Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mike Usher - Cyfarwyddwr Anweithredol, Chadeirydd - ARAC LlC ac ARAC CS&I
  • Gareth Pritchard - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd ECWL
  • Kevin Roberts - Aelod Annibynnol, Cadeirydd - Bwrdd Sicrwydd LGHCCRA
  • Chris Martin - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd HSC&EY
  • Scott Waddington - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd EET
  • Andrew Goodall - Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp LGHCCRA
  • Sioned Evans - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp CS&I
  • Jacqueline Totterdell - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp HSC&EY
  • Dean Medcraft - Cyfarwyddwr Cyllid
  • Georgina Haarhoff - Cyfarwyddwr Addysg (ar gyfer DG, Grŵp ECWL)
  • Elin Burns - Cyfarwyddwr Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a'r Gymraeg (ar gyfer DG, y Grŵp ECWL)
  • Steve Vincent - Dirprwy Gyfarwyddwr, Gweithrediadau (ar gyfer DG, y Grŵp EET)
  • Helen Morris - Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
  • Anthony Veale - Archwilio Cymru
  • Matthew Mortlock - Archwilio Cymru

Hefyd yn bresennol

  • Uwch-swyddog Llywodraethiant Corfforaethol
  • Pennaeth Cyfrifyddu Ariannol a Thechnegol
  • Pennaeth y Swyddfa Cyflawni Prosiectau
  • Ysgrifenyddiaeth ARAC

1. Datganiadau o Fuddiant

1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.

2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2025

2.1 Cytunodd y Pwyllgor fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cyflawn a chywir. Nododd yr Aelodau y cynnydd da a wnaed o ran rhoi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith, a chafwyd diweddariadau ar y rhai nad oeddent wedi eu cwblhau. Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad pellach ar barodrwydd i dderbyn risg yn yr hydref.

3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu

Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Pwyllgor ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Paratoadau ar gyfer gweinyddiaeth newydd a chynllunio ar gyfer canlyniadau'r etholiad sydd i ddod.
  • Cyflawni'n llwyddiannus yn erbyn y Rhaglen Lywodraethu, yn ogystal â blaenoriaethau ychwanegol y Prif Weinidog, a swyddogaethau statudol Llywodraeth Cymru.
  • Y disgwyliad y bydd Llywodraeth Cymru yn mantoli'r gyllideb o £28 biliwn, er gwaethaf heriau, pwysau a risgiau sylweddol yn ystod y flwyddyn.
  • Cyhoeddi Adroddiad diweddaraf y DU ar Ymchwiliad Covid  (Modiwl 3 - Effaith ar systemau gofal iechyd), ac ystyried argymhellion.
  • Effaith digwyddiadau rhyngwladol, gan gynnwys yn y Dwyrain Canol, ar yr economi fyd-eang.

4. Diweddariad ar Reoli Rhaglenni a Phrosiectau

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dirwedd PPM ar draws Llywodraeth Cymru a chymeradwyodd y mesurau arfaethedig i gryfhau cyflawni prosiectau a rhaglenni. Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariadau pellach yn y maes hwn i ystyried i ba raddau y mae'r mesurau arfaethedig wedi'u rhoi ar waith.

5. Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2024-2025

5.1 Rhoddodd Archwilio Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am y negeseuon a'r canlyniadau allweddol o'u hadolygiad o gyfrifon cyfunol LlC ar gyfer 2024-2025 a hysbysodd y Pwyllgor fod LlC wrthi'n ystyried ei hymatebion i'r argymhellion a wnaed. Darparodd Archwilio Cymru amserlen lefel uchel hefyd ar gyfer ei adolygiad o gyfrifon 2025-2026.

5.2 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Cyfarwyddwr Cyllid ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru a nododd fod adolygiad mewnol o'r broses o baratoi cyfrifon wedi'i gomisiynu yn ddiweddar.

6. Crynodeb gan Fyrddau Sicrwydd y Grwpiau

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariadau o gyfarfodydd diweddar Byrddau Sicrwydd y Grwpiau, a oedd yn cynnwys eu paratoadau ar gyfer Diwygio'r Senedd. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod pob Bwrdd Sicrwydd wedi ystyried:

  • Y tebygolrwydd o newidiadau i bortffolios gweinidogol ac ailstrwythuro cysylltiedig y Grwpiau.
  • Cynllunio senarios a dadansoddi'r bwlch sgiliau. 
  • Materion adnoddau a chapasiti sy'n gysylltiedig â Senedd estynedig ond heb swyddi ychwanegol yn y gwasanaeth sifil i gyd-fynd â hyn.
  • Llesiant staff a strategaethau cyfathrebu effeithiol.
  • Risgiau yn ogystal â chyfleoedd i ystyried ffyrdd amgen o weithio a chyflawni.

7. Y Gofrestr Risgiau Corfforaethol

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a rhoi sêl ei fendith i'r bwriad i fynd ati i'w hadnewyddu yn dilyn etholiadau'r Senedd a Rhaglen Lywodraethu newydd.

8. Diweddariad Archwilio Mewnol

8.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y cynnydd yn erbyn y cynllun archwilio mewnol ar gyfer 2025-2026.

8.2 Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chymeradwyo'r  cynllun archwilio mewnol ar gyfer 2026-2027, gan gydnabod yr angen iddo barhau i fod yn hyblyg ac yn ystwyth, o gofio na fydd y Rhaglen Lywodraethu newydd yn cael ei diffinio tan ar ôl etholiadau mis Mai. Gofynnodd y Pwyllgor am gael gwybod am unrhyw faterion adnoddau a allai effeithio ar gyflawni'r cynllun.

9. Diweddariad Archwilio Allanol

9.1 Cafwyd diweddariad hefyd ar raglen gwerth am arian Archwilio Cymru, a chrynodeb o'r adroddiadau a gyhoeddwyd.

9.2 Nododd y Pwyllgor fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn amlinellu blaenraglen waith Archwilio Cymru yn y dyfodol, sy'n cynnwys elfen o hyblygrwydd yn y cynllun i adlewyrchu newidiadau gwleidyddol a phenodi Archwilydd Cyffredinol Cymru newydd a fydd yn dechrau yn y swydd yn yr Haf.