Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion Cymru yn cwrdd â chynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol sy’n ymwneud â’u meysydd cyfrifoldeb hwy.

Mae Gweinidogion Cymru'n ymgysylltu'n aml â'r trydydd sector a hynny mewn sawl ffordd.

Er enghraifft drwy:

  • gyfarfodydd am faterion penodol 
  • ymweliadau â sefydliadau a chymunedau 
  • digwyddiadau a chynadleddau 
  • gohebiaeth 

Cydnabyddir ei bod yn bwysig i'r trydydd sector allu cwrdd â Gweinidogion i drafod materion sy'n peri pryder, ac mae'n rhan allweddol o'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector.