. 

Byddai cyllid cyfatebol ac ychwanegedd yn helpu i wneud y mwyaf o fuddsoddiadau a chynyddu capasiti cynhyrchiol.

O ran cyfrifoldebau ar lefel genedlaethol, nododd TS dystiolaeth i gefnogi rôl sy'n cynnwys gosod amcanion a chydlynu polisi, a llai ar weithredu a chyflawni'n uniongyrchol. Gellid datganoli gwahanol lefelau o gyfrifoldebau i ranbarthau yn seiliedig ar lefelau capasiti a gallu.

Gallai cyfrifoldebau cenedlaethol hefyd gynnwys gosod amodau a chymhellion, mesur perfformiad cyffredinol, rhannu arferion gorau, a darparu arweiniad a chefnogaeth ar gyfer cyflawni. Dylai buddsoddiadau ar raddfa genedlaethol ategu cyllid rhanbarthol a lleol.

Ar lefel ranbarthol, dywedodd TS fod y dystiolaeth yn cefnogi strategaeth wahanol ar gyfer buddsoddi mewn rhanbarthau yn seiliedig ar anghenion ac yn cyd-fynd â strategaeth genedlaethol. Dylai hyn gynnwys asesiad o gryfderau ac asedau rhanbarthol, bylchau neu wendidau penodol i fynd i'r afael â nhw, a chyfleoedd ar gyfer arbrofi.

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y dylai rolau rhanbarthol hefyd gynnwys cydweithredu â'r lefel genedlaethol a rhanbarthau eraill er mwyn osgoi risg o sefyllfa dameidiog, cymhlethdod cynyddol neu ddyblygu gwaith. Roedd angen cydweithio â'r lefel leol hefyd i ymgysylltu â phartneriaid, cefnogi dulliau cyflawni, a sicrhau bod cynlluniau rhanbarthol yn cael cefnogaeth leol.

O ran cyfleoedd ar gyfer symleiddio, dywedodd TS fod symleiddio er mwyn osgoi dyblygu, rheolau cenedlaethol syml ac osgoi gormod o ffocws ar gydymffurfiaeth dros arbenigedd polisi yn codi yn aml, yn ogystal ag ystyried cyfleoedd ar gyfer safoni mewn rhai meysydd er mwyn osgoi cymhlethdod.

O ran monitro a gwerthuso, mae nodi'r dull a'r bwriad yn gynnar yn y broses bolisi trwy ddiffinio nodau a chanlyniadau clir yn bwysig. Mae canllawiau wedi'u teilwra, atebolrwydd clir yn seiliedig ar ganlyniadau, a mesur perfformiad cadarn yn golygu gwell penderfyniadau. 

Nododd TS bwysigrwydd cydweithio rhwng gwahanol haenau llywodraeth, rhwng meysydd polisi a rhwng rhanbarthau a lleoedd eraill. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn osgoi cymhlethdod, sefyllfa dameidiog, dyblygu gwaith a chystadleuaeth, a helpu i gefnogi nodau cyffredin, dulliau aml-ardal a dysgu o arferion da.

I gloi, fe wnaeth TS grynhoi prif egwyddorion Fframwaith 2020 ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol sy'n adlewyrchu llawer o'r dystiolaeth yn y papur ac y gellir adeiladu arno i lywio'r dull ôl-2026.

Rhan 2

Cyflwynodd Rebecca Askew (RA), Uwch Swyddog Ymchwil Llywodraeth Cymru, rai canfyddiadau cynnar o arolwg gwersi Llywodraeth Cymru ar yr SPF a lansiwyd ym mis Ebrill drwy'r Grŵp Llywio.

Cyflwynwyd cyfanswm o 175 o ymatebion i'r arolwg, gan gynnwys gan awdurdodau lleol, buddiolwyr SPF a grwpiau a oedd wedi gwneud cais am gyllid ond a oedd wedi bod yn aflwyddiannus. 

