Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mike Usher - Cyfarwyddwr Anweithredol, Chadeirydd - ARAC LlC ac ARAC CS&I
  • Nigel Reader - Aelod Annibynnol, Cadeirydd - Bwrdd Sicrwydd HSCEY
  • Mel Doel - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd EET
  • Gareth Pritchard - Aelod Annibynnol, Cadeirydd - Bwrdd Sicrwydd ECWL
  • Kevin Roberts - Aelod Annibynnol, Cadeirydd - Bwrdd Sicrwydd LGHCCRA
  • Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp LGHCCRA
  • Judith Paget - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
  • Emma Williams - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp ECWL
  • Dean Medcraft - Cyfarwyddwr Cyllid
  • David Richards - Cyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg
  • Tracey Breheny - Cyfarwyddwr, Strategaeth a Busnes Corfforaethol HSCEY
  • Peter Ryland - Prif Weithredwr WEFO
  • Kim Jenkins - Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon, Llywodraethiant a Grantiau
  • Helen Morris - Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
  • Clare Thomas - Archwilio Cymru
  • Anthony Veale - Archwilio Cymru
  • Matthew Mortlock - Archwilio Cymru
  • Piers Bisson - Cyfarwyddwr, y Cyfansoddiad (ar gyfer eitem Diwygio'r Senedd)
  • Will Whiteley - Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio'r Senedd (ar gyfer eitem Diwygio'r Senedd)
  • Cariad Hazard - Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Corfforaethol a Busnes y Llywodraeth, y Grŵp HSCEY

Hefyd yn bresennol

  • Pennaeth y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Llywodraethiant Corfforaethol
  • Pennaeth Cyfrifyddu Ariannol a Thechnegol
  • Pennaeth y Swyddfa Cyflawni Prosiectau (ar gyfer eitem PPM)
  • Ysgrifenyddiaeth ARAC

1. Datganiadau o fuddiant

1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.

2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2025

2.1 Cytunodd y Pwyllgor fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cyflawn a chywir. Nododd yr Aelodau y cynnydd da a wnaed o ran rhoi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith, a chafwyd diweddariadau ar y rhai nad oeddent wedi eu cwblhau.

3. Cylch gorchwyl

3.1 Cafodd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor ei drafod a'i gymeradwyo'n unol â'r gofyniad blynyddol.

4. Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2024-2025

4.1 Trafododd y Pwyllgor adolygiad Archwilio Cymru o Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025, ac adroddiad cryno Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r farn archwilio arfaethedig. Nodwyd mai 15 Rhagfyr oedd y dyddiad llofnodi disgwyliedig, yn amodol ar gwblhau'r gwaith archwilio a oedd yn weddill.

4.2 Cafodd y Pwyllgor ei friffio'n fanwl ar y prisiad benthyciadau myfyrwyr a'r ystod o gasgliadau posibl sydd ar gael i Archwilio Cymru, a nodwyd nad oedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi dod i ddyfarniad archwilio terfynol eto.

4.3 Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi'r amrywiol sicrwydd cadarnhaol yr oedd Archwilio Cymru yn gallu ei dynnu o'i waith, gan gynnwys:

  • Yr adolygiad pum mlynedd o'r rhwydwaith ffyrdd, lle'r oedd arbenigwyr allanol wedi dod i'r casgliad nad oedd unrhyw addasiadau i'w gwneud.
  • Nid oedd unrhyw faterion sylweddol wedi'u nodi gyda'r datganiadau ariannol ar gyfer Grŵp Llywodraeth Cymru (ar wahân i'r trafodaethau sy'n parhau ar brisio benthyciadau myfyrwyr).
  • Y cynnydd sylweddol a wnaed eleni o ran mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â nwyddau / anfonebau a dderbyniwyd, a adroddwyd yn flaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 
  • Ni nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn ystod adolygiad o grantiau. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn bryderus i nodi bod rhai materion rheolaidd yn parhau mewn llywodraethiant, a chymeradwyodd y mesurau adfer a amlinellwyd gan reolwyr.

4.4 Cymeradwyodd y Pwyllgor y berthynas waith effeithiol, hyblyg a rhagweithiol yr oedd y ddau barti wedi adrodd arni, a diolchodd i gydweithwyr am eu gwaith wrth baratoi ac adolygu'r cyfrifon yn ystod blwyddyn mor heriol a oedd yn cynnwys llawer o feysydd cymhleth.

5. Llywodraethiant a risg

5.1 Trafododd y Pwyllgor y cynnydd a welwyd wrth roi sylw i'r argymhellion a wnaed yn Adroddiad Blynyddol y Swyddog Diogelu Data, gan nodi'r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu cynllun i’w gweithredu. Cytunwyd y byddai hyn yn parhau i fod yn rhan o gynllun gwaith y Pwyllgor, ac y byddai diweddariadau’n cael eu darparu mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

5.2 Trafododd y Pwyllgor y dull gweithredu a ddefnyddir i reoli Rhaglenni a Phrosiectau o fewn Llywodraeth Cymru, gan nodi bod rhai meysydd sylweddol sy'n dal i beri pryder, er bod cynnydd wedi'i wneud o ran gwella'r fframwaith rheolaeth. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd fod y maes hwn yn parhau i fod yn rhan o'i gynllun gwaith.

5.3 Trafododd y Pwyllgor y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a'r newidiadau arfaethedig a amlinellwyd gan reolwyr. Cafwyd diweddariad ar y dull newydd o sganio'r gorwel, a chymeradwyodd y Pwyllgor ei integreiddio â'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol a'r ffocws ar gyfleoedd yn ogystal â bygythiadau.

5.4 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y broses Holiadur Rheolaeth Fewnol (ICQ) ar gyfer 2025-2026, ac roedd yn fodlon ei fod yn adlewyrchu'n briodol y canlyniadau dysgu o'r ymarfer a gynhaliwyd y flwyddyn flaenorol. Ailbwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol er mwyn hyrwyddo manteision cadarnhaol yr ICQ, sut mae'n ychwanegu gwerth, a sut mae wedi arwain at welliannau i'r fframwaith rheolaeth.

5.5 Cafodd adroddiadau cryno Byrddau Sicrwydd y Grwpiau eu hystyried a'u nodi gan y Pwyllgor.

5.6 Cafodd y cynnydd a wnaed o ran cyflawni rhaglen archwilio mewnol 2025-2026 ei drafod a'i nodi gan y Pwyllgor.

6. Diweddariad archwilio allanol

Cafwyd diweddariad hefyd ar raglen gwerth am arian Archwilio Cymru, a chrynodeb o'r adroddiadau a gyhoeddwyd.

Ysgrifenyddiaeth ARAC
Dyddiad Cyhoeddi – Ebrill 2026