Cyfarfodydd Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion: 21 Tachwedd 2024 a 18 Rhagfyr 2024.
Cofnodion o gyfarfodydd y Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ar 21 Tachwedd 2024 a 18 Rhagfyr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cyfarfu Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ar 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr.
Prif elfen cyfarfod mis Tachwedd oedd rhoi trosolwg i Fwrdd y Rhaglen o sut mae awdurdodau lleol yn bwriadu gweithredu trefniadau lleol i wella ysgolion, a nodi'r camau nesaf, a fydd yn cynnwys:
- Rhoi eglurder ynghylch y disgwyliadau cenedlaethol a lleol ar gyfer dysgu proffesiynol a chefnogi'r cwricwlwm o fewn diffiniad a gytunwyd o wella ysgolion i hwyluso'r cam nesaf.
- Disgrifio'n well beth yw diben cydweithredu dwfn a phwrpasol fel cyfrwng i wella ansawdd hunanwerthuso a'r broses o gynllunio gwella mewn ysgolion.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio sut y gall system agored gefnogi awdurdodau lleol i adnabod eu hysgolion.
- Ar ôl cael eglurder o ran cyllideb, cynnal trafodaeth bellach ar y trefniadau partneriaeth a sut maent yn cefnogi gwelliannau dysgu mewn ysgolion.
Rhoddodd cyfarfod Bwrdd Rhaglen mis Rhagfyr ragor o wybodaeth am rôl y Tîm Gwella Addysg, y corff arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol cenedlaethol, a'r rhaglenni cymorth cenedlaethol.
Yn dilyn cyfarfod cyntaf y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol ar 11 Tachwedd pan gytunwyd ar gylch gorchwyl y Grŵp, cyfarfu'r Grŵp Cydlynu eto ar 4 Rhagfyr pan fu'n ystyried i ba raddau y mae elfennau'r system arfaethedig ar gyfer gwella ysgolion yn gydnaws â'i gilydd. Cydnabu'r aelodau fod hyn yn benllanw llawer iawn o waith ar draws y sector, a phartneriaeth rhwng cydweithwyr yn genedlaethol, yn lleol ac ar lefel ysgolion. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd y Cadeirydd, Kirsty Williams CBE, at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ran y Grŵp, yn nodi eu safbwyntiau a'u hawgrymiadau ar gyfer gweithredu pellach.
Mae cylch gorchwyl a manylion aelodau'r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol ar gael.
Ar 5 Tachwedd gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad llafar yn cyhoeddi'r penderfyniad i sefydlu corff dysgu proffesiynol cenedlaethol. Mae'r trafodaethau gyda'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ynghylch swyddogaethau'r corff newydd a'r broses bontio yn parhau. Mae'r corff newydd hwn yn cynnwys swyddogaethau y byddwn yn eu cyflawni ar lefel genedlaethol i sicrhau cysondeb, ac mae'r rhain yn cynnwys swyddogaethau consortia rhanbarthol a'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae trafodaethau gyda'r Academi, awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol ynghylch swyddogaethau'r corff newydd, y goblygiadau ymarferol mewn perthynas â swyddogaethau lleol, a'r broses bontio yn parhau. Bydd y corff newydd yn anelu at fod yn gyfreithiol weithredol erbyn mis Ebrill 2025, a bydd rhai swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo yn ystod y misoedd wedyn.
Byddwch yn ymwybodol bod Cyllideb Ddrafft 2025 i 2026 Llywodraeth Cymru wedi'i chyhoeddi ar 10 Rhagfyr, a Setliad Llywodraeth Leol ar 11 Rhagfyr. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg hefyd wedi gwneud Datganiad Ysgrifenedig ynghylch cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer Addysg. Bydd y sector addysg yn elwa ar £225.5m o gyllid, sy'n golygu y bydd ysgolion, colegau a lleoliadau eraill yn cael cyllid i helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr ledled Cymru. Bydd y cyllid yn cynnwys £114m o gyllid ychwanegol ar gyfer 2024 i 2025 a £111.5m a ddyrannwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2025 i 2026. Rwyf wedi atodi fy llythyr, dyddiedig 11 Rhagfyr, at bartneriaid Addysg sy'n darparu rhagor o wybodaeth.
Ers lansio'r Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ddiwedd mis Ionawr 2024, rydym gyda'n gilydd wedi cymryd camau sylweddol ymlaen at ddatblygu dull newydd o wella ysgolion yng Nghymru. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd wrth inni drosglwyddo i'r trefniadau newydd yn ystod 2025, ond mae'r ymrwymiad gan bob sefydliad partner i lwyddiant y Rhaglen yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi.
Ga i fanteisio ar y cyfle hwn i estyn cyfarchion y tymor ichi i gyd a dymuniadau gorau ar gyfer y Flwyddyn Newydd.
