Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Catrin James (CJ) - Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol
  • Elin Maher - Rhieni dros Addysg Gymraeg
  • Kathryn Robson - Addysg Oedolion Cymru
  • Anne Marie Rogan - Ymddiriedolaeth St Giles
  • Nathan Sadler - Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
  • Rebecca Falvey - RSPB Cymru
  • Lowri Jones (LJ) - Mentrau Iaith Cymru
  • Rachel Wrathall - Achub y Plant
  • Phil Stubbington - Trust
  • Susie Ventris Field (SVF) - Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
  • Sophie Weeks - Cymorth i Ferched Cymru
  • Amy Bainton - Barnardo's Cymru
  • Ben Lloyd (BL) - CGGC
  • Fiona Harris - CGGC
  • David Hagendyk - Y Sefydliad Dysgu a Gwaith Cenedlaethol
  • Dan Roberts - Cwmpas
  • Hannah Jones - Prince's Trust Cymru
  • John Muir - Cyswllt Amgylchedd Cymru

Agenda

  1. Materion sy’n codi
  2. Materion sy’n cyfrannu at y cwricwlwm (CGGC)
  3. Cynllunio’r gweithlu ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a datblygu’r Sector Ieuenctid (CGGC)
  4. Ffoaduriaid a Dysgu Oedolion
  5. UFA

Eitem 1: materion sy’n codi

Rhoddodd BL gyflwyniad byr i'r cyfarfod a'r papurau a gyflwynwyd cyn y cyfarfod; gan nodi eu pwrpas a'u nod.

Eitem 2: papur ar gefnogi’r cwricwlwm

Cyflwynodd BL y papur: Cefnogi Cwricwlwm Cymru trwy gefnogi'r sector gwirfoddol a gwirfoddoli gan esbonio o le yr oedd wedi dod a phwy oedd wedi cyfrannu ato. Dyma’r prif bwyntiau: sut all y trydydd sector gydweithio â LlC i gefnogi'r cwricwlwm newydd a chymryd rhan yn y gwaith o’i weithredu a chael digon o adnoddau/gweithlu i wneud hynny, a gwerth y trydydd sector fel rhan o hyn.

Tynnodd LJ sylw at werth gwirfoddoli gan bwysleisio bod mentrau iaith sy'n galluogi defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth yn allweddol er mwyn cefnogi pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned; mae cyfraniad y trydydd sector yn allweddol mewn perthynas â’r datblygiad hwn gan ei fod yn helpu i ddatblygu pob math o sgiliau Cymraeg gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn cyfleoedd chwarae a gwirfoddoli.

Awgrymodd LJ yn gryf y dylid cynnal trafodaeth ehangach ynglŷn â sut i gefnogi ysgolion a cholegau i weithio o gwmpas y rhwystr iaith. Mae potensial enfawr gyda’r cynllun Miliwn o Siaradwyr, ac mae angen parhau i gael trafodaeth, edrych ar ddarpariaeth a chydweithio ag ysgolion. Mae llawer o gyfleoedd i gynnal gweithgareddau yn y Gymraeg ac mae angen i hyn fod yn glir i benaethiaid ac ysgolion. Mae angen ystyried sut y gallwn ei gynllunio'n well a bod yn fwy strategol; dylai'r Siarter Iaith helpu gyda hyn. Dylai ein plant a'n pobl ifanc gael hyder i ddefnyddio'r iaith ym mhob rhan o'u bywyd. Sut mae ysgolion yn gwybod am y trydydd sector a'r cyfleoedd y gall eu darparu?

Cytunwyd y byddai'r Gweinidog yn ymateb ar y diwedd i'r materion a godwyd.

Dywedodd CJ fod rhai pryderon ynghylch y gwaith o ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a'u bod yn teimlo bod gwahanol elfennau o weithredu'r cwricwlwm wedi bod yn anghyson. Er bod y sector gwirfoddol yn ymwneud â rhai grwpiau, nid yw bob amser wedi bod yn ganolog i'r ffordd y mae'r grwpiau hyn yn gweithredu. Mae rhai pryderon hefyd bod grwpiau wedi arafu oherwydd y pandemig ac felly mae llais y sector gwirfoddol wedi’i wthio i'r cyrion o ran gweithredu'r cwricwlwm.

