Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

  • Alison Saunders, Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
  • David Ford, yr Athro, ADRW Cymru / SAIL
  • Gareth Thomas, Llywodraeth Cymru
  • Glyn Jones (Cadeirydd), Llywodraeth Cymru
  • Helen Wilkinson, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Iain Bell, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)
  • John Morris, Llywodraeth Cymru
  • Lisa Trigg, Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Rebecca Cook, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
  • Rhiannon Caunt, Llywodraeth Cymru
  • Rhiannon Lawson, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
  • Richard Palmer, Data Cymru

Cyflwynwyr / sylwedyddion

  • David Nicholson, Llywodraeth Cymru
  • Owen Davies, Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Sam Villis, Cyllid Cymdeithasol

Ymddiheuriadau

  • Adam Al-Nuaimi, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
  • Anna Bartlett-Avery, Llywodraeth Cymru
  • David Williams, Trafnidiaeth Cymru (TrC)
  • Roger Whitaker, yr Athro, Prifysgol Caerdydd
  • Sam Hall, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Tom Anderson, Cymwysterau Cymru
  • Vince Devine, Llywodraeth Cymru

1. Rhagymadrodd a nodyn o'r cyfarfod diwethaf

Nododd Helen Wilkinson nifer fach o fân newidiadau i gofnod y cyfarfod a bydd yn anfon y testun diwygiedig i'w gynnwys mewn nodyn wedi'i ddiweddaru.

Trafodwyd y posibilrwydd o gynnwys y Comisiwn Geo-ofodol yn y rhwydwaith. Mae Llywodraeth Cymru'n cysylltu â nhw’n rheolaidd ar ystod o faterion; fodd bynnag, cytunwyd y dylid eu gwahodd i'r cyfarfod a fydd yn canolbwyntio ar ddata geo-ofodol.

Diweddarodd Richard Palmer y grŵp ar gymunedau data. Mae'r Uned Ddata'n drafftio tudalen ar gyfer eu gwefan, a fydd yn mynd yn fyw yn yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd hyn yn cyfeirio pobl at gymunedau data newydd yn ogystal â rhai sy'n bodoli eisoes, y gallai rhai ohonynt gael eu hwyluso gan sefydliadau eraill. Bydd Rhiannon Lawson hefyd yn ceisio hyrwyddo trwy wefan CDPS.

Nododd aelodau’r grŵp y meysydd canlynol lle mae diddordeb mewn ymuno â chymuned ddata neu ei sefydlu: 

  • Power BI / Delweddu data
  • Data Agored
  • Gwyddor Data
  • Dadansoddeg Uwch

Crybwyllwyd, er bod Cymuned Ddiddordeb ar gyfer Gwyddor Data ledled y DU eisoes, dywedwyd y gallai fod budd o sefydlu cymuned yng Nghymru sy'n hygyrch i'r rhai sy'n newydd i'r maes hwn. Cytunodd John Morris i drafod hyn ymhellach gyda Richard Palmer.

Edrychodd Rhiannon Caunt i mewn i ganghennau DAMA; fodd bynnag, nid oedd yn glir pa fanteision a pha mor ddwys o adnoddau fyddai sefydlu cangen i Gymru. Awgrymwyd gwahodd cynrychiolydd DAMA i gyfarfod yn y dyfodol.

Rhannwyd dolen i gofrestru ar gyfer digwyddiadau Data Nation Accelerator (DNA) ag aelod o'r grŵp yn ystod y cyfarfod.

2. E-Gaffael a chontractio agored

Rhoddodd y pennaeth caffael masnachol yn Llywodraeth Cymru, Dave Nicholson, drosolwg i’r grŵp o’r Cynllun Gweithredu Digidol Caffael 2021-2024. Gan egluro mai nod y map ffordd digidol yw darparu’r buddion canlynol:

  • Gwella a moderneiddio systemau e-gaffael craidd fel bod systemau'n cael eu defnyddio ar draws y broses gaffael gyfan
  • Gwella’r ffordd y mae data caffael yn cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio ar draws y llywodraeth, mewn fformat sy’n cydymffurfio â Safon Data Contractio Agored (OCDS).
  • Gwreiddio polisi, gwerth cymdeithasol a blaenoriaethau amgylcheddol mewn caffael, trwy ganllawiau gwell a chasglu data'n well.

Agwedd allweddol ar y gwaith hwn yw bod yn dryloyw, gyda gweithredu a defnyddio’r Safon Data Contractio Agored (OCDS) yn helpu i gyflawni hyn.

