Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Anna Bartlett-Avery, Llywodraeth Cymru
  • Alison Saunders, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
  • David Williams, Trafnidiaeth Cymru (TC)
  • Dyfed Huws, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)
  • Gareth Thomas, Llywodraeth Cymru
  • Glyn Jones (Cadeirydd), Llywodraeth Cymru
  • Helen Wilkinson, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Lisa Trigg, Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Rhiannon Caunt, Llywodraeth Cymru
  • Roger Whitaker, Athro, Prifysgol Caerdydd
  • Sam Hall, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Simon Renault, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
  • Tom Anderson, Cymwysterau Cymru
  • Vince Devine, Llywodraeth Cymru

Cyflwynwyr / arsyllwyr

  • Rebecca Cook, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)
  • Ifan Evans, Llywodraeth Cymru
  • Adam Al-Nuaimi, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
  • Richard Palmer, Data Cymru
  • John Morris, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Iain Bell, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)

1. Cyflwyniadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf a'r camau gweithredu

Croesawodd Glyn Jones yr aelodau i ail gyfarfod Rhwydwaith Arweinwyr Data Cymru.

Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddwyd cofnodion y cyfarfod cyntaf ar wefan Llywodraeth Cymru. Cytunodd y rhai a oedd yn bresennol fod y cofnodion yn gofnod gwir a chywir o'r cyfarfod.

Cwblhawyd yr holl gamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf.

Gofynnodd Glyn Jones i'r rhai a oedd yn bresennol am eu caniatâd i gynnwys eu henwau ochr yn ochr ag enw eu sefydliad yn y cofnodion cyhoeddedig ac i gynnwys delweddau o'r cyfarfodydd mewn trydariadau. Cytunodd yr Aelodau ar y cynigion hyn.

2. Strategaethau data

Strategaeth Ddigidol a Data Iechyd a Gofal – Ifan Evans (Llywodraeth Cymru)

Rhoddodd Ifan Evans (Cyfarwyddwr – Technoleg, Digidol a Thrawsnewid) gyflwyniad ar gynnydd datblygiad y Strategaeth Ddigidol a Data Iechyd a Gofal.

Bydd y Strategaeth Ddigidol a Data Iechyd a Gofal yn adeiladu ar y strategaeth ddigidol bresennol a gyhoeddwyd yn 2016 ac yn ei disodli. Bydd y strategaeth newydd yn adlewyrchu'r datblygiadau cyflym mewn technoleg ddigidol ers 2016 a'r gwersi a ddysgwyd yn ystod pandemig COVID-19. Bydd hefyd yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'r Adnodd Data Cenedlaethol.

Mae cwmpas y strategaeth newydd yn eang ac yn ymdrin â phynciau fel:

  • Rhyngweithredu
  • Meddalwedd a chodio Open Source
  • Symud i seilwaith TG a phensaernïaeth sy'n seiliedig ar gymylau
  • Asesiadau o gynhyrchion, systemau ac atebion digidol sy'n bodoli eisoes
  • Datblygu'r gweithlu a chynllunio olyniaeth
  • Cysylltu â'r diwydiant
  • Perchnogaeth data a chofnodion gofal

Mae cam ymchwil y rhaglen yn dod i ben a’r cam nesaf fydd ymgynghori â rhanddeiliaid. Yr amserlen bresennol ar gyfer cwblhau'r gwaith datblygu yw Ebrill 2022.

Adnodd Data Cenedlaethol – Strategaeth Ddata – Rebecca Cook (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)

Mae’r Adnodd Data Cenedlaethol (ADC) yn rhaglen strategol 10 mlynedd a sefydlwyd yn 2018, fel rhan o'r Adolygiad Pensaernïaeth Ddigidol trosfwaol. Uchelgais y strategaeth yw darparu dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â data iechyd a gofal ledled Cymru.

Yn 2021, cychwynnwyd adolygiad strategol o'r prosiect, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Gartner. Roedd yr adolygiad yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid i gasglu gofynion a nodi eu disgwyliadau o ran beth ddylai'r ADC fod. Ochr yn ochr â chasglu gofynion, nododd Gartner feysydd o arfer da presennol hefyd, gan gynnwys llywodraethu gwybodaeth a deddfwriaeth. Roedd hefyd yn ofynnol cysoni Strategaeth Ddata ADC â strategaethau, fframweithiau a rhaglenni eraill.

Mae'r adolygiad bellach wedi'i gwblhau ac mae'r adroddiad llawn yn cael ei asesu'n fewnol cyn ei gyhoeddi. Mae pum elfen i'r adroddiad:

  1. Asesiad o gynnydd a themâu sy'n dod i'r amlwg
  2. Gweledigaeth a nodau strategol yr ADC
  3. Model gweithredu targed yr ADC
  4. Pensaernïaeth gysyniadol a rhesymegol [TG] yr ADC
  5. Y Map Ffordd Strategol

Gofynnodd Adam Al-Nuaimi (ACC) a oedd yr ADC wedi'i gynllunio ar gyfer dadansoddeg yn unig neu a fyddai'n cefnogi gwaith gweithredol hefyd ac a fyddai ID defnyddiwr sengl yn cael ei ddefnyddio. Atebodd Rebecca Cook y bydd yn cefnogi gofynion dadansoddol a gweithredol ac y byddai amrywiaeth o IDs defnyddwyr yn cael eu defnyddio.