Roedd NS i fod i siarad am wirfoddoli ond roedd yn absennol. Cododd BL rai o'r materion yr oedd hi eisiau sôn amdanynt, megis cynllun Dug Caeredin. Mae'n bwysig edrych ar ddatblygu’r gwirfoddoli a ddigwyddodd yn ystod y pandemig a thrwy Fagloriaeth Cymru, gan sicrhau bod cyfleoedd gwirfoddoli ar gael a bod darpariaeth ar gael i gefnogi niferoedd y ceisiadau.

Soniodd HJ am Ymddiriedolaeth y Tywysog – roedd disgwyl iddynt lansio'r rhaglen Mosaic yn 2020 mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd ond gohiriwyd hyn oherwydd y cyfnod clo, ac felly nid yw wedi’i lansio yng Nghymru eto. Siaradodd am y rhaglen a'r mentora; nid yw'r rhain mewn ysgolion ar hyn o bryd - yn cynnwys Diwrnod y Byd Gwaith a'r camau nesaf y tu hwnt i fywyd academaidd. Mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda phobl ifanc ac yn eu cefnogi i edrych ar orwelion ac anelu am yrfa foddhaus – edrychir ymlaen at ei lansio yng Nghymru.

Cododd CJ bwynt am gysylltu gwirfoddoli/gwneud y mwyaf o wirfoddoli drwy'r cwricwlwm gyda phwyslais ar gyfleoedd cyfartal i bawb o bob cefndir. Nid yw'r rhain bob amser ar gael yn ddiweddarach mewn bywyd; mae angen gwreiddio hyn yn y cwricwlwm i gael chwarae teg i bawb. Mae'n darparu ystod eang o brofiadau i bawb o bob cefndir - roedd hyn wedi'i amlygu mewn astudiaeth achos yn y papurau a ddarparwyd i'r cyfarfod gan CGGC.

Soniodd CJ/SVF am y broses weithredu a'r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol a oedd yn ddefnyddiol i ennyn trafodaeth ar draws y sector. Roedd y trydydd sector wedi'i gynnwys wrth gynllunio’r cwricwlwm ond mae'n teimlo bod y cyfleoedd hyn yn brinnach ers lansio'r cwricwlwm; mae diffyg cydlynu. Mae rhai cyfleoedd gwych i'r trydydd sector gefnogi cyfoethogi disgyblion; ac er mwyn i hyn weithio mae angen cyfeirlyfr neu ffordd hawdd i ysgolion ddod o hyd i wasanaethau, nid yn unig yn eu cymuned gyfagos ond hefyd y tu hwnt i’w milltir sgwâr. Hoffai weld y gwaith hwn yn ailgychwyn - hoffai gyfleoedd i ymwneud ag ysgolion a chyflwyno'r cwricwlwm.

Soniodd SVF am gyllid a chydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid rhagorol a bod y trydydd sector wedi denu llawer o arian o wahanol ffynonellau. Mae angen diweddaru'r wybodaeth hon fel y gall y trydydd sector helpu i gynllunio a chefnogi ystod lawn o raglenni cyfoethogi disgyblion a fydd yn cefnogi'r cwricwlwm newydd. Pwysleisiodd SVP eu bod yn gefnogol iawn i'r cwricwlwm newydd ond yr hoffent gael mwy o gyfleoedd i'w gefnogi.

Dywedodd CJ fod angen cychwyn fel sector, gan wybod beth yw’r man cychwyn ar hyn o bryd a’i ymestyn i oedran uwch; maent wedi cael trafodaethau gyda Hayley Jones yn y sector ieuenctid i drefnu sesiwn friffio i grwpiau/gweithwyr ieuenctid.

Diolchodd y Gweinidog i'r rhai oedd wedi cyfrannu i'r papur gan ddweud ei fod yn gyfle euraidd i'r trydydd sector gymryd rhan a gwneud cyfraniad - mae angen bod yn glir gydag ysgolion am yr hyn y gallant fanteisio arno. Roedd yn gobeithio y bydd mwy o hyblygrwydd i drafod gwaith gyda'r sector ac yn teimlo bod rôl benodol iawn iddyn nhw, fel y rôl wirfoddoli, i gefnogi dysgwyr i fod yn unigolion mwy crwn. Nododd y Gweinidog yr hoffai gael syniad cryfach o'r hyn sydd ganddynt i’w cynnig, yn hytrach na'u gofynion - hoffai weld cynlluniau chynnig clir wrth iddynt symud ymlaen.