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch a yw'r GIG a Gwasanaethau a Rennir wedi bod yn rhan o'r drafodaeth ynghylch y gwaith hwn a sut y gallant gymryd rhan. Esboniodd Dave fod yna grŵp defnyddwyr sy'n cyfarfod bob 2 fis sydd â chynrychiolwyr y GIG.

Gofynnodd Dave i’r rhai a oedd yn bresennol helpu i symud yr agenda hon yn ei blaen drwy annog eu timau caffael lleol i gyhoeddi eu data caffael yn agored.

3. Porth Newydd ar gyfer Data Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Diweddarodd Lisa Trigg ac Owen Davies o Gofal Cymdeithasol Cymru y grŵp ar borth newydd ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru gan ddarparu arddangosiad byr.

Cafodd y porth newydd dderbyniad da gan y grŵp, sy'n tynnu ar ddata o amrywiaeth o ffynonellau. Eglurodd Owen fod peth o'r data yn cael ei fewnforio â llaw ar hyn o bryd ond eu bod yn bwriadu defnyddio APIs lle bo modd.

Mae'r porth, sydd wedi'i adeiladu o amgylch Power Platform ac Azure, hefyd yn cyflwyno data geo-ofodol yn weledol. Esboniodd Owen eu bod, oherwydd problemau hygyrchedd gyda mapiau, wedi ymgorffori metadata manylach i helpu defnyddwyr, yn ogystal â'u galluogi i newid i ddelwedd fwy hygyrch.

Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cytuno bod angen ymagwedd gyson yng Nghymru ynghylch defnyddioldeb a hygyrchedd mapiau a delweddau data eraill.

Mae porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol newydd Cymru bellach yn fyw. Byddai croeso i unrhyw adborth ar y porth.

4. Sgiliau Dadansoddi Data mewn gofal cymdeithasol

Rhoddodd Sam Villis a Tom Bermudez o Gyllid Cymdeithasol drosolwg o brosiect darganfod y maent wedi bod yn gweithio arno gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Nod y prosiect yw deall yn well y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu sefydliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru o ran denu, recriwtio, cadw a datblygu dadansoddwyr data ac eraill mewn rolau sy’n ymwneud â data.

Gan ddefnyddio arolwg a chyfweliadau dilynol, mae rhai o’r canfyddiadau a nodwyd yn cynnwys:

  • Llawer o waith da ond diffyg arweinyddiaeth strategol
  • Mae dadansoddwyr yn aml yn mynd yn ynysig 
  • Diffyg ffocws ar draws sefydliadau ar ganlyniadau
  • Angen i bobl feddu ar sgiliau data ond hefyd ddeall gofal cymdeithasol

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru nawr yn datblygu’r prosiectau Alpha canlynol:

  • Llyfrgell adnoddau hyfforddi: cyfeirio, cynnal a hyrwyddo hyfforddiant ar sgiliau data
  • Disgrifiadau swydd: darparu llwyfan i awdurdodau lleol gyrchu a rhannu disgrifiadau rôl dadansoddi data
  • Teithiau data: datblygu mapiau yn dangos llifau data o fewn awdurdodau lleol
  • Cymunedau data ymarfer: darparu mannau anffurfiol ar-lein ar gyfer sgwrsio a datrys problemau

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Awst.

5. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei drefnu ar gyfer 14.00 – 16.00 Dydd Gwener 11 Hydref 2022

6. Unrhyw fater arall (UFA)

Ni chodwyd unrhyw eitemau UFA.

7. Crynodeb o gamau gweithredu

Rhif Gweithredoedd Perchennog (perchnogion)
3.1 Helen Wilkinson i anfon gwelliannau i nodyn y cyfarfod diwethaf i Lywodraeth Cymru. Helen Wilkinson
3.2 Y Comisiwn Geo-ofodol i'w wahodd i'r cyfarfod nesaf a fydd yn canolbwyntio ar ddata geo-ofodol. Llywodraeth Cymru
3.3 Aelodau i hysbysu Data Cymru o unrhyw gymunedau/grwpiau data sy'n bodoli y maent yn ymwybodol ohonynt. Aelodau'r grŵp
3.4 John Morris i drafod gyda Richard Palmer y posibilrwydd o sefydlu cymuned gwyddor data yng Nghymru ar gyfer y rhai sy'n newydd i'r maes pwnc. John Morris a Richard Palmer
3.5 Aelodau i annog eu timau caffael lleol i gyhoeddi data caffael yn agored. Aelodau'r grŵp
3.6 Aelodau i roi adborth i Lisa Trigg ac Owen Davies ar y porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol newydd i Gymru. Aelodau'r grŵp