Dywedodd Helen Wilkinson fod prosiectau mawr yn aml yn ei chael hi’n anodd nodi a dangos ‘gwerth’ o ran canlyniadau a’i bod yn aml yn anodd meintioli a dangos tystiolaeth o wir werth asedau data. Atebodd Rebecca Cook eu bod yn bwriadu caffael meddalwedd 'olrhain gwerth' i helpu i gynhyrchu'r wybodaeth hon. Adroddodd Glyn Jones fod y Gwasanaeth Data Cenedlaethol (GDC) yn ymchwilio i 'ganlyniadau a gwerth' ac y byddai'n rhannu unrhyw ganfyddiadau gyda'r rhwydwaith hwn.

Gofynnodd Tom Anderson (Cymwysterau Cymru) sut y byddai gofynion croes yn cael eu blaenoriaethu ac a oedd unrhyw wahaniaethau rhwng defnydd dadansoddol a gweithredol. Atebodd Rebecca Cook y byddai gofynion yn cael eu grwpio'n gyfres o themâu a llinellau cynnyrch a byddai'r rhain wedyn yn cael eu mesur yn erbyn blaenoriaethau. Mae'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â defnydd dadansoddol a gweithredol yr un fath, fodd bynnag, mae'r goddefiannau risg cysylltiedig yn wahanol ac mae angen dulliau gwahanol.

Diweddariad Awdurdod Cyllid Cymru – Adam Al-Nuaimi (Awdurdod Cyllid Cymru)

Esboniodd Adam Al-Nuaimi fod ACC yn cysoni eu gwaith â Strategaethau Digidol a Data Llywodraeth Cymru.

Mae'r sefydliad yn cynnal rhaglen ddarganfod 12 wythnos o hyd i ymchwilio i'r potensial o sefydlu platfform, lle mae data treth a data ariannol arall yn gysylltiedig ag eiddo unigol. Byddai gwasanaeth wedyn yn cael ei ddarparu, i alluogi dinasyddion a sefydliadau i gael gafael ar wybodaeth ariannol fel cyfraddau'r Dreth Gyngor a chyfraddau ar gyfer trafodion eiddo ac ati o un ffynhonnell. Byddai'r gwasanaeth defnydd posibl yn eang, o gael gafael ar wybodaeth wrth brynu eiddo unigol, hyd at ddarparu data ac ystadegau a ddefnyddir i lywio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a rhaglenni tai lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae'r prosiect yn dal i fod yn y cyfnod darganfod cynnar, ond mae ACC yn cydnabod y bydd datblygu system o'r fath yn heriol ac y bydd yn cynnwys mewnbwn sylweddol gan randdeiliaid.

Diolchodd Glyn Jones i'r holl gyfranwyr am eu cyflwyniadau a gofynnodd i'r aelodau ystyried yr holl bwyntiau a godwyd, yn enwedig sut y gellir cysoni strategaethau data unigol.

Soniodd Helen Wilkinson (Cyfoeth Naturiol Cymru) fod gan CNC wybodaeth, data a strategaethau geo-ofodol a bydd yn adolygu’r rhain yng nghyd-destun strategaethau data newydd y DU a strategaeth Digidol LlC. Cytunodd Helen i drafod rhai ohonynt mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

3. Cymunedau data – Diweddariad – Richard Palmer (Data Cymru)

Dim ond nifer fach o ymatebion i'r blog ar y cyd y mae Data Cymru wedi'u derbyn yn gwahodd pobl i ymwneud â Chymunedau Data, fodd bynnag, cynhyrchwyd cryn dipyn o ddiddordeb yn ystod cyfres o weminarau â thema data a gyflwynwyd ganddynt. Roedd y gweminarau'n ymdrin â thair thema:

  • Delweddu Data
  • Hygyrchedd Data
  • Power BI o fewn sefydliad

Bydd Data Cymru yn sefydlu rhwydwaith o arweinwyr data strategol mewn Awdurdodau Lleol.

Awgrymodd Simon Renault (Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol) y dylai'r cymunedau geisio ehangu eu cwmpas i gynnwys y rhai sydd â diddordeb mewn data (h.y. Cymunedau o Ddiddordeb) yn ogystal ag arbenigwyr data (h.y. Cymunedau Ymarfer).  Cytunodd Simon Renault a Richard Palmer i drafod hyn ymhellach.

Roedd consensws y byddai cymuned delweddu Power BI/Data yn fuddiol. Soniodd Rebecca Cook hefyd am grŵp dadansoddeg uwch a chytunodd i siarad â Richard Palmer ynglŷn â hyn.

Awgrymodd Helen Wilkinson y dylid llunio rhestr o'r grwpiau data cyfredol fel nad oes dyblygu wrth sefydlu cymunedau data newydd. Awgrymodd Helen hefyd y dylai aelodau ystyried sefydlu pennod i Gymru fel rhan o'r Gymdeithas Rheoli Data (DAMA).

