Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: 26 Tachwedd 2024
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio A Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Mike Usher, Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd ARAC LlC ac ARAC y Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau (CS&I)
- Nigel Reader, Cadeirydd – Aelod Annibynnol, ARAC y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar (HSCEY)
- Gareth Pritchard, Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol ARAC y Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg (ECWL)
- Mel Doel, Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol, ARAC Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth (EET)
Swyddogion
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp ECWL
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (LGHCCRA)
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp HSCEY / Prif Weithredwr y GIG
- Tim Moss, Y Prif Swyddog Gweithredu
- Peter Ryland, Prif Weithredwr WEFO
- Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid
- David Richards, Cyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg
- Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol
- Dom Houlihan, Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd
- Kim Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon, Llywodraethiant a Grantiau
- Helen Morris, Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
- Richard Harries, Archwilio Cymru
- Clare James, Archwilio Cymru
- Matthew Mortlock, Archwilio Cymru
Hefyd yn bresennol
- Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol
- Dirprwy Bennaeth Archwilio Mewnol
- Pennaeth Cyfrifyddu Ariannol a Thechnegol
- Pennaeth Cyfrifon - Cyfuno
- Uwch Archwilydd - Archwilio Cymru
- Ysgrifenyddiaeth ARAC
1. Datganiadau o fuddiant
1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.
2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024
2.1 Yn amodol ar fân ddiwygiad i ddarparu eglurder, cytunwyd ar y cofnodion fel cofnod cyflawn a chywir.
2.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor y dull rhagweithiol a ddefnyddiwyd i roi camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith. Cafwyd diweddariad ar gamau gweithredu agored a nododd y Pwyllgor y byddai sawl un yn cael sylw pan fyddai fersiynau diwygiedig o ddogfennau, megis y gofrestr risgiau, yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf.
3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Pwyllgor am nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:
- Blaenoriaethau cyflawni'r Prif Weinidog y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â gweddill y Rhaglen Lywodraethu a dyletswyddau craidd a statudol. Rhagwelir y bydd y Cabinet, dros yr wythnosau nesaf, yn cymeradwyo agweddau'r blaenoriaethau diwygiedig sy'n ymwneud â pherfformiad.
- Mae Ymchwiliad Cyhoeddus y DU ar Covid yn parhau i gymryd llawer iawn o amser swyddogion. Mae argymhellion Modiwl 1 yn cael eu hystyried ac mae swyddogion yn paratoi ar gyfer y modiwlau sy'n weddill.
- Gwnaed cyhoeddiadau polisi allweddol yn ymwneud â'r Ardoll Ymwelwyr a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Tachwedd.
- Mae mecanwaith y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei hadolygu i sicrhau bod digon o arbenigedd a gallu i sicrhau y caiff ei chyflawni'n llwyddiannus.
- Y canolbwynt ar wydnwch a llesiant ar draws y sefydliad. Mae canlyniadau arolwg staff 2024 ar fin cael eu cyhoeddi, a bydd y canlyniadau cychwynnol yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Gweithredol ar ddiwedd mis Tachwedd.
4. Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2023-2024 ac ISA 260
4.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad am yr adolygiad, gan Archwilio Cymru, am Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, y disgwylir iddynt gael eu llofnodi a'u gosod gerbron y Senedd ar 29 Tachwedd.
4.2 Cyflwynodd Archwilio Cymru ei ddogfen ISA 260 sy'n amlinellu casgliadau ei adolygiad o'r cyfrifon cyfunol. Tynnwyd sylw at y berthynas waith effeithiol, hyblyg a phragmataidd rhwng y ddau barti.
Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn cynnig barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon. Mae un sylw naratif yn y farn ynghylch peidio â datgelu dwy elfen yn yr Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol.
