Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: 25 Chwefror 2025
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio A Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Mike Usher, Cadeirydd - Cyfarwyddwr Anweithredol, ARAC LlC ac ARAC y Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau (CS&I)
- Nigel Reader, Cadeirydd - Aelod Annibynnol, ARAC y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar (HSCEY)
- Gareth Pritchard, Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol, ARAC y Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg (ECWL)
- Mel Doel, Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol, Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth (EET)
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp ECWL
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp HSCEY, Prif Weithredwr GIG Cymru
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Peter Ryland, Prif Weithredwr WEFO, yn dirprwyo ar ran Cyfarwyddwr Cyffredinol EET
- Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid
- David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu
- Kim Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon, Llywodraethiant a Grantiau
- Helen Morris, Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
- Richard Harries, Archwilio Cymru
- Anthony Veale, Archwilio Cymru
- Matthew Mortlock, Archwilio Cymru
Hefyd yn bresennol
- Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol
- Ysgrifenyddiaeth ARAC
- Rheolwr rhaglen – Y Swyddfa Cyflenwi Rhaglenni
1. Datganiadau o fuddiant
1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.
2. Materion yn codi o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2024
2.1 Cytunodd y Pwyllgor fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cyflawn a chywir. Nododd yr Aelodau y cynnydd da a wnaed o ran rhoi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith a derbyniwyd diweddariadau ar y rhai nad ydynt wedi eu cwblhau eto.
3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i’r Pwyllgor ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:
- Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn gadael Llywodraeth Cymru ddiwedd mis Mawrth 2025 ac mae trefniadau ar y gweill i benodi ei olynydd.
- Cyhoeddwyd y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025-2026 ar 20 Chwefror 2025 a bydd yn awr yn dechrau ar gyfnod craffu’r Senedd.
- Mae aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil wedi cael eu briffio ar y fethodoleg ar gyfer cyflawni yn dilyn cyhoeddiad gan y Prif Weinidog am y blaenoriaethau. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Uned Gyflawni fel rhan o Swyddfa’r Cabinet i helpu i reoli’r cynnydd yn ystod 12 mis terfynol y llywodraeth hon.
- Sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (PAPAC) ar Gyfrifon Cyfunol 2023-2024 Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2025.
4. Materion llywodraethu a risg
Y Gofrestr Risgiau Corfforaethol
4.1 Cafodd yr Aelodau gyflwyniad ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a thrafodwyd a chymeradwywyd y sail resymegol dros y risgiau sydd wedi eu hychwanegu ati a’u tynnu oddi arni. Cymeradwyodd yr Aelodau hefyd y modd rhagweithiol y caiff y gofrestr ei defnyddio i reoli risgiau ar draws y sefydliad.
4.2 Croesawodd yr Aelodau y gwaith ychwanegol sydd wedi ei gynllunio i gynyddu’r pwyslais ar sganio’r gorwel. Nodwyd hefyd bwysigrwydd y gwaith hwn, nid o safbwynt canolbwyntio ar risgiau yn unig, ond hefyd o safbwynt ystyried y cyfleoedd sy’n gysylltiedig â meysydd newydd ac sy’n dod i’r amlwg.
Argymhellion Archwilio heb eu cwblhau
4.3 Nododd y Pwyllgor y cynnydd da a wnaed o ran rhoi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith. Er gwaethaf hynny, gofynnodd y Pwyllgor i bapurau yn y dyfodol ddarparu manylion yr argymhellion heb eu cwblhau a gyflwynwyd ers y cyfarfod diwethaf, er mwyn ei alluogi i asesu’r cynnydd tuag at weithredu yn well.
Adroddiadau Chwarterol ARAC y Grwpiau
4.4 Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau chwarterol Cadeiryddion y Grwpiau ARAC yn dilyn y cylch diwethaf o gyfarfodydd a’u nodi.
Y Rhaglen Newid Corfforaethol
4.5 Trafododd y Pwyllgor Gam 3 y Rhaglen Newid Corfforaethol a chymeradwyo’r meysydd allweddol y bydd yn canolbwyntio arnynt. Amlinellodd yr Aelodau bwysigrwydd trefniadau llywodraethu effeithiol ar gyfer y rhaglen, gan gynnwys y newid mewn diwylliant ac ymddygiad sydd eu hangen i gyd-redeg â’r newidiadau i systemau a phrosesau. Gofynnodd yr Aelodau i gael diweddariad pellach tua diwedd 2025.
Cyflenwi rhaglenni a phrosiectau
4.6 Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar y mecanweithiau – y rhai a gyflwynwyd a’r rhai a gynlluniwyd – i wella dull Llywodraeth Cymru o gyflenwi rhaglenni a phrosiectau.
4.7 Cymeradwyodd yr Aelodau y gwaith sy’n cael ei wneud a chydnabuwyd pwysigrwydd sgiliau cyflenwi rhaglenni a phrosiectau i gyflawni amcanion yn llwyddiannus. O ystyried pwysigrwydd y maes hwn, gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad ar y cynnydd yn erbyn y gweithgareddau a gynlluniwyd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Diweddariad ar y sefyllfa ariannol
4.8 Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn ar gyfer 24-25, pan ragwelir y cyflawnir cyllideb gytbwys, ac am ddiweddariad ar y gyllideb derfynol ar gyfer 25-26 y cytunwyd arni yn ddiweddar.
4.9 Nododd y Pwyllgor y bydd y cyllidebau dirprwyedig ar gyfer costau rhedeg adrannau yn trosglwyddo i’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol o 1 Ebrill 2025.
5. Diweddariad ar archwilio allanol
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Archwilio Cymru ar ei ddull arfaethedig o adolygu Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn 30 Tachwedd 2025 gan olygu y bydd yn bosibl i’r cyfrifon gael eu gosod gerbron y Senedd a’u cyhoeddi yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr 2025.
5.2 Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad hefyd ar raglen astudiaethau gwerth am arian Archwilio Cymru, a oedd yn cynnwys cynnydd y Fenter Twyll Genedlaethol, rhagor o waith a gynlluniwyd yn dilyn cyhoeddi eu hadroddiad ar Wasanaethau Canser ym mis Ionawr 2025, a’r gwaith ar gynaliadwyedd ariannol y pedwar corff diwylliant.
6. Diweddariad ar archwilio mewnol
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad ar waith archwilio mewnol ac ar y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r cynllun gwaith ar gyfer 2024-2025. Sicrhawyd yr Aelodau y ceir corff digonol o waith i lywio barn sicrwydd flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol.
6.2 Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar y Siarter a Mandad Archwilio Mewnol sy’n elfennau gorfodol o’r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd a fydd yn dechrau cael effaith yn y sector cyhoeddus ar 1 Ebrill 2025. Yn unol â’r safonau, mae’n ofynnol i’r Siarter a’r Mandad gael eu hystyried gan ARAC a’u llofnodi ar ei ran gan Gadeirydd y Pwyllgor a’r Ysgrifennydd Parhaol. Croesawodd y Pwyllgor gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â’r safonau newydd ac argymell y dylid llofnodi’r dogfennau a’u gwneud yn destun adolygiad blynyddol.
Ysgrifenyddiaeth ARAC
Dyddiad Cyhoeddi - Mai 2025