Gofynnodd Rhiannon Caunt i'r aelodau rannu manylion unrhyw grwpiau/cymunedau data cyfredol y maent yn ymwybodol ohonynt fel y gall drosglwyddo'r manylion i Simon Renault a Richard Palmer.

Gofynnodd Adam Al-Nuaimi y dylai pob cymuned a grŵp fod ar agor ac y dylid osgoi systemau a oedd yn gofyn am gymwysterau defnyddwyr.

4. Cyflymydd Cenedl Ddata (CCD) – Diweddariad – Yr Athro Roger Whitaker (Prifysgol Caerdydd)

Mae’r Cyflymydd Cenedl Data yn fenter Cymru gyfan dan arweiniad Prifysgolion yng Nghymru sydd â'r nod o gyflymu'r defnydd o ddata, gwyddor data ac AI i sicrhau effeithiau cymdeithasol, iechyd ac economaidd.

Meysydd allweddol y CCD yw:

  • Perthnasoedd Strategol
  • Sgiliau a'r gweithlu
  • Iechyd a Lles
  • Grymuso Dinasyddion
  • Gwella Cynaliadwyedd
  • Arloesedd Cynnyrch a Gwasanaethau
  • Datgloi data

Darperir mentrau drwy 'brosiectau Sprint', sy'n gyd-fentrau arloesol rhwng Addysg Uwch a'r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae'r Consortiwm CDD yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau ledled Cymru yn ystod 2022. Bydd yr Athro Whitaker yn rhoi rhagor o fanylion unwaith y byddant ar gael.

5. StatsCymru3 – Cyfleoedd Posibl – John Morris (Llywodraeth Cymru)

Mae StatsCymru yn wasanaeth ar-lein gan Lywodraeth Cymru sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld, trin, creu a lawrlwytho tablau o ddata Cymreig sydd ag API. Mae'r fersiwn bresennol (yr ail) o StatsCymru dros 10 mlwydd oed ac mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar raglen ddarganfod i gasglu'r gofynion ar gyfer Fersiwn 3. Un ystyriaeth yw defnyddio'r model gwasanaeth a ddefnyddir gan DataMapWales, sy'n cynnal data geo-ofodol Llywodraeth Cymru a data geo-ofodol gan bartneriaid trydydd parti, gan ganiatáu iddynt uwchlwytho eu data eu hunain at eu defnydd eu hunain a'r cyhoedd.

Gofynnodd John Morris i'r aelodau roi gwybod i'w rhwydweithiau am brosiect StatsCymru3 a'u gwahodd i gysylltu ag ef er mwyn trafod:

  • Unrhyw ofynion a allai fod ganddynt
  • A oes ganddynt ddiddordeb mewn cyhoeddi eu data drwy'r gwasanaeth newydd hwn

6. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Bydd y cyfarfod nesaf ddydd Mawrth, 24 Mai 2022.

7. Unrhyw fusnes arall

Glyn Jones yn mynychu cyfarfodydd Cyngor Prif Swyddogion Data'r DU. Eitem ar yr agenda yn y cyfarfod sydd i ddod yw 'Rolau Data yn y Fframwaith Digidol, Data a Thechnoleg'. Gofynnwyd i'r Aelodau gysylltu â Glyn Jones os ydynt yn dymuno cyfrannu at y drafodaeth.

Gofynnodd Rhiannon Caunt i'r aelodau awgrymu eitemau ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

8. Crynodeb o'r camau gweithredu

Rhif Camau gweithredu Perchennog/perchnogion
2.1 Mewn cyfarfod yn y dyfodol, Helen Wilkinson i rannu gwybodaeth am ddatblygiad strategaethau data amgylcheddol CNC, gan gynnwys unrhyw gydberthnasau cyd-destunol â strategaethau data eraill. Helen Wilkinson
2.2 Trafodaeth ar sefydlu a rhoi cyhoeddusrwydd ehangach i gymunedau data. Simon Renault a Richard Palmer
2.3 Rebecca Cook i siarad â Richard Palmer am y grŵp dadansoddeg uwch mewn perthynas â sefydlu cymunedau data. Rebecca Cook
2.4 Aelodau'r grŵp i anfon gwybodaeth am grwpiau/cymunedau data presennol at Rhiannon Caunt. Aelodau'r grŵp
2.5 Rhiannon Caunt i edrych ar bwrpas penodau DAMA a sut maen nhw'n gweithredu. Rhiannon Caunt
2.6 Aelodau'r grŵp i ledaenu gwybodaeth am ddatblygiad StatsCymru3 i'w rhwydweithiau. Aelodau'r grŵp
2.7 Yr Athro Roger Whittaker i roi manylion am y rhaglen digwyddiadau DNA pan fyddant ar gael. Yr Athro Roger Whittaker
2.8 Dylid anfon eitemau ar gyfer yr agenda yn y dyfodol at Rhiannon Caunt. Aelodau'r grŵp