4.3 Nododd ISA 260 rai meysydd lle y gellir gwella'r fframwaith rheoli ac fe nodir manylion y rhain mewn Llythyr Rheoli at Lywodraeth Cymru a gaiff ei ddarparu ar ddechrau 2025. Roedd y Pwyllgor yn fodlon argymell bod yr Ysgrifennydd Parhaol yn llofnodi'r cyfrifon a'r Llythyr Cynrychiolaeth.
4.4 Cydnabu'r Pwyllgor natur gymhleth y broses gyfrifon oherwydd ehangder y swyddogaethau, y ffin gyfrifyddu gyfuno ehangach a'r newid mewn safonau archwilio. Cymeradwyodd y Pwyllgor y dull cydweithredol sy'n cynnwys y Tîm Cyfrifon Canolog, Penaethiaid Cyllid Grŵp ac Archwilio Cymru a'r ffocws rhagweithiol ar wersi a ddysgwyd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
4.5 Diolchodd y Pwyllgor i gydweithwyr o Lywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru am eu gwaith wrth baratoi ac adolygu'r cyfrifon cyfunol o fewn yr amserlenni a ragwelir.
4. Diweddariad Archwilio Allanol
Cafodd y Pwyllgor diweddariad ar waith Archwilio Cymru ac fe dynnwyd sylw at y meysydd canlynol:
- Roedd ymgynghoriad ar ‘God Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru’ wedi cael ei lansio ac wedi cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 27 Ionawr 2025.
- Mae'r adolygiad o Gynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol yn mynd drwy'r proses glirio derfynol ac mae'n debygol o gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2025.
- Mae'r adolygiad o wasanaethau canser a chyfeiriad strategol hefyd yn mynd drwy'r broses glirio ac mae'n debygol o gael ei gyhoeddi ar ddechrau 2025.
- Mae gwaith cwmpasu yn parhau i adolygu'r Uwch Wasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.
6. Llywodraethiant a risg
6.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariadau ar broses yr Holiadur Rheolaeth Fewnol ar gyfer 2024-2025 ac adolygu Datganiad Llywodraeth Cymru ar ei pharodrwydd i dderbyn risg. Gwnaeth y Pwyllgor nodi triongliant sicrwydd, cymeradwyo'r dulliau gweithredu arfaethedig a chroesawu'r bwriad i ddarparu mwy o eglurder mewn rhai meysydd a darparu canllawiau ymarferol i staff.
6.2 Ystyriodd y Pwyllgor risgiau sy'n gysylltiedig â TG a oedd yn cynnwys digonolrwydd cyllidebau ar adeg pan fo costau trwyddedau a chontractwyr yn cynyddu, cronni dyled etifeddol ar geisiadau corfforaethol, parhad busnes a chefnogaeth barhaus i systemau gan gyflenwyr.
6.3 Er i'r Pwyllgor gymeradwyo'r camau amrywiol sy'n cael eu cymryd i liniaru'r risgiau hyn a chynyddu seibergadernid, roedd yn parhau'n ddigon pryderus i ofyn am ddiweddariad ar reoli'r risgiau hyn maes o law.
7. Diweddariad ariannol
7.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad am sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru fel yr oedd yng Nghyfnod 7. Ers i'r sefyllfa ariannol hon gael ei pharatoi, mae Datganiad Cyllideb y DU wedi digwydd ac fe roddwyd swm ychwanegol o £1.7b mewn perthynas â 2024-2025 a 2025-2026. Mae trafodaethau parhaus yn y Cabinet am y ffordd orau o i ddefnyddio'r cyllid hwn i fodloni'r meysydd blaenoriaeth. Disgwylir i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-2026 gael ei chyhoeddi ar 9 Rhagfyr.
8. Diweddariad Archwilio Mewnol
8.1 Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith archwilio mewnol a'r negeseuon allweddol sydd wedi'u cynnwys mewn adroddiadau diweddar.
Ysgrifenyddiaeth ARAC
Dyddiad Cyhoeddi – Chwefror 2025