Cyfarfod, Dogfennu
Cyfarfod y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol: 25 Mai 2023
Agenda ar gyfer Cyfarfod Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru Rhif 12, 10.00am 25ain Mai 2023, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Coed Pella, Bae Colwyn.
Ar y dudalen hon
Agenda
- Ymddiheuriadau 10.00
- Cyflwyniadau 10.05
- Datganiad o Fuddiannau 10.10
- Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 03.02.23, a Materion sy’n Codi 10.15
- Cyhoeddiadau’r Cadeirydd 10.20
- Eitemau gan y Grwpiau Rhanbarthol 10.25
- Glannau Bae Colwyn: Cyflwyniad gan Owen Conry, Rheolwr Perygl Llifogydd a Seilwaith - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 10.55
---------Egwyl--------- 11.25
- Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff: Owain George, Dŵr Cymru 11.35
- Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth – Goblygiadau o ran Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol - Corinna James, Pennaeth Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru 12.05
---------Cinio--------- 12.35
- Is-bwyllgorau
- 10.1 Yr Is-bwyllgor Adnoddau – cadarnhau aelodaeth yr Is-bwyllgor, cael cofnodion y pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Mai 2023 ac ystyried ymatebion i Adroddiad y Pwyllgor Adnoddau. 13.15
- 10.2 Yr Is-bwyllgor Polisi a Deddfwriaeth – cadarnhau aelodaeth yr Is-bwyllgor. 13.50
- 10.3 Yr Is-bwyllgor Ymchwil – ystyried cynnig i sefydlu’r Is-bwyllgor, ystyried cylch gwaith drafft a chadarnhau aelodaeth yr Is-bwyllgor. 13.55
- Adroddiadau
- 11.1 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2023 – cytuno ar yr Adroddiad 14.05
- 11.2 Cynllunio - Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol – Gwelliannau Pellach – cadarnhau’r ymateb a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru 14.15
Egwyl 14.20
- 11.3 Rheoli Effeithiau Llifogydd yng Nghymru 2050: Adolygiad i’w gynnal gan Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru - cadarnhau’r ymateb ar gyfer yr Adroddiad Cwmpasu a chael diweddariad gan Jeremy Parr ar ran Grŵp Cynghori’r Prosiect. 14.30
- 11.4 Rhaglen Waith y Pwyllgor – cael adroddiad y Cadeirydd ynghylch y Rhaglen Waith ac ystyried yr argymhelliad bod y Rhaglen Waith sydd wedi’i diweddaru yn cael ei chymeradwyo. 14.55
- Unrhyw fusnes arall a roddwyd gwybod i’r Cadeirydd o flaen llaw. 15.05
- Dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf –
Dydd Mercher 6 Medi 2023, Microsoft Teams (cyfarfod rhithwir)
Diwedd y cyfarfod 15.10
