Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: 28 Gorffennaf 2025
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio A Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Mike Usher - Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd - ARAC LlC ac ARAC CS&I
- Nigel Reader - Aelod Annibynnol, Cadeirydd - ARAC HSCEY
- Mel Doel - Aelod Annibynnol, Cadeirydd Dros Dro – Grŵp EET
- Andrew Goodall - yr Ysgrifennydd Parhaol
- Sioned Evans - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp CS&I
- Judith Paget - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp HSCEY / Prif Weithredwr y GIG
- Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp LGHCCRA
- Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp EET
- David Richards - Cyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg
- Kim Jenkins - Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon, Llywodraethiant a Grantiau
- Helen Morris - Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
- Clare Thomas - Archwilio Cymru
- Anthony Veale - Archwilio Cymru
- Matthew Mortlock - Archwilio Cymru
Hefyd yn bresennol
- Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol
- Pennaeth Rheolaeth Gyllidebol a Pholisi Ariannol
- Uwch-reolwr Llywodraethiant Corfforaethol
1. Datganiadau o fuddiant
1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.
2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mai 2025
2.1 Cytunodd y Pwyllgor fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cyflawn a chywir. Nododd yr Aelodau y cynnydd da a wnaed o ran rhoi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith, a chafwyd diweddariadau ar y rhai nad ydynt wedi eu cwblhau eto.
3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu
3.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Pwyllgor ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:
- Paratoi Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.
- Diwygio'r Senedd a phwysigrwydd cael trefniadau llywodraethu mewnol effeithiol ar waith yn y cyfnod cyn yr etholiad.
- Y ffocws parhaus ar gyflawni yn erbyn ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, a blaenoriaethau'r Prif Weinidog.
- Y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial, a phwysigrwydd fframwaith rheoli cadarn ar gyfer ei ddefnyddio.
Penodiad Jacqueline Totterdell yn Gyfarwyddwr Cyffredinol newydd y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar, ac yn Brif Weithredwr GIG Cymru.
4. Materion llywodraethu a risg
Parhaodd y Pwyllgor â'r gwaith o graffu ar ddogfennau allweddol ac adroddiadau blynyddol, gan roi sicrwydd sy'n sail i'r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 24-25. Yn benodol, fe wnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r canlynol:
- Adroddiad Blynyddol ARAC Llywodraeth Cymru
- Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol
4.2 Dechreuodd y Pwyllgor graffu ar Gyfrifon Cyfunol drafft Llywodraeth Cymru, drwy adolygu:
- Rhan Un: Yr Adroddiad ar Berfformiad sy'n amlinellu swyddogaethau Llywodraeth Cymru, ffynonellau cyllid, sut mae'r cyllid yn cael ei wario, a sut mae'n perfformio.
- Rhan Dau: Yr Adroddiad Atebolrwydd sy'n cynnwys y Datganiad ar Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol, Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff, Crynodeb o Alldro Adnoddau, a Thystysgrif ac Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.
4.3 Rhoddodd Archwilio Cymru ddiweddariad i'r Pwyllgor ar ei adolygiad o'r Cyfrifon Cyfunol drafft, gan amlinellu'r risgiau a'r heriau, sy'n cynnwys cymhlethdodau'r adolygiad pum mlynedd o'r rhwydwaith ffyrdd, a'r trawsnewid i'r model cyllid myfyrwyr newydd. Trafododd y Pwyllgor y risgiau hyn, gan nodi'r cydweithio agos parhaus rhwng Llywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru, a chymeradwyodd y broses a'r amserlen a ragwelir ar gyfer adolygu a chyhoeddi'r Cyfrifon Cyfunol.
4.4 Adolygodd y Pwyllgor y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a chafwyd diweddariad ar broses Holiadur Rheoli Mewnol 2024-25.
5. Diweddariad Archwilio Allanol
5.1 Cafwyd diweddariad hefyd ar raglen gwerth am arian Archwilio Cymru, a'r adroddiadau a gyhoeddir maes o law.
Ysgrifenyddiaeth ARAC
Dyddiad Cyhoeddi – Hydref 2025
