Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Eitem 1

Agorodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth y cyfarfod, gan groesawu pawb. 

Eitem 2

Amlinellodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yr heriau a'r pwysau ariannol sylweddol sy'n ein hwynebu, gan roi gwahoddodd i'r rheini a oedd yn bresennol dynnu sylw at eu pryderon penodol am y celfyddydau, chwaraeon a thwristiaeth yn y trydydd sector. 

Dywedodd Hazel Lloyd wrth Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth fod llythyr wedi cael ei anfon at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn amlinellu pwyntiau allweddol a hefyd yr effaith ar y trydydd sector. Roedd y rheini a oedd yn bresennol yn deall bod heriau yn ein hwynebu, ond roeddent am dynnu sylw at ganlyniadau penderfyniadau a oedd wedi'u gwneud. Mae contractau'n cael eu rhewi / nid oes mwy yn cael ei roi ar eu cyfer, mae'r cyhoedd yn rhoi llai hefyd ac mae llai o gyllid yn cael ei roi i'r sector. 

Cyfeiriodd Mathew Williams at yr effaith bosibl ar gymunedau. Mae pryderon y bydd ffioedd a thaliadau uwch yn cael effaith ar y cyhoedd. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y gallai penderfyniadau gan yr awdurdodau lleol a phenderfyniadau a wneir am refeniw effeithio ar asedau cymunedol, er enghraifft, caeau glaswellt a gwaith cynnal a chadw. Dylem ddisgwyl i asedau fel hyn gael eu had-drefnu. 

Roedd pawb yn cytuno bod y trydydd sector yn cefnogi'r agenda iechyd, ond efallai nad yw gwerth y buddsoddiad yn cael ei ddeall. Gofynnwyd i'r rheini a oedd yn bresennol ystyried cyllido ar y cyd â chyfleoedd strategol. Mae'n rhaid inni flaenoriaethu cyllid, felly sut yr ydym yn cadw'r ddysgl yn wastad rhwng hynny a nodau cynaliadwyedd hirdymor.

Mae angen i'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau ystyried y gwasanaethau ataliol a ddarperir gan y trydydd sector a sut y gallant fod o gymorth i osgoi goblygiadau iechyd hirdymor.  

Eitem 3

Rhoddodd Glyn Roberts drosolwg o'r cynllun trwyddedu ar gyfer darparwyr llety ar gyfer ymwelwyr dros nos. Nod y cynigion fyddai ceisio ennyn hyder ymhlith defnyddwyr, monitro'r sector a sut mae'n gweithredu, a rhoi gwell cefnogaeth i'r diwydiant.

Cafodd ymgynghoriad, yn ogystal â digwyddiadau ar gyfer y diwydiant, eu cynnal er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o'r manteision posibl, ac mae gwaith sy'n mynd rhagddo i gysylltu a thrafod â rhanddeiliaid yn parhau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol cyn i'r polisi terfynol gael ei gyhoeddi. 

Pwysleisiodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth fod hwn yn bolisi sy'n dal i gael ei ddatblygu a gofynnodd i'r rheini a oedd yn bresennol ystyried sut y gallai'r cynllun gefnogi'r trydydd sector. 

Cododd y rheini a oedd yn bresennol bryderon ynghylch sut y byddai'r cynllun yn berthnasol i grwpiau ffydd. Gallai grwpiau nid-er-elw wynebu baich ariannol yn sgil yr angen i wneud cais am drwyddedau ac i fodloni safonau penodol. Gofynnwyd am gadarnhad mai dim ond i fentrau masnachol y byddai'r cynllun yn berthnasol. 

Eglurodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth mai hanfod y polisi yw sicrhau safonau. Mae angen gwneud gwaith i nodi busnesau masnachol ac i ddatblygu unrhyw esemptiadau posibl. 

Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i gyfarfod â'r rheini a oedd yn bresennol ar wahân er mwyn iddynt gael meithrin gwell dealltwriaeth o sut mae'r grwpiau'n gweithredu.

Eitem 4

Trafodwyd yr heriau sy'n wynebu sefydliadau'r trydydd sector ac adeiladau rhestredig. Mae llawer o eglwysi, er enghraifft, yn cael anawsterau wrth fodloni gofynion ac maent, yn aml, yn cael eu hystyried yn faich yn hytrach nag yn asedau. 

Mae cymorth / cyllid grant yn dod yn fwyfwy anodd ei gael. Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru drosolwg o'r cynlluniau a all gynnig cymorth. 

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth fod Llywodraeth Cymru am weithio gyda pherchnogion adeiladau rhestredig i ddiogelu'n treftadaeth, gan gydnabod gwaith hanfodol y trydydd sector, sy'n caniatáu i gymunedau fod yn gysylltiedig â gwaith o'r fath.