Dywedodd y Gweinidog bod rhai pwyntiau penodol i'w nodi - mae gweithgor rhanddeiliaid strategol wedi edrych ar gysylltiadau rhwng yr ysgol a'r trydydd sector. Y teimlad yw mai strwythur y Rhwydwaith Cenedlaethol yw'r fforwm i fwydo i mewn iddo ac mae'n bwysig wrth ddatblygu'r cwricwlwm. Bydd cyfleoedd i weithio gyda'r rhwydwaith; ond bydd angen cynllunio'n ofalus sut y bydd hyn yn gweithio. Mae angen ei strwythuro a sicrhau ei fod yn ddefnyddiol ac o werth i bawb, fel bod modd manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i ymgysylltu. Mae hefyd angen iddo fod yn weladwy. Mae adolygiad o lywodraethiant y grwpiau yn mynd rhagddo. Trafodwyd rôl gwirfoddoli ac mae cyfleoedd gwych ar gyfer hyn; mae'n cysylltu'r ysgol â'r gwaith a'r byd y tu allan - yn awyddus i weithio gydag ysgolion i roi cyfleoedd.

Collwyd y cysylltiad â'r cyfarfod am tua 10 munud.

Eitem 3: cynllunio’r gweithlu ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg a'r sector ieuenctid (CGGC)

Ymunwyd wrth drafod Gweithlu Addysg Cymru – Canlyniad 7.

EM: Mae partneriaid trydydd sector sy'n ymwneud â chynllunio ieithyddol Cymraeg wedi cyfrannu'n eang at ffurfio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg drwy’r Fforymau Cymraeg mewn Addysg ledled Cymru ac wedi gwerthfawrogi'r cyfle i wneud hynny. Mae'r gweithlu cyfrwng Cymraeg yn elfen allweddol sydd angen bod yn rhan o dargedau a datblygiad ar gyfer y sector statudol a'r trydydd sector. Croesawodd EM y cynllun 10 mlynedd y mae'r Gweinidog newydd ei gyhoeddi. Teimlwyd nad oes digon o fecanwaith yno – nid yw'r elfen fonitro flynyddol gan awdurdodau lleol yn rhywbeth a fydd yn rhoi darlun priodol i'n galluogi i fonitro ac ymateb i faterion a allai godi yn brydlon ac effeithiol gan ei fod wedi ei gyfyngu i'r awdurdodau lleol. Mae angen golwg flynyddol ehangach ar yr holl randdeiliaid sydd â chyfrifoldeb i symud hyn ar ei flaen. Hoffem gael ymateb gan LlC i'r papur a anfonwyd at y Gweinidog yn gofyn am roi corff yn ei le i gymhwyso mecanwaith monitro a chynghori gweithredol a fydd yn cynorthwyo i gynyddu'r gweithlu cyfrwng Cymraeg yn syth. Mae angen corff ffurfiol i arwain ar hyn. Roedd y papur a baratowyd ar gyfer y cyfarfod heddiw yn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn yn hwyr yn cyrraedd y Gweinidog, ond mae'r materion hyn wedi'u codi gyda'r Gweinidog eisoes.

Cyhoeddodd Mudiad Meithrin adroddiad hefyd o'r enw Grym ein Gweithlu ym mis Chwefror 2022 sy'n egluro problemau yn y maes Blynyddoedd Cynnar o ran recriwtio a datblygu'r gweithlu; mae'n cynnig barn ar y blynyddoedd cynnar a'r angen i wneud pethau'n iawn. Hoffai Mudiad Meithrin y cyfle i drafod y papur gyda LlC. Mae angen i ni drafod materion fel hyfforddiant a materion eraill sy'n peri pryder ni.