Roedd cyflwyniad RA yn cynnwys canfyddiadau newydd a allai newid yn dilyn gwaith dadansoddi pellach. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau gwe ymchwil ac ystadegau Llywodraeth Cymru.

Rhan 3

Rhannodd Paul Relf (PR), Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol yng Nghyngor Abertawe, rai myfyrdodau ar brofiad llywodraeth leol o'r SPF.

Dywedodd PR fod y dyraniad SPF o £585 miliwn bellach wedi'i ymrwymo'n llawn gan awdurdodau lleol Cymru ar wahân i swm bach o'r cyllid sydd wedi'i neilltuo ar gyfer y rhaglen rhifedd oedolion, Lluosi. Yn ogystal, mae blwyddyn pontio'r SPF wedi caniatáu i'r Gronfa barhau'n ddi-dor y tu hwnt i'w dyddiad cau gwreiddiol o Fawrth 2025.

Nododd PR y canlyniadau a gyflawnwyd yn ystod tair blynedd yr SPF yng Nghymru. Dywedodd fod y profiad wedi cryfhau gallu partneriaid rhanbarthol a lleol i gyflawni blaenoriaethau polisi'r Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, wedi'u teilwra i gryfderau a chyfleoedd rhanbarthol/lleol.

Dywedodd PR fod y pedwar rhanbarth wedi gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i greu rhaglen o fesurau adfywio economaidd seiliedig ar leoedd. Mae hyn wedi cynnwys gwaith partneriaeth traws-sector.

Dywedodd PR fod gwelliannau gweladwy a chynaliadwy sy'n deillio o fuddsoddiad cyfunol mewn lleoedd bellach yn cael eu gweld – er enghraifft, lle mae refeniw SPF wedi cefnogi buddsoddiad cyfalaf drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Darparwyd data ar allbynnau SPF hyd yma a oedd yn cynnwys, er enghraifft, swyddi a grëwyd ac a ddiogelwyd, mentrau sy'n derbyn grantiau a chymorth, canlyniadau cyflogaeth a sgiliau a gwelliannau i'r maes cyhoeddus.

Ychwanegodd PR fod arbenigedd a gallu sylweddol wedi'u creu mewn rhwydweithiau rhanbarthol/lleol ar draws llywodraeth leol a rhanddeiliaid rhanbarthol/lleol.

Nododd PR fod y pedwar rhanbarth wedi gweithio o fewn strwythurau rhanbarthol sy'n esblygu ac wedi dilyn dull strategol dan arweiniad aelodau a strwythurau partneriaeth gan gynnwys Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a rhaglenni Bargeinion Dinesig a Thwf. 

Yn olaf, dywedodd PR bod awdurdodau lleol yn croesawu'r cyfle i gyd-ddylunio'r dirwedd fuddsoddi ôl-2026 ar draws Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol, ac i barhau i feithrin hyder ac adfywio economaidd mewn busnesau a chymunedau.

Yn dilyn y tri chyflwyniad, gwnaeth yr aelodau y sylwadau canlynol:

  • Angen darparu ar gyfer rôl Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CJCs) mewn datblygiad economaidd a symud i ffwrdd o osod targedau syml. Mae angen gwell perthynas rhwng CJCs a Llywodraeth Cymru.
  • Mae cefnogi digideiddio yn hanfodol. Ni fydd llawer o weithgynhyrchwyr yn goroesi oni bai eu bod yn ei fabwysiadu'n gyflymach. Roedd gan y sector AU broblemau ymgysylltu â'r SPF.
  • Yn gyffredinol, nid oedd profiad y trydydd sector o'r SPF yn gadarnhaol, ac roeddynt yn cwestiynu effaith economaidd-gymdeithasol y gronfa. Pwysig symud yn gyflym gan fod y trawsnewidiad ariannol rhwng y rhaglenni Ewropeaidd a'r SPF yn costio swyddi ac arbenigedd yn eu sector.
  • Nid yw'r adroddiadau yn yr adolygiad tystiolaeth yn ddiweddar, ac nid ydynt yn adlewyrchu'n ddigonol y materion sy'n ymwneud ag ardaloedd gwledig.
  • Bydd 'gwariant' bob amser yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol ond dim ond os yw'n mynd i'r afael â phroblemau sylfaenol y bydd yn gallu trawsnewid pethau.  Mae gennym flaenoriaethau strategol cenedlaethol mewn ynni adnewyddadwy a chysylltedd digidol.
  • Nid oes rhaid i leol, rhanbarthol a chenedlaethol fod ar wahân os yw ymdrechion wedi'u halinio i gyflawni cenadaethau cyffredinol.
  • Pwysig creu cynnig credadwy y gellir buddsoddi ynddo i Gymru. Mae angen ystyried cyllid fel lifer, catalydd a ffynhonnell ailgylchadwy nid fel pot penodol i'w wario o fewn amserlen benodol.

4. Unrhyw fater arall (4.10pm i 4.15pm)

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau. Nododd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal wedi'r Adolygiad Gwariant a byddai nodyn i'r dyddiadur yn cael ei anfon allan maes o law.

Ni chodwyd unrhyw fater arall.

Rhestr o'r mynychwyr

Cadeirydd 

Carolyn Thomas AS

Aelodau

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd: Alwen Williams, Prif Weithredwr

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru: Ainsley Williams, Cyfarwyddwr Lleoedd, Seilwaith a Datblygu Economaidd; Helen Morgan, Rheolwr Datblygu Economaidd

Cyd-bwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru: Kellie Beirne, Prif Weithredwr

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: Tim Peppin, Cyfarwyddwr Corfforaethol

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector: Matthew Brown, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Y Trydydd Sector (Menter Gymdeithasol): Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas

Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil: Angela West, Uwch Reolwr Sgiliau a Chyflogadwyedd

Prifysgolion Cymru (Addysg Uwch): Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr

Colegau Cymru (Addysg Bellach): Catherine Jenkins, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, Coleg Gŵyr Abertawe

Cyfoeth Naturiol Cymru (Amgylcheddol): Mary Lewis, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol a Pholisi

Siambrau Masnach: Gus Williams, Prif Weithredwr, De a Chanolbarth Cymru 

CBI (Busnes): Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Polisi

Rhwydwaith Gwledig Cymru (Datblygu lleol dan arweiniad y gymuned): Eirlys Lloyd, Cadeirydd, Rhwydwaith Gwledig Cymru

Banc Datblygu Cymru: Rob Hunter, Cyfarwyddwr Strategaethau

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Jonathan Tench, Cyfarwyddwr yr Economi Lles

Llywodraeth Leol (Arweinwyr rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin): Dylan Rhys Griffiths, Cyngor Gwynedd; Natalie Chambers, Cyngor Ceredigion; Simon Gale, Cyngor Rhondda Cynon Taf; Paul Relf, Cyngor Abertawe

Grahame Guilford and Company Ltd: Grahame Guilford

Prifysgol Caerdydd: Kevin Morgan

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Tom Smithson: Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio

Alison Sandford: Buddsoddi Rhanbarthol, Pennaeth Polisi a Gweithio mewn Partneriaeth 

Mike Richards: Buddsoddi Rhanbarthol, Rheolwr Cyfathrebu

Claire McDonald: Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd

Jonathan Bonville-Ginn: Uwch Gynghorydd Economaidd, Polisi Economaidd

Ciaran Downey: Cynghorydd Economaidd, Polisi Economaidd

Llyr Griffiths: Economegydd, Trysorlys Cymru

Liz Lalley: Cyfarwyddwr, Polisi a Strategaeth Economaidd 

Lee Antrobus: Rheolwr Polisi, Llywodraeth Leol a Chynllunio