Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mike Usher - Anweithredol a Chadeirydd - ARAC LlC ac ARAC CS&I
  • Mel Doel - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd EET
  • Gareth Pritchard - Aelod Annibynnol, Cadeirydd Bwrdd Sicrwydd ECWL
  • Kevin Roberts - Aelod Annibynnol, Cadeirydd Bwrdd Sicrwydd LGHCCRA
  • Andrew Goodall - yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Sioned Evans - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp CS&I
  • Judith Paget - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
  • Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp EET
  • Emma Williams - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp ECWL
  • Kim Jenkins - Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon, Llywodraethiant a Grantiau
  • Helen Morris - Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
  • Clare Thomas - Archwilio Cymru
  • Anthony Veale - Archwilio Cymru
  • Matthew Mortlock - Achwilio Cymru
  • Piers Bisson - Cyfarwyddwr, y Cyfansoddiad (ar gyfer eitem Diwygio'r Senedd)
  • Will Whiteley - Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio'r Senedd (ar gyfer eitem Diwygio'r Senedd)
  • Cariad Hazard - irprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Corfforaethol a Busnes y Llywodraeth, Grŵp HSCEY

Hefyd yn bresennol

  • Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth mewn Llywodraethiant Corfforaethol
  • Pennaeth Cyfrifyddu Ariannol a Thechnegol
  • Ysgrifenyddiaeth ARAC
  • Pennaeth yr Uned Cyrff Cyhoeddus (arsylwi)

1. Datganiadau o fuddiant

1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.

2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2025

2.1 Cytunodd y Pwyllgor fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cyflawn a chywir. Nododd yr Aelodau y cynnydd da a wnaed o ran rhoi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith, a chafwyd diweddariadau ar y rhai nad ydynt wedi eu cwblhau eto.

3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu

3.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Pwyllgor ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Y ffocws clir ar gyflawni, gan gynnwys gweithredu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu. Mae'r Cabinet Cyflenwi yn parhau i gyfarfod a chanolbwyntio ar feysydd allweddol, gan gynnwys meysydd cyflawni gwell y Prif Weinidog.
  • Y gyllideb dros dro ar gyfer 2026-27, a'r mecanweithiau craffu a chymeradwyo.   
  • Y sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn, a'r angen i gynnal disgyblaethau ariannol cadarn.
  • Y ffocws ar lywodraethu a rheoli risg yn y cyfnod cyn ac yn ystod y pontio rhwng tymhorau llywodraeth.
  • Yr Arolwg Pobl a'r dadansoddiad dilynol o'i ganlyniadau a'i negeseuon allweddol.

4. Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2024-2025

4.1 Parhaodd y Pwyllgor â'i waith o graffu ar Gyfrifon Cyfunol drafft Llywodraeth Cymru, drwy ystyried Rhan 3 - y Datganiadau Ariannol. Roedd Rhannau 1 a 2 (yr Adroddiad Perfformiad a'r Adroddiad Atebolrwydd) wedi cael eu trafod yn y cyfarfod blaenorol.

4.2 Rhoddodd Archwilio Cymru ddiweddariad ar ei adolygiad o'r Cyfrifon Cyfunol, gan amlinellu'r heriau a'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r Adolygiad Pum Mlynedd o'r Rhwydwaith Ffyrdd a'r newidiadau i'r Model Benthyciadau Myfyrwyr.

4.3 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor y Model Benthyciadau Myfyrwyr, ac roeddent o'r farn y dylai fod datgeliadau ychwanegol o fewn y cyfrifon a chrynodeb Archwilio Cymru, er mwyn darparu gwybodaeth gyd-destunol a naratif cytbwys i ddarllenwyr.

4.4 Roedd y Pwyllgor yn cydnabod cymhlethdod y cyfrifon ac yn cymeradwyo'r dull rhagweithiol a chydweithredol parhaus sydd ar waith rhwng tîm cyllid Llywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru.

5. Materion llywodraethiant a risg

Diwygio'r Senedd

5.1 Rhoddodd Cyfarwyddwr y Cyfansoddiad a Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio'r Senedd ddiweddariad ar Ddiwygio'r Senedd, gyda phwyslais ar baratoadau mewnol a threfniadau llywodraethu.

5.2 Sicrhawyd y Pwyllgor bod trefniadau priodol ar waith, neu'n cael eu datblygu, i reoli'r gwahanol elfennau o Ddiwygio'r Senedd yn briodol, ond gan drafod yr adnoddau, y capasiti, a'r gallu i gyflawni'n effeithiol o fewn yr amserlen angenrheidiol.

5.3 Comisiynodd y Pwyllgor bob Bwrdd Sicrwydd Grŵp i ystyried goblygiadau Diwygio'r Senedd o fewn eu meysydd penodol, gan adrodd yn ôl i ARAC Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau chwarterol Byrddau Sicrwydd y Grwpiau

5.4 Cafodd yr adroddiadau cryno gan Fyrddau Sicrwydd y Grwpiau eu hystyried a'u nodi gan y Pwyllgor.

Cofrestr Risgiau Corfforaethol

5.5 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor y Gofrestr Risgiau Corfforaethol, gan gymeradwyo'r sail resymegol dros y risgiau sydd wedi eu hychwanegu a’u tynnu oddi arni. Cymeradwyodd yr Aelodau hefyd y gwaith o ddatblygu dull Llywodraeth Cymru o sganio gorwelion fel rhan o'i fframwaith rheoli risg.

Argymhellion Archwilio

5.6 Ystyriodd y Pwyllgor yr argymhellion archwilio sy'n weddill, gan ofyn i reolwyr ailymweld â'r rhai sydd ar hyn o bryd yn hwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol, gyda dyddiadau gweithredu diwygiedig, y mae'n bosibl eu cyflawni, wedi'u cytuno â'r swyddogion priodol.

6. Diweddariad archwilio mewnol

6.1 Cafodd y cynnydd a wnaed o ran cyflawni rhaglen archwilio mewnol 2025-2026 ei drafod a'i nodi gan y Pwyllgor.

7. Diweddariad archwilio allanol

7.1 Cafwyd diweddariad hefyd ar raglen gwerth am arian Archwilio Cymru, a'r adroddiadau a gyhoeddir maes o law.

Ysgrifenyddiaeth ARAC