Aeth LJ ymlaen i sôn am y sector Chwarae - llawer o gyfleoedd gyda'r posibilrwydd o ymestyn y diwrnod ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Gwelwn heriau enfawr gyda'r gweithlu sy'n siarad Cymraeg; mae recriwtio a datblygu’r gweithlu yn heriol iawn ac rydym yn rhagweld y bydd yr heriau hyn yn cynyddu. Mae angen i ni ddatblygu’r gweithlu chwarae, ac nid dim ond y gweithlu Cymraeg ond ar draws yr sector 

CJ – Gwaith Ieuenctid – o ran y sector hwn, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i ddatblygu’r gweithlu Cymraeg a’r seilwaith ar gyfer hyfforddi ac asesu'r gweithlu. Rydym yn gobeithio bod modd tynnu ar yr agwedd strategol – rydym’ yn cydweithio ac nid mewn seilos fel y gallwn ddatblygu gyda'n gilydd.

Diolchodd y Gweinidog am gyfraniad y cyfarfod – ni chafodd gyfle i ddarllen y papur cyn y cyfarfod. Nododd y Gweinidog bod angen i ni edrych ar ddatblygu'r Gymraeg mewn dull mwy holistaidd gan gydweithio â’n gilydd. Mae yna gynllun 10 mlynedd - gobeithio ei bod hi'n amlwg ein bod ni'n ceisio bod yn greadigol a gweld y darlun ehangach a herio ein hunain i wneud mwy ac mewn ffordd wahanol. Mae angen i ni ganolbwyntio ar y cynnydd bob blwyddyn, ac felly bydd yn cael ei ailgyhoeddi bob ychydig flynyddoedd a bydd atebolrwydd cyhoeddus. Mae angen cynllunio rheolaidd a chyson sydd angen ei wneud ar y cyd, ac mae angen gosod disgwyliadau. Nid yw'r Gweinidog o’r farn bod angen corff newydd, ond mae angen i ni gydlynu a symlaen yn strategol; nid yw’r Gweinidog eisiau creu corff newydd.

Elfen arall sy'n bwysig yw bod cynghorau'n gwneud cynnydd gyda'u cynlluniau strategol; mae angen iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau ac mae llawer mwy o waith i'w wneud. Trafodwyd y gwaith ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gan obeithio y bydd modd gwneud cynnydd a hyfforddi'r gweithlu Cymraeg ac y gellir mapio hyn ym nhermau gweithio gyda'r gweithlu. Mae trafodaethau manwl yn mynd rhagddynt, ac er nad oes cyhoeddiadau wedi’u gwneud mae'n bwynt trafod cyson gyda Julie Morgan sy'n gyfrifol am y Blynyddoedd Cynnar a chyda'r aelod dynodedig o Blaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae’r Gweinidog yn gobeithio bod hyn wedi ateb eu cwestiynau.

Diolchodd EM i'r Gweinidog am ei ymateb ac roedd yn falch o glywed am y gwaith mewn perthynas â’r blynyddoedd cynnar. Er hynny, mae pryderon ynghylch cydlynu'r holl gyrff, sefydliadau a phartneriaethau sy'n gyfrifol ac yn rhan o ddatblygiad y gweithlu megis prifysgolion a chonsortia. Mae ein pryder ynglŷn â'r cydlynu a'r cynllunio ar gyfer y gweithlu Cymraeg, mae angen i ni sicrhau bod pob elfen yn digwydd a phawb yn sylweddoli beth yw eu cyfrifoldebau a dyna pam rydyn ni'n gofyn am y corff newydd.

Eitem agenda 4: ffoaduriaid a dysgu oedolion

Gofynnodd BL am wybodaeth/eglurhad am y cymorth ariannol ar gyfer ceiswyr lloches

Eglurodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i chweched dosbarth ysgolion a cholegau dynnu cyllid ôl-16 i lawr ar eu cyfer cyn belled â bod y dysgwr yn byw yng Nghymru yn gyfreithlon (neu yn Lloegr os mai yng Nghymru mae'r ddarpariaeth agosaf sydd ar gael yng Nghymru). Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno bod pobl ifanc sy'n ceisio lloches yng Nghymru o Wcráin yn gymwys ar unwaith i dderbyn addysg neu hyfforddiant ôl-16 mewn coleg a hefyd yn gymwys ar gyfer rhaglenni prentisiaethau.

Croesawodd BL y newyddion a diolchodd i'r Gweinidog am ei amser.